Oes gennych gwestiwn am ein gwaith? Hoffech chi ddysgu rhagor am rywbeth? Cysylltwch â’n tîm.
Ebost: wales@woodlandtrust.org.uk
Cymraeg
Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn nodi newid polisi sylweddol yn y ffordd y cefnogir rheoli tir ar gyfer nwyddau cyhoeddus yng Nghymru.
Mae ffermio yng Nghymru yn dechrau pennod newydd – mae polisïau, blaenoriaethau a’r ffordd y mae tir yn cael ei gefnogi yn newid – ac i lawer o ffermwyr a pherchnogion tir mae hyn yn dod ag ansicrwydd yn ogystal â chyfle.
Rydym yn deall bod hwn yn gyfnod cymhleth. Efallai y byddwch yn canfod eich hun yn ceisio gwneud penderfyniadau anodd ynglŷn â dyfodol eich tir, eich busnes a’ch etifeddiaeth.
Allwn ni ddim cymryd arnom ein bod yn gwybod yr holl atebion ac yn gallu datrys yr holl gymhlethdod, ond yr hyn y gallwn ei addo yw y byddwn ni yno i chi â chymorth ymarferol, ar seiliau cadarn, sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth go iawn o ffermio yng Nghymru, a allai eich helpu i feddwl am eich dulliau ffermio yn y dyfodol.
Mae llawer o ffermwyr a pherchnogion tir yng Nghymru yn cydnabod gwerth coed a gwrychoedd/perthi i’w busnes ers blynyddoedd – boed yn gysgod i gefnogi iechyd a lles anifeiliaid; yn ddeunydd pori maethol i ategu deiet; yn ffordd o nodi terfynau a sicrhau bioddiogelwch neu er mwyn gwella pridd a chefnogi natur.
Nawr, wrth i’r dirwedd ffermio esblygu, bydd y nodweddion tirwedd coed hanesyddol hyn yn chwarae mwy fyth o ran ac yn helpu ffermydd drwy:
Ledled Cymru, mae ffermwyr a pherchnogion tir wedi bod yn gweithio gyda Coed Cadw er mwyn integreiddio coed mewn ffyrdd sy’n ategu eu gwaith, eu busnes fferm.
Isod gallwch glywed gan rai o’r ffermwyr sydd wedi canfod gwerth mewn gweithio gyda ni yn y gorffennol. Mae eu storïau’n dangos sut mae gweithio gyda ni wedi helpu i wneud eu busnesau’n fwy gwydn, o safbwynt ariannol a diwylliannol, gan helpu i sicrhau dyfodol ffermydd gweithredol yng Nghymru am genedlaethau lawer.
Mae’n rhaid i chi ymddiried yn y bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw. Dyna pam mae Coed Cymru wedi bod yn bartner gwych.
Gwrandewch ar brofiadau o mae ffermwyr a pherchnogion tir gynyddu coed priodol ar eu ffermydd a sut mae hynny’n gweithio iddyn nhw.
Download
Mae’r system hon yn hawdd i’w chynnal, ac yn cynnwys integreiddio coed yn y dirwedd sy’n cael ei ffermio, gan ychwanegu gwerth i fyd natur ac i’ch busnes fferm.
PDF (4.02 MB)
Download
Mae lleiniau cysgodi wedi cael eu defnyddio ers cannoedd o flynyddoedd i amddiffyn da byw a chnydau rhag gwynt a glaw, gan ddarparu amrywiaeth o fanteision.
PDF (6.42 MB)
Download
Mae afonydd a nentydd yn wynebu llawer o fygythiadau, ond gall plannu coed ar hyd eu hymylon liniaru rhai o’r bygythiadau hyn, gan gynnig llu o fanteision i ffermydd a’r amgylchedd ar yr un pryd.
PDF (4.20 MB)
Download
Mae gwrychoedd yn ased gwerthfawr i unrhyw fferm, gan helpu i feithrin gwytnwch yn eich busnes.
PDF (2.87 MB)
Download
Gall integreiddio coed mewn systemau coed-ac-aredig presennol gefnogi a gwella agweddau ar eich cynhyrchiad ar yr un pryd â chynyddu gwydnwch a sicrhau’r cynhyrchiant gorau posibl.
PDF (3.78 MB)
P’un a ydych yn plannu ar gyfer cysgod, bywyd gwyllt, neu ddim ond er mwyn diogelu eich tir yn well ar gyfer y dyfodol, gallwn helpu i droi eich gweledigaeth yn gynllun.
Oes gennych gwestiwn am ein gwaith? Hoffech chi ddysgu rhagor am rywbeth? Cysylltwch â’n tîm.
Ebost: wales@woodlandtrust.org.uk