Edrych i mewn: Cymraeg

Mae’n bosibl mai coeden yw un o drigolion hynaf pentref, mae’n dirnod lleol poblogaidd, yn lle i gyfarfod, chwarae neu ymarfer corff, neu’n destun balchder i arddwr. Beth bynnag fo'u hanes, nod cystadleuaeth Coeden y Flwyddyn yw gwerthfawrogi a thynnu sylw at ba mor hanfodol yw coed i'n tirweddau a'n bywydau.

Mae cystadleuaeth genedlaethol eleni yn dathlu gwerth coed yn ein hanes diwylliannol. Rydym ni'n tynnu sylw at goed godidog ledled y DU sy'n dirnodau lleol, yn ffynonellau o ddiddordeb, ysbrydoliaeth a chreadigrwydd. Mae stori ddiddorol yn perthyn i bob coeden, mae'r coed hefyd yn cynnal bywyd gwyllt pwysig, gan lanhau ein haer, rhoi hwb i lesiant a llawer mwy.

Mae ein panel arbenigol wedi llunio rhestr fer o 10 coeden ysbrydoledig ar gyfer cystadleuaeth Coeden y Flwyddyn 2025. Dyma'ch cyfle chi i bleidleisio dros eich ffefryn a'n helpu ni i goroni’r enillydd. Bydd yr enillydd yn mynd ymlaen i gynrychioli'r DU yng nghystadleuaeth nesaf Coeden y Flwyddyn yn Ewrop!

Mae'r cyfnod pleidleisio ar agor tan 11.59pm ar 19 Medi a byddwn yn cyhoeddi enillydd eleni ar 26 Medi.

Diolch i chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl am noddi'r gystadleuaeth eleni.

Amddiffynnwch ein coed byw

Nid oes gwarchodaeth gyfreithiol gan lawer o'n coed hynaf a mwyaf gwerthfawr. Rydym ni'n annog llywodraethau'r DU i newid hyn. Byddwch yn rhan o’n galwad am gyfreithiau diogelu gwell.

Y rhestr fer

1. Coed Yw Borrowdale, Seathwaite, Cumbria

Ffeil ffeithiau
  • Oedran: 2,000 mlwydd oed
  • Rhywogaeth: ywen
  • Cwmpas: 4.33m

Ar ochr bryniau uchel yn Cumbria saif llwyn o goed yw a allai fod yr ywen enwocaf yn Lloegr. Yn nodweddion amlwg yn y tirwedd, disgrifiwyd eu mawredd gan William Wordsworth yn ei gerdd 'Yew Trees' yn 1803:

‘…those fraternal Four of Borrowdale,
Joined in one solemn and capacious grove;
Huge trunks! – and each particular trunk a growth
Of intertwisted fibres serpentine
Up-coiling and inveterately convolved…’

Ar ôl cael eu hanfarwoli gan Wordsworth, ymddangosodd y coed yng ngwaith pobl eraill, gan gynnwys lluniau Francis Frith, llyfr John Lowe yn 1896, The Yew-Trees of Great Britain and Ireland, a dyfrlliw yn 1922 gan Alfred Heaton Cooper.

Cyfeiriodd Wordsworth at bedair ywen, ond dim ond tair sy'n dal i sefyll ar ôl colli un yn y Storm Fawr yn 1884, er bod yr olion yn parhau i orwedd ochr yn ochr â’r gweddill. Mae'n ymddangos eu bod yn goed ar wahân, ond mae ymchwil DNA wedi profi eu bod i gyd wedi tyfu o'r un goeden wreiddiol.

Pleidleisiwch dros Goed Yw Borrowdale

2. King of Limbs, Savernake Forest, Wiltshire

Ffeil ffeithiau
  • Oedran: 1,000 mlwydd oed
  • Rhywogaeth: derw di-goes
  • Cwmpas: 10.25m

Mae'n hawdd gweld sut y cafodd y goeden hon ei henw, gyda changhennau hir yn ymestyn ar bob ongl o'r boncyff llydan a phantiog. Amcangyfrifir ei bod dros 1,000 o flynyddoedd oed, a thorrid canghennau'r goeden enfawr hon yn rheolaidd i annog aildyfiant, a elwir yn docio, hyd at yr 19eg ganrif gan greu’r siâp diddorol sydd ganddi heddiw.

Wedi'i ysbrydoli gan bryderon amgylcheddol Thom Yorke, prif leisydd Radiohead, cafodd yr albwm, King of Limbs, a ryddhawyd gan y band yn 2011, ei enwi ar ôl y dderwen hynafol hon. Dylanwadodd y goeden hefyd ar glawr yr albwm a gweithiau eraill gan yr artist Stanley Donwood, sydd wedi gweithio gyda Radiohead ers 1994, ar ôl iddynt weld y goeden mewn llawlyfr yn Savernake Forest.

Pleidleisiwch dros King of Limbs

3. Sycamorwydden Wilfred Owen, Caeredin

Ffeil ffeithiau
  • Oedran: 100 mlwydd oed a mwy
  • Rhywogaeth: sycamorwydden
  • Cwmpas: anhysbys

Mae cannoedd o bobl yn cerdded heibio'r goeden ddi-nod hon bob dydd wrth iddynt gyrraedd Prifysgol nodedig Napier Caeredin, ond mae ganddi hanes cudd. Ysbyty seiciatrig milwrol oedd y safle gynt, o'r enw Craiglockhart War Hospital, ac ym 1917, anfonwyd y bardd ifanc Wilfred Owen yma ar ôl dioddef o anhwylder straen y gad yn Ffrynt y Gorllewin. Fe ddaeth yn fardd enwocaf a mwyaf poblogaidd y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn enwog iawn, cyfarfu â Siegfried Sassoon yn yr ysbyty, a daeth ef yn fentor llenyddol iddo gan ei annog i lenydda. Mae'n bosibl fod y ddau wedi eistedd o dan y sycamorwydden hon ar dir yr ysbyty yn ystod eu hadferiad.

Pan dynnwyd cangen fawr o'r goeden am resymau diogelwch yn 2014, creodd y gwneuthurwr offerynnau lleol, Steve Burnett, feiolin o'r goeden i nodi can mlynedd ers dechrau'r rhyfel ac i anrhydeddu gwaith Owen. Mae un o gerddi Owen wedi'i hysgrifennu y tu mewn i'r feiolin unigryw ac mae wedi cael ei chwarae mewn llawer o gyngherddau a digwyddiadau, gan gynnwys gan y feiolinydd a'r actor Thoren Ferguson yn agoriad swyddogol Dreghorn Woods, sef Coedwig Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf gan yr Ymddiriedolaeth ger Caeredin.

Pleidleisiwch dros sycamorwydden Wilfred Owen

4. Coeden Heddwch ac Undod, Gwesty Dunadry, Antrim

Ffeil ffeithiau
  • Oedran: 100 mlwydd oed
  • Rhywogaeth: pisgwydden
  • Cwmpas: 5.00m

Dechreuodd y bisgwydden arbennig hon fel dwy goeden a ddaeth at ei gilydd yn raddol i fod yn foncyff sengl ac sydd bellach yn anwahanadwy. Drwy ddod at ei gilydd, maent wedi dod yn symbol o gytgord a gobaith, ac mae parau sydd newydd briodi yn eistedd o dan y goeden er mwyn iddynt gael eu bendithio ag iechyd a hapusrwydd.

Daeth y goeden yn enwog pan gyfarfu Tony Blair, David Trimble a John Hume yma i drefnu heddwch yn 1998. Mae'n cynrychioli'r ddwy ochr yn dod at ei gilydd mewn undod wrth lofnodi Cytundeb Gwener y Groglith a ddaeth â Thrafferthion Gogledd Iwerddon i ben. Drwy lun y tri gŵr o dan y canopi yng ngardd y gwesty, mae'r goeden bellach wedi dod yn symbol o heddwch a chymod.

Pleidleisiwch dros y Goeden Heddwch ac Undod

5. Y Goeden Lolipop, Gwastadeddau Caersallog, Swydd Wiltshire 

Ffeil ffeithiau
  • Oedran: anhysbys
  • Rhywogaeth: ffawydd
  • Cwmpas: anhysbys

Wedi'i henwi ar ôl siâp ei chanopi crwn ar ben boncyff tal a thenau, mae'r ffawydden hon sy'n sefyll ar ei phen ei hun ar wastadedd glaswellt yn boblogaidd ymysg ffotograffwyr ers blynyddoedd. Chwaraeodd y goeden ran amlwg hefyd yn ffilm Sam Mendes am y Rhyfel Byd Cyntaf, sef 1917, sy'n dilyn dau filwr ifanc ar gyrch beiddgar i gyflwyno neges i'r rheng flaen. Mae'r Goeden Lolipop yn nodi diwedd y daith, gyda’r goeden yn ei ffurf gyflawn yn ymddangos am funud gyfan wrth i'r goroeswr Schofield nesáu'n araf tra bo cerddoriaeth emosiynol yn chwarae yn y cefndir. Yn yr olygfa derfynol ingol cyn i'r glodrestr ymddangos, mae'n cyffwrdd rhisgl y goeden, ac yn eistedd yn ei herbyn gan edrych ar luniau o'i deulu cyn cymryd anadl ddofn a chau ei lygaid i orffwys.

Nid hon oedd yr unig goeden yn y ffilm 1917. Mae'r ffilm yn cychwyn gyda milwyr yn cysgu o dan goeden ac mae Schofield yn cynghori ei gydymaith yn ddiweddarach i gadw ei lygaid ar y coed. Ar ôl dod o hyd i goed ffrwythau wedi'u dinistrio, mae'r pâr yn trafod sut byddan nhw'n aildyfu o'u hadau. A phan fo’r diwedd yn ymddangos yn anochel, mae Schofield yn cael ei adfywio gan betalau yn disgyn o’r goeden geirios. Mae coed ffyniannus yn symbol o fywyd, heddwch, gorffwys a gobaith drwy gydol y daith.

Pleidleisiwch dros y Goeden Lollipop

6. Cedrwydden y Beatles, Chiswick House and Gardens

Ffeil ffeithiau
  • Oedran: 300
  • Rhywogaeth: cedrwydden Libanus
  • Cwmpas: anhysbys

Mae'r goeden hon yn wirioneddol hardd, ac yn un o sawl cedrwydden Libanus enfawr ar dir Chiswick House sy'n dyddio o'r 1720au. Mae'r Frenhines Victoria, Tsar Rwsia a Shah Persia ymhlith sawl edmygwr ohoni, ond efallai'n fwyaf enwog, mae'n ymddangos mewn fideo cerddoriaeth gan y Beatles.

Recordiodd y pedwar enwog ddwy ffilm arloesol yma ym 1966 ar gyfer y gân Paperback Writer, a’r gân Rain ar yr ochr-B. Cafodd y ffilmiau eu recordio mewn lliw ar leoliad, a’r rhain oedd rhagflaenwyr fideos cerddoriaeth poblogaidd a fyddai’n newid cwrs hanes cerddoriaeth. Mae'r canghennau enfawr y gedrwydden yn plygu am i lawr i ysgubo'r ddaear, gan greu lleoliad diddorol i'r band eistedd a chwarae eu gitarau ar gyfer y gân Rain. Defnyddiwyd y llun hwn yn ogystal ar gyfer clawr eu EP, Nowhere Man.

Pleidleisiwch dros gedrwydden y Beatles

7. Derwen Knole Park, Knole Park, Swydd Gaint

Ffeil ffeithiau
  • Oedran: 150 mlwydd oed a mwy
  • Rhywogaeth: derwen ddi-goes
  • Cwmpas: 6.15m

Mae'r goeden arbennig hon yn sefyll ymysg llawer o rai eraill ar dir Knole Park ond gellir ei hadnabod yn ôl ei maint a'i siâp. Yn dal ac yn eithaf main i fod yn goeden dderw, mae'n llawer talach na’i chymdogion, yn 135 troedfedd o uchder, ac fe'i cofnodir fel y dderwen ddi-goes dalaf ym Mhrydain. O ystyried ei hedrychiad a'i lleoliad, credir mai dyma'r dderwen sy'n ymddangos yn nofel Virginia Woolf, Orlando. Cafodd y nofel, a ystyriwyd yn gampwaith llenyddol, ei hysbrydoli gan berthynas Knole Park a Woolf â Vita Sackville-West a oedd yn byw yno.

Ar ddechrau’r nofel, mae Orlando yn cerdded ‘very quickly uphill through ferns and hawthorn bushes, startling deer and wild birds, to a place crowned by a single oak tree…so high indeed that nineteen English counties could be seen beneath; and on clear days thirty or perhaps forty’! Mae'r goeden hon yn ysbrydoli'r gerdd mae Orlando yn ei hysgrifennu, o'r enw The Oak Tree, sy'n ymddangos dro ar ôl tro drwy gydol y llyfr. Mae natur yn ffynhonnell gyson o gysur ac ysbrydoliaeth i Orlando, sydd yn y pen draw yn dychwelyd at y goeden go iawn i gladdu'r gerdd fel teyrnged.

Pleidleisiwch dros dderwen Knole Park

8. Derwen hynaf Bradgate Park, Caerlŷr

Ffeil ffeithiau
  • Oedran: 825 mlwydd oed
  • Rhywogaeth: Derwen Seisnig
  • Cwmpas: 8.57m

Byddai'r dderwen fendigedig hon eisoes wedi bod yn goeden drawiadol ar dir Bradgate House pan aned Lady Jane Grey, y Frenhines Naw Diwrnod enwog yno yn 1537. Llai na 50 metr o'r plasty Tuduraidd mawreddog, mae'n debygol y gallai hi fod wedi gweld y goeden drwy'r ffenestri ac efallai ei bod wedi chwarae o dan ei changhennau yn ystod ei phlentyndod.

Mae Bradgate Park yn lle poblogaidd i goed hynafol sy'n dyst i hanes cyfoethog y parc. Byddai'r dderwen hon eisoes wedi cael ei hystyried yn goeden hynafol pan anwyd Lady Jane Grey, ac mae bellach yn fwy trawiadol fyth, gyda boncyff anwastad enfawr wedi'i hollti’n ddau a changhennau mor arw a thrwm y maent angen cynhaliaeth i'w dal.

Lady Jane Grey sydd â'r record anffodus o’r amser byrraf ar yr orsedd yn hanes Prydain, gan gychwyn ei theyrnasiad am naw diwrnod ym mis Gorffennaf 1553 cyn cael ei dymchwel gan Mary I a'i dienyddio, yn 17 oed. Yn ôl y chwedl, fel gweithred o alaru, torrwyd canghennau uchaf coed derw Bradgate Park. Yn sicr, fe dorrwyd y goeden hon yn ôl yn y gorffennol - a yw hyn yn dystiolaeth fod y chwedl yn wir?

Pleidleisiwch dros dderwen hynaf Bradgate Park

9. Y Goeden Unig, Llyn Padarn, Llanberis

Ffeil ffeithiau
  • Oedran: 30 mlwydd oed a mwy
  • Rhywogaeth: bedwen
  • Cwmpas: anhysbys

Yn sefyll ar ei phen ei hun ar lan llyn enfawr sydd fel gwydr, gyda mynyddoedd mawreddog Eryri yn gefndir iddo, mae'r fedwen ifanc hon yn dirnod lleol arbennig ac yn nefoedd i ffotograffydd. Mae ei siâp sy’n plygu ac yn ymestyn wedi ei ffurfio i ymateb i amodau tywydd garw, gan ei gwneud yn symbol o wydnwch ac yn ganolbwynt rhyfeddol ar gyfer tynnu llun ym mhob tymor. Mae'r olygfa'n newid o hyd wrth i lefelau'r llyn godi a gostwng, gyda'r goeden bob yn ail yn datgelu ei gwreiddiau cryf ar ymyl y dŵr, neu'n glynu i’w hynys fechan ei hun wrth i'r tir o’i chwmpas fynd o dan y dŵr.

Yn y golau cywir, mae'r adlewyrchiadau ar arwyneb y llyn yn creu’r llun perffaith - yn ddigon perffaith i ymddangos mewn hysbyseb ar gyfer Chromebook yn 2021. Cafodd mynediad at y goeden ei rwystro ym mis Medi 2024 pan oedd Netflix wedi cau rhan o'r llyn i ffilmio golygfeydd brwydrau mawr ar gyfer pedwaredd cyfres The Witcher, gyda Liam Hemsworth. Bydd y gyfres yn cael ei rhyddhau yn hwyrach yn 2025, ond ni wyddom eto a fydd y Goeden Unig yn ymddangos yn y gyfres derfynol, ond siawns y byddai cyfarwyddwyr wedi manteisio ar olygfa mor hardd!

Pleidleisiwch dros Y Goeden Unig

10. Onnen Argyle Street, Glasgow

Ffeil ffeithiau
  • Oedran: 175 mlwydd oed a mwy
  • Rhywogaeth: onnen
  • Cwmpas: anhysbys

Wedi'i dewis o blith ein henwebiadau cyhoeddus, mae'r onnen aruthrol o uchel hon yn sefyll ochr yn ochr â'r tenementau ar un o strydoedd prysuraf Glasgow. Mae hefyd yn cael ei hadnabod yn lleol fel The Lone Tree of Finnieston neu The Only Tree on Argyle Street, nid yw hon yn goeden fawreddog mewn ystâd enfawr. Coeden denement yw hon. Coeden i’r bobl. Dyma goeden sy'n byw yng nghalonnau pobl Glasgow ac sy'n rhan o bensaernïaeth emosiynol y ddinas, meddai David Treanor, a'i henwebodd. Wedi'i gwreiddio yn hanes cymdeithasol Glasgow, mae wedi goroesi’r Clydeside Blitz, twf a chwymp diwydiant, ac mae bellach yn herio'r drefn er mwyn gwrthsefyll clefyd coed ynn hefyd.

I gydnabod ei gwerth diwylliannol ac ecolegol i'r ddinas, y goeden hon oedd y gyntaf yn Glasgow i gael ei gwarchod gan orchymyn cadw coed. Yn ei lyfr ym 1935, From Glasgow’s Treasure Chest, mae James Cowan yn ei chofnodi fel “a very tall ash tree, its highest branches reaching far above the top windows of the tenement. It is quite the most graceful ash I have seen.” Mae Stuart Murdoch o Belle a Sebastian ymhlith edmygwyr mwy modern y goeden: “It must have good genes to have made it. It’s hip now because it’s in Finnieston, but I say it was always cool.”

Pleidleisiwch dros onnen Argyle Street

Pa goeden fydd yn cael eich pleidlais chi yng nghystadleuaeth Coeden y Flwyddyn 2025?

Pleidleisiwch nawr