Cymraeg

Yr hanes hyd yma

Lansiwyd ein camera nyth byw yn Fferm Brynau am y tro cyntaf yn 2026, gan roi sedd flaen i wylwyr i fywydau rhai trigolion arbennig iawn - pâr o dylluanod gwyn.

Mae’r tylluanod yn manteisio i’r eithaf ar yr adeiladau amaethyddol segur rydyn ni wedi’u hadfer yn Fferm Brynau ac ar hyn o bryd maen nhw’n gori dau wy.

Cadwch lygad ar y newyddion diweddaraf ac ymunwch â’r sgwrs ar YouTube.

Cefnogwch ein gwaith

Rydyn ni’n gwarchod coed, yn adfer coedwigoedd ac yn creu hafanau diogel i fywyd gwyllt ledled y DU – gan gynnwys dolydd gwerthfawr, hen goetiroedd hynafol a choedwigoedd ifanc bywiog, sydd i gyd i’w gweld yn Fferm Brynau. Mae’r lleoedd hyn yn achubiaeth i rywogaethau gan gynnwys tylluanod gwyn, ysgyfarnogod, hebogiaid yr ehedydd a llawer iawn mwy o rywogaethau eraill sy’n dibynnu ar goedwigoedd iach i oroesi.

Mae eich rhodd yn helpu i gadw coedwigoedd yn sefydlog, nythod yn ddiogel ac eiliadau gwyllt yn fyw. Mae’n ein helpu i amddiffyn mannau gwyrdd sydd dan fygythiad oherwydd datblygiadau, cynnal arolygon bywyd gwyllt a phlannu mwy o goed.

Cyfrannwch heddiw – er iechyd coedwigoedd a choed ledled y DU.

Amount
Details
Payment
£

Cadwch eich bys ar y pwls

Gallwch gael ein newyddion diweddaraf yn syth i’ch mewnflwch, gan gynnwys straeon ysbrydoledig, ffeithiau diddorol a diweddariadau tymhorol am ein tylluanod gwyn.

Cofrestrwch i ddarganfod digwyddiadau cyffrous a chymryd rhan mewn ymgyrchoedd, codi arian a llawer mwy.

Mwy am dylluanod gwyn a Fferm Brynau

Dysgwch ragor am beth rydyn ni’n ei wneud