Edrych i mewn: Cymraeg

Beth rydych chi’n ei blannu?

Bydd y goeden a gewch chi gan y fenter naill ai’n goeden afalau surion, ceiriosen wyllt, derwen ddigoes, gwernen neu’n fedwen gyffredin

Sut i blannu’ch coeden

Sut i blannu’ch coeden mewn pum cam hawdd.

Beth fydd ei angen

  • Eich coeden
  • Rhaw
  • Stanc neu gansen i gynnal eich coeden (dewisol)
  • Bwced neu gan dyfrio
  1. Gan ddefnyddio rhaw, palwch dwll sawl centimetr yn lletach ac yn ddyfnach na gwreiddiau’r goeden.
  2. Gosodwch y goeden yn y twll gan sicrhau bod pen pelen y gwreiddiau oddeutu 2cm yn is na lefel y ddaear.
  3. Gan ddal y goeden ar i fyny, ôl-lenwch y twll â phridd fel y bydd ei gwreiddiau wedi’u gorchuddio’n llwyr. Gwasgwch haenen ucha’r pridd yn gadarn o gwmpas gwaelod y goeden gyda’ch sawdl.
  4. Os ydych chi am roi cefnogaeth ychwanegol i’ch coeden, gwthiwch gansen neu stanc yn y ddaear wrth ymyl y goeden (cymerwch ofal i beidio â niweidio’r gwreiddiau) a chlymu’r goeden wrth y cynheilydd.
  5. Dyfriwch y goeden rydych newydd ei phlannu.
Pryd i blannu?

Plannwch eich egin goed mor fuan ag y gallwch, ond peidiwch â phoeni os na allwch ei phlannu’n syth. Gallwch storio’ch egin goed am sawl wythnos. Does ’mond rhaid chwistrellu dŵr ar y gwreiddiau’n ysgafn a’u storio ar i fyny naill yn yr awyr agored neu mewn garej neu sied weddol oer sydd o gyrraedd y barrug neu’r gwynt. Edrychwch arnynt bob wythnos er mwyn sicrhau nad ydynt yn sychu.

Sut i ofalu am eich coed

Unwaith y bydd eich coed yn y ddaear, mae’n bwysig gofalu amdanynt i’w helpu i ffynnu, yn enwedig yn ystod yr ychydig flynyddoedd cyntaf.

Chwynnu

Chwynnu yw’r cam pwysicaf wrth roi’r dechrau gorau posib i’ch coed. Bydd cadw diamedr un metr yn glir rhag chwyn a glaswellt o amgylch y goeden am y ddwy tair blynedd gyntaf yn lleihau cystadleuaeth am leithder a maethynnau.

Gallwch atal chwyn gyda deunydd lleithgadw fel naddion rhisgl neu wellt. Rhowch haenen drwchus o gwmpas gwaelod y goeden gan ychwanegu ato bob blwyddyn.

Dyfrio

Dylai’ch coed ymaddasu i amodau naturiol eich safle felly ddylai dyfrio ddim bod yn angenrheidiol, yn enwedig oherwydd gall annog y gwreiddiau i dyfu tuag at wyneb y pridd yn hytrach nag i lawr tuag at y dŵr daear. Os bydd yna gyfnod sych arbennig o hir ac rydych yn teimlo bod dyfrio’n hanfodol, sociwch y ddaear yn drylwyr i sicrhau bod y dŵr yn suddo’n ddwfn i’r pridd.

Mwynhewch eich coed

Mwynhewch wylio’ch coeden wrth iddi dyfu a ffynnu am dymhorau maith i ddod.