Cymraeg

Apêl Nannau

Er mwyn amddiffyn gorffennol a dyfodol Nannau, nid oes gennym amser i'w golli.

Credit: Leandor Ward / Wayfarer Media LTD

Dim ond wythnosau sydd gennym i brynu Nannau, sef un o dirweddau mwyaf rhyfeddol y DU.

Mae ystâd odidog Nannau wedi’i lleoli yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri. Ystyr y gair ‘Nannau’ yw ‘llawer o afonydd’ – disgrifiad addas, oherwydd ble bynnag yr ewch chi yn yr ystâd, byddwch yn clywed sŵn lleddfol dŵr yn llifo drwy'r dirwedd. Mae ystâd Nannau wedi’i siapio gan dros 800 mlynedd o dreftadaeth ddiwylliannol Gymreig, ac mae’n gartref i gasgliad o gynefinoedd prin; gan gynnwys coedwig law dymherus sy’n bwysig yn fyd-eang, coetir hynafol a bywyd gwyllt sydd dan fygythiad.

Mae angen i ni godi £13.25 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn i ddod â Nannau i’n gofal. Os na fyddwn ni’n llwyddo, rydym yn wynebu’r risg y caiff ei werthu i rywun na fydd o bosibl yn rhoi lles byd natur yn flaenaf. Mae’n bosibl y bydd Nannau yn cael ei cholli am byth.

Bore da. Rydyn i yma yn Ystâd Nannau ac rydyn ni wedi parcio yn Llwybr Cynwch er mwyn mynd i weld beth sydd gan y lle hyfryd hwn i’w gynnig.

Nannau yw un o ystadau hynaf a mwyaf hanesyddol Cymru. Roedd yr un teulu yn berchen ar yr ystâd am bron i fil o flynyddoedd, sy’n mynd â ni yn ôl i’r cyfnod canoloesol. Does dim rhyfedd felly bod gan yr ystâd lawer o gysylltiadau â hanes Cymru.

Mae’r coed hynafol sydd wedi’u gwasgaru ar draws yr hen barc ceirw wedi goroesi o’r cyfnod hwnnw. Maen nhw’n goed gwirioneddol anhygoel, ac mae’n debyg bod rhai ohonynt ymysg y 200 coeden fwyaf yn Ewrop.

Mae un o’r coed hynafol yn cael sylw mewn stori enwog a gwaedlyd yn hanes Cymru. Ymwelodd Owain Glyndŵr ag Arglwydd Nannau, Hywel Sele, pan oedd ei wrthryfel ar ei anterth, ond cafodd ei fradychu. Yn ôl y chwedl, bu i Owain ddial drwy ladd ei gefnder Hywel a chuddio ei gorff yng nghanol un o’r coed hynafol. Cafodd ei gorff ei ddarganfod fel sgerbwd ddegawdau’n ddiweddarach.

Mae’r coed hyn hefyd yn bwysig iawn i fywyd gwyllt. Maen nhw’n gartref i lawer o ffyngau, gennau, a llysiau’r ysgyfaint, fel y gwelwch. Mae Britheg y Gors wrth ei bodd â phorfeydd caeedig gorllewin Cymru. Cafodd Bele’r Coed ei ailgyflwyno yma tua 10 mlynedd yn ôl, ac maent bellach yn hawlio’r dyffrynnoedd hyn yn ôl ac yn bridio drwy ddalgylch Mawddach.

Ein gobaith ni ar gyfer dyfodol Nannau yw y gallwn ddiogelu rhai o’r rhywogaethau prin hyn, yn ogystal ag adfer natur ar raddfa fawr ar draws y dirwedd.

Mae Nannau ar arfordir gorllewinol Cymru, ac felly mae’n wlyb iawn. Mae’r ardal hon yn cael glaw oddeutu 200 diwrnod o’r flwyddyn, sy’n creu’r hinsawdd berffaith i rywogaethau ein coedwigoedd glaw tymherus ffynnu yng nghoedwig hynafol Nannau.

Mae coedwigoedd glaw tymherus yn bethau prin iawn erbyn hyn. Yn wir maen nhw’n fwy prin na’r goedwig drofannol, ac mae maint ein coedwig law, a oedd unwaith yn ymestyn yn gymharol ddi-dor ar hyd ochr orllewinol gyfan y Deyrnas Unedig, bellach yn dameidiog iawn. Felly mae’n hollbwysig ein bod yn diogelu’r rhai sydd ar ôl, yn ehangu ac yn gwarchod.

Drwy weithio yma, gallwn helpu i gysylltu’r holl gynefinoedd hyn a sicrhau bod y rhywogaethau’n llai ynysig, gan roi lle iddynt symud, a rheoli’r safle mewn ffordd addas at y dyfodol.

Felly mae ystâd Nannau, sydd wedi’i lleoli ar y gyffordd rhwng afonydd Mawddach ac Wnion, yn gonglfaen i dirwedd ein coedwigoedd glaw yng Nghymru. Mae wir yn un o’r lleoliadau pwysicaf un o ran cynefinoedd coedwig glaw yng Nghymru.

Hoffem ddiogelu’r lle arbennig hwn a gweithio’n agos iawn gyda’r gymuned, gyda rhanddeiliaid lleol a phobl leol, er mwyn adfer byd natur ar raddfa fawr yn y dirwedd hollbwysig hon. Dyma gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ddiogelu tirwedd arbennig a gwerthfawr i fyd natur a phobl ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ac mae eich cefnogaeth chi yn hanfodol i wneud i hynny ddigwydd.

1,531 hectar

o goetir trawiadol, coedwig law dymherus, coed hynafol a chynefinoedd ucheldirol.

Ardal sy’n cyfateb i fwy na 2,000 o gaeau pêl-droed.

£13.25 miliwn

yw'r swm sydd angen ei godi erbyn diwedd y flwyddyn.

Helpwch ni i ddiogelu dyfodol Nannau.

Llai na 1%

o goedwigoedd law tymherus yn y DU.

Maent yn brin yn fyd-eang ac yn bwysig yn rhyngwladol. Allwn ni ddim fforddio colli coedwig law dymherus Nannau.

Pam mae Nannau mor arbennig?

Credit: Leandor Ward / Wayfarer Media LTD

Cynefinoedd prin

Mae Nannau yn gartref i goedwig law dymherus a choetir hynafol. Mae coedwigoedd glaw tymherus y DU yn gynefinoedd sy'n brin ar raddfa fyd-eang, ac ystyrir eu bod dan fwy o fygythiad na choedwigoedd glaw trofannol. Mae coedwigoedd glaw tymherus, fel y cynefin a geir yn Nannau, yn cyfrif am lai nag 1% o dirwedd y DU. Er gwaethaf cyfoeth ecolegol trawiadol Nannau, mae’n fregus; mae’n dirywio. Mae arnom ddyled i’r blaned i warchod y dirwedd hon.

Credit: Tony Cox / WTML

Bywyd gwyllt

Mae coedwig law a choetir hynafol Nannau yn noddfa i fywyd gwyllt sydd dan fygythiad. Mae pathewod cyll yn nythu ymysg y gwrychoedd a’r isdyfiant, ac mae gloÿnnod byw brith y gors – un o rywogaethau’r DU sy’n dirywio gyflymaf – yn dod o hyd i loches ar draws y safle. Mae beleod yn symud drwy’r coed, mae gylfinbraffau yn chwilota am fwyd yn y coed derw hynafol, ac mae amrywiaeth gyfoethog o ystlumod yn hela yn y canopi bob nos.

Credit: Phil Formby / WTML

Coed hynafol a choed hŷn

Mae parc ceirw enwog Nannau yn frith o goed hynafol, gan gynnwys un o'r coed derw mwyaf yn Ewrop, sy’n mesur cymaint â 9.1 metr o amgylch ei boncyff praff. Daethpwyd o hyd i goed prin yma hefyd, fel afallen wyllt, aethen, a’r gerddinen wen. Mae'r coed hŷn a bregus yn heneiddio heb rai newydd yn cymryd eu lle. Rhaid i ni warchod coed ifanc Nannau er mwyn iddynt allu dod yn goed hynafol y dyfodol.

Credit: Leandor Ward / Wayfarer Media LTD

Hanes

Nannau yw un o ystadau hanesyddol hynaf a mwyaf nodedig Cymru. Mae’n dyddio’n ôl i’r 11eg ganrif, a’i gorffennol yn rhychwantu Cymru ganoloesol, Owain Glyndŵr a’r teulu Fychan. Yn ôl y chwedl, lladdodd Owain Glyndŵr ei gefnder anghydffurfiol, Hywel Sele, ar y tir hwn a chuddio ei gorff yng ngheubren derwen fawr. Daethpwyd o hyd i sgerbwd Hywel ddegawdau’n ddiweddarach, a dechreuwyd galw’r goeden yn Dderwen Ceubren yr Ellyll. Wrth warchod Nannau, gallwn sicrhau bod straeon fel hyn yn parhau i fod yn rhan o dreftadaeth fyw Cymru.

Mae gallu prynu trysor Cymreig mor unigryw â hyn yn gyfle na chawsom ei debyg o’r blaen yma yn Coed Cadw. Mae’n gyfle unwaith mewn oes i bobl a bywyd gwyllt, ac allwn ni ddim gadael iddo lithro drwy ein dwylo.

Kylie Jones Mattock
Cyfarwyddwr Coed Cadw, y Woodland Trust yng Nghymru

Mae’n rhaid gwneud rhywbeth.

Mae’r cyfle hwn ar gael i ni heddiw, ond ymhen ychydig wythnosau bydd wedi diflannu. Rydym eisoes wedi codi mwy na hanner y £13.25 miliwn sydd ei angen arnom. A wnewch chi gyfrannu i ddod â ni gam yn nes at ddiogelu un o drysorau cenedlaethol mwyaf Cymru am byth?

O dan ein stiwardiaeth, bydd Nannau yn dod yn esiampl ar gyfer ffermio sy’n ystyriol o natur yng Nghymru a’r DU. Hebom ni, bydd yn dirywio ynghynt ac yn wynebu dyfodol ansicr.

Bydd pob ceiniog yn helpu i ariannu’r pryniant a’r gwaith adfer hanfodol sydd ei angen dros y degawd nesaf, gan adael etifeddiaeth a fydd o fudd i fywyd gwyllt, yr hinsawdd a chymunedau am ganrifoedd i ddod.

Helpwch i amddiffyn Nannau. Gallai eich caredigrwydd heddiw fod yn rhan o'r stori sy'n sicrhau dyfodol Nannau.

Amount
Details
Payment

A fyddai’n well gennych chi gyfrannu all-lein?

Dros y ffôn

Ffoniwch ni ar 0330 333 3300 rhwng 8.30am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, gan ddyfynnu 'Nannau' a bydd ein tîm cyfeillgar yno i'ch helpu.

Drwy'r post

Anfonwch siec i’n prif swyddfa yn Nannau Appeal, Woodland Trust, Kempton Way, Grantham, Lincolnshire, NG31 6LL. Dylech wneud eich siec yn daladwy i Coed Cadw.

Yn ddiweddar, rydym wedi gwneud newidiadau i’r ffordd rydym yn rheoli eich data. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein polisi preifatrwydd. Os ydych chi wedi optio allan o dderbyn post yn y gorffennol, cysylltwch â ni eto er mwyn i ni allu sicrhau bod eich dewisiadau postio yn cael eu cofnodi’n gywir. Gallwch anfon e-bost atom yn supporters@woodlandtrust.org.uk neu ffonio 0330 333 3300.