Edrych i mewn: Cymraeg

Prosiect Coedwedd Dyfi i Ddwyryd

Ein nod yw helpu eraill i ehangu ac adfer cynefinoedd coetir yng Nghymru, o’r mynyddoedd i lawr i’r aberoedd, a gwella bioamrywiaeth, a helpu’r gymuned ehangach ar yr un pryd.

Gyda chymorth Chwaraewyr y People’s Postcode Lottery, mae prosiect Coedwedd Dyfi i Ddwyryd yn bwriadu ehangu a chysylltu mwy o goed a chynefinoedd coediog. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar yr ardal wedi’i hamgylchynu gan ddwy brif afon – afon Dyfi i’r de ac afon Dwyryd i’r gogledd.

Mae tirwedd Dyfi i Ddwyryd yn cynnwys mosaig ffyniannus o gynefinoedd amrywiol, gyda chraidd o fforest law Geltaidd sy’n werthfawr tu hwnt. Mae gweddillion coetiroedd hynafol yn dal eu gafael mewn gwlis a dyffrynnoedd afonydd sy’n gyforiog o redyn a chennau.

Mae nifer o drefi bychain a phentrefi i’w cael yma ac acw, gyda mynyddoedd Parc Cenedlaethol Eryri’n denu pobl o bell ac agos. Rydym yn awyddus i weithio â phobl leol i ddefnyddio prosesau naturiol, ac i reoli cynefinoedd sy’n fuddiol i natur mewn ffordd gynaliadwy.

Un o'r gwledydd lleiaf coediog yn Ewrop

Mae coetiroedd yn cyfrif am 14% yn unig o dirwedd Cymru ac mae llai na hanner y rhain yn frodorol.

Pam mae hwn yn brosiect pwysig?

Ar un adeg roedd rhannau helaeth o Gymru’n fforest law dymherus ffyniannus neu’n gynefin coediog cyfoethog. Yn y blynyddoedd diweddar, rydym wedi gweld colledion trychinebus, gyda’n coed a’u buddiannau’n dirywio o ganlyniad i:

  • plâu a chlefydau, fel clefyd coed ynn
  • cynefinoedd yn mynd yn rhanedig
  • newid yn yr hinsawdd
  • newidiadau mewn defnydd o’r tir ar gyfer amaethyddiaeth a datblygiadau.

Bydd ein prosiect Dyfi i Ddwyryd yn ymdrechu i helpu i adfer y cysylltiadau gwerthfawr coll rhwng cynefinoedd yn y dirwedd, a hefyd i adfer a gwarchod y coetiroedd hynafol sy’n weddill a’r swyddi sy’n seiliedig ar natur yn ein cymunedau gwledig.

Yr hyn rydym yn ei wneud

Rydym yn gwneud yn siŵr bod gennym fwy o’r coed cywir yn y lle cywir, fel y bydd cynefinoedd, y bywyd gwyllt a’r bobl sy’n dibynnu arnynt yn ffynnu.

Gwarchod y fioamrywiaeth

Rydym yn gweithio â thirfeddianwyr i helpu i fapio, adfer a gwarchod y clytiau o goetiroedd hynafol sy’n weddill.

Drwy blannu ac annog adfywio naturiol mewn ffordd ofalus, rydym yn gwella cydnerthedd fel y bydd coetiroedd a’r bywyd gwyllt sydd ynddynt yn goroesi ac yn ffynnu drwy:

  • hybu cymysgedd o rywogaethau brodorol amrywiol
  • datblygu coetiroedd sy’n amrywiol o ran oedran
  • gwella a sefydlu gwrychoedd a lleiniau cysgodol i gysylltu’r cynefinoedd coediog presennol.

Cynorthwyo tirfeddianwyr

Drwy ein MOREwoods a chynlluniau grant eraill mi allwn helpu tirfeddianwyr, ffermwyr a natur i elwa ar fuddiannau tymor hir sefydlu coed, drwy ofalu bod arian ar gael, cyflenwi coed ifanc a chynnig cyngor arbenigol.

Rydym yn helpu i reoli cynefinoedd mewn ffordd sut o fudd i dirfeddianwyr ac i natur drwy gynnig dull safle penodol, a thrwy gyfeirio unigolion at y cynllun mwyaf priodol.

Gwella llesiant

Rydym am weld cynnydd mewn cynefinoedd coediog a brigdwf, mewn ardaloedd gwledig a threfol, i helpu cymunedau i ailgysylltu â choed a choetiroedd fel y gallant fanteisio ar eu buddiannau llesol, diwylliannol, economaidd a chymdeithasol enfawr.

Rydym yn gweithio â’r canlynol

Grwpiau coetiroedd cymunedol

Ers 2020, rydym wedi ymuno â Llais y Goedwig, rhwydwaith coetiroedd cymunedol Cymru, ar gyfer y prosiect CommuniTree, sy’n grymuso cymunedau i gael a thyfu hadau a choed brodorol ac i sefydlu meithrinfeydd ar gyfer prosiectau lleol.

Ffermwyr a thirfeddianwyr

Rydym yn gweithio â rhwydwaith o ffermydd i ddangos y ffordd orau i gofnodi, gwarchod, gwella a monitro coed ffermydd er lles y busnes a’r amgylchedd.

Unigolion

Rydym hefyd yn gweithio â Chynllun Tirwedd y Canolbarth i roi coed brodorol am ddim y bobl, o un goeden yn eu gerddi i wrych cyfan ar eu fferm neu dyddyn.

Partneriaid

Rydym yn cydweithio â llawer o sefydliadau sy’n rhannu ein gwerthoedd fel y gallwn barhau i greu, adfer a gwarchod coetiroedd a choed i bobl a bywyd gwyllt. O Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i RSPB Cymru o’r bartneriaeth cyd-ddylunio gyffrous Tir Canol a llawer mwy.

Gweld sut mae pobl yn gwneud gwahaniaeth

O unigolion i bartneriaid, mae pobl yn cymryd rhan mewn creu coedwedd ar gyfer y dyfodol. Darganfyddwch sut.

Sut y gallwch chi gymryd rhan

Mae gennym goed i unigolion, ysgolion, cymunedau a thirfeddianwyr. Trwy gydweithio â chi, ers 1972, rydym wedi plannu mwy na 55 miliwn o goed ar hyd a lled y DU. Drwy weithio â’n gilydd, mi allwn hybu adferiad natur yng Nghymru.

Gallwch helpu hefyd drwy gofnodi coed hynod ar y Rhestr o Goed Hynafol a thrwy wirfoddoli yn eich ardal leol.

Os hoffech chi fod yn bartner yng Nghymru a bod angen help arnoch i gynnwys coed yn eich cynlluniau, cysylltwch â ni yn wales@woodlandtrust.org.uk.

Rydym hefyd yn awyddus i siarad â pherchnogion coetiroedd yng Nghymru i ganfod a yw eich coetir yn un hynafol ac i gynnig cyngor ar ei gwarchod a’i rheoli.
E-bostiwch restoration@woodlandtrust.org.uk am ragor o wybodaeth am sut y gallwn eich helpu.

Ymweld â choetiroedd yng Nghymru

Rydym yn gofalu am sawl coetir yn ardal afonydd Dyfi a Dwyryd, ac mi allwch eu crwydro a’u mwynhau am ddim. Chwilio am goetiroedd i ymweld â hwy.

Os nad ydych yn gallu ymweld, ewch ar ein taith rithwir o amgylch Coed Felenrhyd a Llennyrch.