Edrych i mewn: Cymraeg

Author:

The Woodland Trust

Publication date:

November 2023

Publication type:

Policy paper

Pages:

33

Coed A Choedwigoedd Wrth Galon Adferiad Byd Natur Yng Nghymru Document Cover

Rydym mewn argyfwng natur. Mae Cymru yn un o’r gwledydd sydd wedi’i disbyddu fwyaf o ran natur yn y byd a dim ond 9% o’i choedwigoedd brodorol sydd mewn cyflwr ecolegol ffafriol.

Mae ein hadroddiad Coed a choedwigoedd: wrth galon adferiad byd natur yng Nghymru yn dangos y rôl ganolog y dylai coed a choedwigoedd Cymru ei chwarae wrth adfer byd natur.

Gyda llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i atal dirywiad rhywogaethau erbyn 2030 a chynyddu’r toreth o fywyd gwyllt wedi hynny, mae ein hadroddiad hefyd yn darparu argymhellion i lywodraeth genedlaethol a lleol eu rhoi ar waith i wneud i hyn ddigwydd.

Mae Coed a choedwigoedd: wrth galon adferiad byd natur yng Nghymru yn gosod egwyddorion ar gyfer adferiad natur ar dair graddfa – tirwedd, coetir a graddfa coed. Mae’n dangos yr angen i warchod coedwigoedd a choed yn well, adfer mwy o gynefinoedd coediog i gyflwr ecolegol da, a chreu coedwigoedd a choed brodorol newydd i ffurfio brithwaith llawn bywyd gwyllt gyda mathau eraill o gynefinoedd. Dim ond wedyn y gallwn ddarparu’r ecosystemau gwydn, deinamig sydd eu hangen i sefydlogi ac yna cynyddu poblogaethau rhywogaethau mwyaf agored i niwed ac o dan fygythiad Cymru, a chadw rhywogaethau bywyd gwyllt cyffredin yn gyffredin.

Download PDF (18.60 MB)