Cymraeg

Diolch o galon! Gallwch chi gefnogi ein hapêl frys drwy fynd i a chyfrannu heddiw. Mae pob cyfraniad yn mynd â ni gam yn nes at sicrhau dyfodol y lle eithriadol hwn.

Wedi’i lleoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri, mae’r ystâd 1,531 hectar yn un o dirweddau pwysicaf Cymru ar gyfer pobl, byd natur a chenedlaethau’r dyfodol. Mae’n cynnwys coedwig law dymherus o bwysigrwydd rhyngwladol, coetir hynafol, coed hŷn, cynefinoedd ucheldirol, a thros 800 mlynedd o dreftadaeth ddiwylliannol Gymreig.

Bydd y caffaeliad yn helpu i wireddu’r egwyddor gadwraeth o greu cynefinoedd mwy niferus, mwy o faint, o ansawdd gwell ac sy’n fwy cysylltiedig â’i gilydd, gan alluogi bywyd gwyllt i ffynnu ar draws y dirwedd, drwy:

  • ein galluogi i reoli 1,531 hectar ychwanegol ar gyfer byd natur, gan ddiogelu cynefinoedd o bwysigrwydd rhyngwladol, cyfoeth eithriadol o goed hynafol a choed hŷn o werth arbennig, ynghyd â nifer o rywogaethau prin a dan fygythiad, fel cennau coedwigoedd glaw ac adar a mamaliaid eiconig

  • ehangu cynefinoedd fel coetiroedd brodorol, prysgoed mynyddig, tir corsiog a phorfeydd rhos

  • gwella cyflwr cynefinoedd allweddol; gan gynnwys coetiroedd hynafol, mawndiroedd, rhostiroedd a phorfeydd coediog

  • creu gwell cysylltedd ecolegol yn Nannau ac ar draws y dirwedd ehangach.

Ystyrir bod Nannau yn gyswllt hanfodol rhwng dalgylchoedd afonydd Mawddach ac Wnion, sef dwy ardal bwysig i rywogaethau sy’n gysylltiedig â choedwigoedd glaw tymherus yng Nghymru. Felly, nid yw’r ystâd yn brosiect cadwraeth annibynnol, ond yn hytrach yn rhan allweddol o ymdrech fwy ar raddfa'r dirwedd i adfer byd natur, gwella’r gallu i wrthsefyll effeithiau newid hinsawdd, a chefnogi cymunedau gwledig cynaliadwy drwy gydweithio mewn partneriaeth.

Mae hon yn dirwedd o werth diwylliannol ac ecolegol eithriadol, ond mae ei systemau naturiol yn wynebu bygythiadau cynyddol yn sgil y canlynol:

  • rhywogaethau goresgynnol a chlefydau coed

  • safleoedd coetir hynafol wedi’u plannu sydd mewn cyflwr critigol ac o dan fygythiad oherwydd cysgod coed conwydd, difrod gan anifeiliaid sy’n pori, a methiant i ailblannu coed yn dilyn gwaith torri coed

  • diffyg coed sy’n adfywio’n naturiol, gan gynnwys coed a fydd yn cymryd lle'r coed hynafol a'r coed hŷn sy’n gwneud y safle mor bwysig

  • y safle’n cael ei werthu ar y farchnad agored: y risg na fyddai perchennog arall yn rheoli’r safle mewn modd sy’n ystyriol o fyd natur, gan osod amcanion a allai wrthdaro â nodau adfer byd natur

  • effeithiau newid hinsawdd, gan gynnwys sychder a'r risg o danau

  • dirywiad graddol yn nodweddion treftadaeth sy’n adrodd hanes cyfoethog y safle.

Mae hanes dynol a threftadaeth tirwedd Nannau hefyd yn gyfoethog, ac maent yn cydblethu â chwedlau a hanes diwylliannol Cymru.

Mae Coed Cadw eisiau sicrhau dyfodol hirdymor Nannau a chreu rhywbeth gwirioneddol ysbrydoledig: tirwedd wydn lle rhoddir y lle, yr amser a’r amodau angenrheidiol i fyd natur a chymunedau adfer, ailgysylltu a ffynnu, gan gefnogi bywoliaeth ar yr un pryd – a lle gall y gwaith adfer hwn ysbrydoli newid ymhell y tu hwnt i ffiniau'r ystâd.

Mae Coed Cadw yn cydnabod arwyddocâd diwylliannol a hanesyddol Nannau i’r cymunedau lleol, a bod cyfoeth o arbenigedd ar gael o fewn y cymunedau hyn, gan gynnwys tenantiaid, ffermwyr, trigolion a phartneriaid cymunedol. Bydd Coed Cadw yn gweithio’n agos gyda chymunedau lleol, gan gydgynllunio cynllun 100 mlynedd ar gyfer y tir gyda’r bobl sy’n ei adnabod orau, er mwyn galluogi byd natur a phobl i ffynnu. Byddwn yn adeiladu ar ein profiad a’n gwybodaeth am yr ardal a’i thirwedd naturiol, gan ehangu'r cymorth presennol a'r dull o gydweithio â phobl leol ar draws ystod eang o sectorau; sef rhywbeth rydym wedi bod yn ei wneud ers degawd neu fwy.

Mae gan Coed Cadw hanes llwyddiannus o gydweithio â phartneriaid, tirfeddianwyr a chymunedau yn yr ardal, gan weithio’n gefnogol gydag eraill ar gyd-ganlyniadau a chyd-brosiectau fel rhan o’n prosiect Coedwedd Dyfi i Ddwyryd. Mae hon yn ardal lle rydym wedi ymrwymo i weithio ynddi yn yr hirdymor, er mwyn ysbrydoli a galluogi adferiad byd natur ar raddfa'r dirwedd. Rydym yn gwneud hyn drwy ddarparu cymorth hyblyg i dirfeddianwyr weithredu dros fyd natur ac addasu i’r hinsawdd: gan integreiddio coed a choedwigoedd i fusnesau ffermio cynhyrchiol, ac adfer safleoedd coetir hynafol. Mae gennym hefyd dirddaliad sylweddol yn yr ardal, lle rydym yn cyflawni gwaith er budd byd natur.

Rydym yn cyflogi staff a chontractwyr lleol i reoli'r tir, yn darparu cyfleoedd i wirfoddolwyr ddatblygu sgiliau a meithrin cysylltiadau cymdeithasol, ac yn sicrhau mynediad am ddim i'r cyhoedd i’n tir drwy gydol y flwyddyn. Rydym yn cefnogi prosiectau partneriaeth ar draws ystod o wahanol raddfeydd, er enghraifft, cefnogi Parc Cenedlaethol Eryri i gyd-ddylunio ei Strategaeth Coed a Choetiroedd 100 mlynedd a chyfrannu at fentrau lleol ar lawr gwlad fel ‘Tal-y-bont Floodies’ a Phartneriaeth Tirwedd Canolbarth Cymru. Mae gennym dîm bychan ond ymroddedig o staff lleol sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru.

Mae uchelgais Coed Cadw wedi’i gwreiddio yn y cyd-destun cydweithredol hwn, sef sicrhau dyfodol Nannau a chreu rhywbeth gwirioneddol ysbrydoledig: tirwedd wydn lle mae natur a chymuned yn cael y lle, yr amser a’r amodau i adfer, ailgysylltu a ffynnu, gan gefnogi bywoliaeth gynaliadwy i bobl sy’n gweithio ar y tir; gan gynnwys y rhai sy’n gweithio ym maes twristiaeth, ffermio, hamdden a choedwigaeth. Fel elusen, ein nod yw ‘gwarchod, adfer ac ailsefydlu coed – yn enwedig coed llydanddail – ynghyd â phlanhigion a phob math o fywyd gwyllt, ac felly sicrhau a gwella mwynhad y cyhoedd o’r amgylchedd naturiol’, gan ddod â manteision i fyd natur ac i bobl drwy ein gwaith.

Er y gellir dechrau cymryd camau cadwraeth brys ar unwaith, mae Coed Cadw yn pwysleisio bob angen cydgynllunio gweledigaeth 100 mlynedd hirdymor gyda thenantiaid, gweithwyr, arbenigwyr, partneriaid a chymunedau lleol, er mwyn sicrhau bod dyfodol yr ystâd yn adlewyrchu gwybodaeth a blaenoriaethau lleol.

Mae Coed Cadw yn rhagweld dyfodol i Nannau fel tirwedd ffyniannus a chydgysylltiedig, lle mae:

  • coetiroedd hynafol diraddiedig yn cael eu hadfer yn goedwigoedd glaw tymherus sy’n llawn rhywogaethau

  • coed hynafol a choed hŷn yn cael eu gwarchod ochr yn ochr â chenhedlaeth newydd o goed hŷn yn y dyfodol

  • mawndiroedd, gwlyptiroedd, coetiroedd, corsydd a phorfeydd rhos yn cael eu hadfer er mwyn creu mosaig cysylltiedig o gynefinoedd

  • afonydd a chyrsiau dŵr yn gweithredu’n fwy naturiol, gan gefnogi bioamrywiaeth a’r chryfhau'r gallu i wrthsefyll newid hinsawdd

  • coed a phrysgwydd brodorol yn ehangu mewn rhai mannau, gan greu cynefinoedd ar gyfer adar, ystlumod, gloÿnnod byw a bywyd gwyllt arall

  • rhywogaethau prin a dan fygythiad yn adfer ac yn gallu gwrthsefyll newid hinsawdd yn well.

...gan barhau ar yr un pryd i gefnogi pobl leol, yn enwedig ffermwyr, coedwigwyr a’r gadwyn gyflenwi coed leol, a chyfrannu at gymunedau bywiog a bywoliaeth gynaliadwy:

Dylai adferiad byd natur fynd law yn llaw â sicrhau manteision i'r cymunedau lleol. Er y bydd Coed Cadw yn datblygu ein cynllun gweithredu mewn cydweithrediad â phobl leol, dyma’r weledigaeth sydd gennym ar hyn o bryd:

  • ffermio cynaliadwy ar raddfa isel sy’n cefnogi cyflogaeth leol

  • archwilio'r posibilrwydd o ailgyflwyno bridiau traddodiadol o wartheg

  • cynhyrchu bwyd lleol a phren cynaliadwy

  • rheoli tir yn integredig gan fanteisio ar arbenigedd ym maes ffermio, coedwigaeth, treftadaeth ac ecoleg

  • tirwedd sy’n parhau i fod yn fywiog ac yn cael ei defnyddio gan bobl, gyda cherddwyr, gwirfoddolwyr, contractwyr, tenantiaid a grwpiau addysgol i gyd yn chwarae rhan.

Rhoddwyd yr ystâd ar y farchnad agored yn ystod hydref 2025, a dechreuodd Coed Cadw drafodaethau gyda’r gwerthwyr. Yn ystod haf 2026, daeth buddiannau cystadleuol i’r amlwg, a oedd yn golygu bod yn rhaid i Coed Cadw gyflwyno cynnig ac ymrwymo i symud ymlaen yn gyflym. Rydym yn gweithio o fewn amserlen dynn i gwblhau'r pryniant cyn Nadolig 2026.

Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran codi arian hyd yma, ond mae angen inni weithredu’n gyflym i sicrhau’r arian sy’n weddill.

Mae gan Goed Cadw hanes profedig o lwyddo i godi arian er mwyn diogelu tirweddau gwerthfawr, ac mae ei chefnogwyr yn rhannu'r un angerdd dros y gwaith hwn. Fodd bynnag, mae Nannau yn brosiect o raddfa lawer mwy nag unrhyw beth mae Coed Cadw wedi ymgymryd ag ef hyd yma. Rhaid inni sicrhau tua £13 miliwn er mwyn prynu'r tir cyn diwedd 2026. Er ein bod wedi cael rhai addewidion hael o gefnogaeth, mae swm sylweddol o arian mae’n rhaid inni ei godi o hyd. Rydym yn annog cefnogwyr Coed Cadw, yn ogystal â phawb sy’n cefnogi'r prosiect, i gyfrannu er mwyn helpu i sicrhau dyfodol Nannau a galluogi'r ystâd i oroesi a ffynnu. Gallwch gefnogi ein hapêl frys. 

Wrth gwrs, dim ond dechrau'r daith yw prynu’r tir. Er mwyn dechrau ar y gwaith a fydd yn ymestyn dros sawl degawd i adfer y rhan unigryw ac amhrisiadwy hon o dreftadaeth coetiroedd hanesyddol Cymru, rydym wedi gosod targed codi arian o £25 miliwn. Byddai costau yn y dyfodol yn cynnwys cefnogi swyddi rheoli tir yn y gymuned leol, a gweithgarwch fel adfer coetiroedd a pharcdiroedd, creu cynefinoedd, ymgysylltu â'r gymuned a gwella mynediad i'r cyhoedd.

Mae nifer o hawliau tramwy cyhoeddus yn Nannau, yn ogystal â Thir Mynediad sydd wedi’i ddynodi o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (fel y’i diwygiwyd). Bydd y rhain i gyd yn parhau i fod ar agor.

Mae nifer o lwybrau cerdded y caniateir i'r cyhoedd eu defnyddio hefyd, sy’n cael eu cynnal gan y perchnogion presennol a Pharc Cenedlaethol Eryri. Bydd y llwybrau sefydledig pwysig hyn yn parhau i fod ar agor, fel y gall ymwelwyr barhau i fwynhau crwydro Nannau, gan ddefnyddio'r cyfleusterau parcio presennol, fel y rhai yn Saith Groesffordd.

Dylid cadw cŵn ar dennyn neu o dan reolaeth agos, gan fod hon yn dirwedd sy’n cael ei ffermio.

Byddai unrhyw ofynion mynediad ychwanegol yn cael eu hystyried wrth ddatblygu cynlluniau ar gyfer y safle, mewn cydweithrediad agos â’r cymunedau lleol.

Ar hyn o bryd, rydym yn cynnal sgyrsiau un-i-un gyda’r staff, y tenantiaid a'r cyflenwyr sy’n ymwneud ag Ystâd Nannau. Rydym hefyd wedi trefnu dwy sesiwn galw heibio gychwynnol ar ddechrau mis Tachwedd, lle y gall pobl leol gyfarfod ag aelodau o’n tîm a gofyn cwestiynau am ein gwaith yn ardal ‘Dyfi i Ddyfrdwy’ a’n cynlluniau ar gyfer Nannau.

Er bod gennym syniad bras o'r hyn y galli adfer byd natur ei olygu, rydym am gydweithio’n agos â rhanddeiliaid lleol i ddatblygu ein gweledigaeth fanwl a’n cynllun hirdymor ar gyfer ein gwaith yn Nannau. Mae’n bwysig iawn inni fod y gymuned leol yn cymryd rhan yn y gwaith o lunio a chyflawni ein cynlluniau, ac yn elwa’n wirioneddol o’n gwaith.

Bydd sesiynau mis Tachwedd yn gam cyntaf mewn trafodaeth barhaus â phobl leol. Rydym eisiau deall sut mae pobl leol eisiau cymryd rhan a pha rôl yr hoffent ei chwarae yn y gwaith o ofalu am y safle yn yr hirdymor, yn ogystal â chael gwybod beth yr hoffent ei weld yn rhan o’n cynllun rheoli.

Byddwn yn cynnal cyfres o ddiwrnodau agored a digwyddiadau ymgynghori dros y ddwy flynedd nesaf, lle byddwn yn annog pobl leol ac ymwelwyr i ddod i gwrdd â’r tîm, cymryd rhan a helpu i lunio ein cynlluniau hirdymor. Bydd y rhain yn cael eu hysbysebu’n lleol a thrwy sianeli cymdeithasol Coed Cadw.

Rydym yn awyddus i gydweithio â chontractwyr a chyflenwyr lleol er mwyn sicrhau bod manteision ein buddsoddiad yn cael eu gwireddu yn yr ardal leol.

Rydym hefyd yn bwriadu datblygu cyfleoedd gwirfoddoli o safon, gan gefnogi gwirfoddolwyr i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth, a chryfhau cysylltiadau cymunedol.

Byddwn yn hysbysebu rhai swyddi cyflogedig newydd, ac yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â chymwysterau addas o’r gymuned leol. Bydd sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol.

Fel elusen sy’n gweithredu ledled y DU, rydym yn cydnabod bod y Gymraeg yn rhan hanfodol o dreftadaeth ddiwylliannol, hunaniaeth a chymunedau Cymru. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu cynnig dwyieithog ystyrlon sy’n galluogi siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio ein gwasanaethau a chyfathrebu â ni yn eu dewis iaith. Er bod y polisi hwn yn fframwaith sy’n parhau i esblygu, mae’n nodi ein huchelgais i sicrhau bod yr holl weithgarwch ar lefel Cymru yn cael ei gyflawni’n ddwyieithog fel mater o drefn.

Ledled y sefydliad ehangach yn y DU, byddwn yn parhau i flaenoriaethu’r gwaith o ddatblygu darpariaeth Gymraeg, gan ddefnyddio dull graddol a chymesur sy’n seiliedig ar anghenion y gynulleidfa, cyfleodd i ymgysylltu a gallu'r sefydliad. Drwy’r ymrwymiad hwn, ein nod yw hyrwyddo cynhwysiant, dangos parch at y Gymraeg a’i diwylliant, a chryfhau ein cysylltiad â’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ledled Cymru.

Bydd yr holl ohebiaeth ynghylch Nannau yn gwbl ddwyieithog.

Dydy Coed Cadw ddim yn caniatáu hela at ddibenion hamdden na hela mamaliaid gyda chŵn ar ei thir yn unrhyw le yn y DU.

Fel elusen cadwraeth coetiroedd fwyaf y DU, cenhadaeth Coed Cadw yw diogelu coetiroedd gwerthfawr, adfer coetiroedd hynafol sydd wedi’u difrodi a chreu coetiroedd newydd ar gyfer y dyfodol, y bobl a’r blaned.

Os oes tystiolaeth glir bod nifer fawr o geirw’n achosi neu’n debygol o achosi effaith negyddol ddifrifol a pharhaol ar gynefin coetir yn un o’n safleoedd, bydd yr holl opsiynau posibl i leihau’r effaith hon yn cael eu hystyried. Gall hyn gynnwys ffensio i gadw ceirw allan, amddiffyn coed yn unigol a difa ceirw mewn modd trugarog er mwyn lleihau eu niferoedd i lefel fwy hylaw lle bo angen.

Dydy Coed Cadw ddim yn caniatáu hela at ddibenion hamdden na hela mamaliaid gyda chŵn ar ei thir yn unrhyw le yn y DU.

Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gall rhai rhywogaethau ysglyfaethus gael effaith niweidiol ar weithrediadau ffermio. Lle ceir tystiolaeth o hyn, byddwn yn gweithio gyda staff y fferm, tenantiaid a chymdogion i archwilio pob opsiwn posibl i leihau’r effaith hon.

Do, ac rydym yn elwa ar gyngor prisio annibynnol i’n harwain ar faterion sy’n ymwneud â’r pris prynu.

Nod ‘Ailwylltio’ – fel yr awgrymir gan yr IUCN (Yr Undeb Rhyngwladol ar gyfer Cadwraeth Natur) – yw cyrraedd sefyllfa lle na fydd fawr ddim ymyrraeth na rheolaeth, os o gwbl, mewn ardal naturiol. Nid dyma’r nod yn Nannau. Oherwydd presenoldeb rhywogaethau goresgynnol, plâu a chlefydau, y ffaith bod rhywogaethau’n cael eu colli a’r pwysau a achosir gan newid hinsawdd, mae angen gweithredu yn yr hirdymor i ddiogelu, adfer a chreu ei hecosystemau. Er enghraifft, mae angen ymyrryd ar frys i adfer planhigfeydd ar safleoedd coetir hynafol ac i reoli chwyn gwenwynig, fel clymog Japan.

Mae adfer prosesau naturiol yn bwysig i fywyd gwyllt, ac yn hanfodol er mwyn darparu’r nwyddau a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnom fel cymdeithas. Credwn nad yw canlyniadau i natur a phobl yn annibynnol ar ei gilydd: yr hyn a ragwelir ar gyfer Nannau yw dull sy’n integreiddio ardaloedd ‘gwyllt’ a phrosesau naturiol o fewn system ffermio mewn ffyrdd sy’n cefnogi bywyd gwyllt ac amaethyddiaeth gynhyrchiol fel ei gilydd. Mae da byw yn debygol o chwarae rhan bwysig yn y gwaith o sbarduno rhai o’r prosesau naturiol hynny dros amser, ac mae’n debygol y bydd angen ymyrryd i sicrhau manteision i bobl ac i fyd natur yn y dyfodol agos.

Bydd ein dulliau a’n cynlluniau’n cael eu datblygu a’u mireinio dros amser mewn cydweithrediad â chymunedau lleol, ac yng ngoleuni tystiolaeth sylfaenol a monitro parhaus.

Mae Coed Cadw yn deall pryderon y gymuned yn dilyn tanau sylweddol, gan gynnwys y digwyddiad diweddar ar y Rhinogydd.

Mae'r newid hinsawdd wedi arwain at gynnydd yn nifer y tanau gwyllt yn y DU, ac rydym yn bryderus iawn ynghylch y perygl i’n coetiroedd a’n bywyd gwyllt, yn ogystal ag i bobl a chymunedau.

Mae diogelu’r cynefinoedd unigryw hyn yn bwysig iawn i staff, gwirfoddolwyr a chefnogwyr Coed Cadw, felly rydym yn gweithio’n galed gyda’n gilydd i leihau’r perygl o danau gwyllt a pharatoi ar gyfer y sefyllfaoedd gwaethaf posibl.

Yn ystod blwyddyn gyntaf y prosiect, bydd asesiad risg hinsawdd yn cael ei gynnal ar gyfer Nannau, gan fabwysiadu dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth a nodi ystod o gamau gweithredu sydd eu hangen i sicrhau mwy o wydnwch; bydd y rhain yn cael eu cynnwys yn ein cynlluniau wrth iddynt ddatblygu. Byddai asesiad risg ar gyfer y safle hefyd yn cael ei gynnal, a byddem yn cysylltu â’r awdurdod tân lleol i gydweithio ar ddatblygu Cynllun Ymateb i Dân penodol ar gyfer yr ystâd.

Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod ein coetiroedd yn gallu gwrthsefyll tanau gwyllt, drwy gynllunio’n ofalus y gwaith o blannu, adfer a chynnal coetiroedd gyda hyn mewn golwg. Gwyddys bod coed llydanddail yn llai fflamadwy na choed conwydd, a gallant ddarparu rhwystrau tân effeithiol rhag tanau cnydau.

Mae ystyriaethau eraill yn cynnwys rheoli dŵr a mathau o bridd. Mae safle arall sy’n eiddo i Coed Cadw, sef tirwedd The Smithills ger Bolton, er enghraifft, yn cynnwys mawndir sydd wedi’i ddraenio, ac mae hyn yn cynyddu'r perygl o danau gwyllt. Yma, rydym yn gwlychu’r mawndir yn rheolaidd yn ystod misoedd yr haf ac yn plannu coed llydanddail lle mae’r llystyfiant presennol yn peri mwy o risg o dân.

Mae Coed Cadw yn bwriadu parhau â gweithrediadau ffermio yn Nannau, ac rydym yn credu y gall hyn weithio’n unol â’n nodau ar gyfer adfer byd natur.

Bydd anifeiliaid pori yn parhau i fod yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o reoli’r tir, ac rydym yn awyddus i archwilio’r cysylltiadau â threftadaeth ffermio Nannau a hanes bridiau traddodiadol, fel ych Nannau.

I ddechrau, mae gweithrediadau ffermio yn debygol o barhau fel y maent. Byddwn yn ceisio cyngor gan staff presennol y fferm a phobl leol sy’n adnabod y tir, yn ogystal ag amrywiaeth o arbenigwyr lleol, er mwyn datblygu blaengynllun busnes ar gyfer y fferm sy’n gynaliadwy ac yn cyd-fynd â’n gweledigaeth. Rydym wedi ymrwymo i gynlluniau sy’n parhau i gefnogi swyddi lleol o safon a chyfrannu at y systemau bwyd a’r economi leol.

Bydd anifeiliaid pori, fel defaid, yn parhau i fod yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o reoli’r tir. Rydym yn awyddus i archwilio’r cysylltiadau â threftadaeth ffermio Nannau a hanes bridiau traddodiadol, a allai gefnogi dull ffermio dwysedd isel sy'n ystyriol o natur.

Mae Coed Cadw yn bwriadu parhau â gweithrediadau ffermio yn Nannau, ac rydym yn credu y gall hyn weithio’n unol â’n nodau ar gyfer adfer byd natur.

I ddechrau, mae gweithrediadau ffermio yn debygol o barhau fel y maent. Byddwn yn ceisio cyngor gan staff presennol y fferm a phobl leol sy’n adnabod y tir, yn ogystal ag amrywiaeth o arbenigwyr lleol, er mwyn datblygu blaengynllun busnes ar gyfer y fferm sy’n gynaliadwy ac yn cyd-fynd â’n gweledigaeth. Rydym wedi ymrwymo i gynlluniau sy’n parhau i gefnogi swyddi lleol o safon a chyfrannu at y systemau bwyd a’r economi leol.

Oherwydd amgylchiadau annisgwyl y tu hwnt i’n rheolaeth, bu’n rhaid gohirio digwyddiadau galw heibio cymunedol Coed Cadw, a oedd wedi’u trefnu’n wreiddiol ar gyfer 4 a 5 Tachwedd, tan ddyddiad diweddarach.

Support us

Apêl Nannau

Dim ond wythnosau sydd gennym i brynu Nannau. A wnewch chi gyfrannu i ddod â ni gam yn nes at ddiogelu un o drysorau cenedlaethol mwyaf Cymru am byth?