Edrychwch ar ein tudalen cwestiynau cyffredin am awgrymiadau defnyddiol, arweiniad clir ac atebion i gwestiynau cyffredin.
Gallwch hefyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein tudalen telerau ac amodau.
Cymraeg
Beth pe gallech chi sbarduno newid gwirioneddol? Mae'r gystadleuaeth hon yn rhoi bywyd i syniadau gwych pobl ifanc.
Ydych chi'n teimlo eich bod wedi'ch llethu gan yr argyfwng natur a hinsawdd? Cystadleuaeth Tanio Arloesedd yw’ch cyfle i newid y drefn a throi gobaith yn gamau gweithredu.
Os ydych chi rhwng 16 ac 25 oed ac â syniad cyffrous a allai fod o fudd i natur, gallech ennill £5,000 o gyllid a blwyddyn o fentora gan arbenigwyr i wireddu eich prosiect. Byddwch hefyd yn ennill profiad gwirioneddol yn y diwydiant, yn cysylltu â phobl o'r un anian ac yn cael cyfle i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau arwain – a hynny wrth helpu'r blaned.
Eleni, mae dau gategori i'r gystadleuaeth: un ar gyfer pobl ifanc sy'n frwdfrydig am natur ac sydd â syniadau arloesol, ac un ar gyfer ffermwyr newydd, myfyrwyr amaethyddiaeth, rheolwyr tir ar ddechrau eu gyrfa neu unrhyw un sydd am archwilio atebion ffermio sy'n gyfeillgar i natur yng Nghymru a Lloegr. Does dim angen unrhyw wybodaeth arbenigol arnoch am goed na natur, a byddwn yn eich cefnogi ym mhob cam o'r broses i wireddu eich syniad.
Darllenwch ymlaen i ddysgu mwy am bob categori, sut rydyn ni’n dewis yr enillwyr a sut i wneud cais.
Mae'r broses ymgeisio ar agor tan 9am ar 31 Ionawr 2027 – edrychwn ymlaen yn fawr at glywed gennych!
Oes gennych chi syniad a allai wella bywyd i goedwigoedd, coed a phobl? Dyma'r cyfle i chi feddwl yn uchelgeisiol a rhannu syniad cadarnhaol ar gyfer newid. Does dim angen i'r syniad ddatrys yr argyfwng hinsawdd cyfan. Boed yn fawr neu'n fach, yn greadigol neu'n ymarferol, rydyn ni’n chwilio am brosiectau sy'n ysbrydoli gweithredu, yn agor posibiliadau newydd ac yn dangos gallu pobl ifanc i lunio dyfodol gwell.
Gall unrhyw un rhwng 16 ac 25 oed sydd â syniad i helpu byd natur wneud cais.
Rydyn ni’n chwilio am brosiectau creadigol a allai gyd-fynd ag un neu ragor o'r nodau canlynol:
helpu natur i ffynnu: a yw eich syniad yn cefnogi coedwigoedd, coed a bywyd gwyllt? Er enghraifft, drwy greu mwy o le i natur, cysylltu cynefinoedd neu wella iechyd coetiroedd lleol, yn enwedig yn ein hardaloedd â blaenoriaeth ledled y DU.
coed i bawb: sicrhau bod mwy o bobl yn gallu mwynhau manteision natur, pwy bynnag ydyn nhw neu ble bynnag maen nhw’n byw, gan ddefnyddio offer fel Tree Equity Score UK.
cynnwys pobl: ysbrydoli eraill i gysylltu â choedwigoedd a choed, gofalu amdanyn nhw a gweithredu ar eu rhan.
Bydd tri unigolyn neu grwpiau bach o hyd at bedwar yn derbyn cyllid o £5,000 a hyd at 12 mis o fentora arbenigol.
Rydym yn gwybod bod amaethyddiaeth heddiw yn dod â llawer o ansicrwydd, o bwysau ariannol ac effeithiau hinsawdd i bolisïau sy'n newid. Mae angen gwydnwch ac ymroddiad i addasu i'r heriau hyn. Dyna pam rydym am gefnogi, hyrwyddo a buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf o ffermwyr a gwarcheidwaid tir rhwng 16 ac 25 oed, drwy helpu i wireddu eu syniadau ar gyfer amaeth-goedwigaeth ac amaethyddiaeth sy'n gyfeillgar i natur.
Byddem wrth ein bodd yn clywed am eich syniadau, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) brosiectau sy'n cefnogi un neu ragor o'r nodau hyn:
archwilio sut y gall coed a natur greu cyfleoedd newydd i ffermydd, gan gynnwys cynhyrchu incwm, meithrin gwydnwch a chefnogi bioamrywiaeth
cynyddu nifer y coed ar ffermydd i hybu cynhyrchiant a chynaliadwyedd
helpu mwy o ffermwyr a chymunedau lleol i ddeall a chefnogi amaeth-goedwigaeth ac atebion ffermio sy'n gyfeillgar i natur.
Bydd dau unigolyn neu grwpiau bach o hyd at bedwar (sy'n byw yn Lloegr neu Gymru) yn derbyn £5,000 o gyllid a blwyddyn o fentora arbenigol.
Ar gyfer y ddau gategori, caiff syniadau eu barnu yn ôl pum maen prawf.
Arloesedd: pa mor wreiddiol a chreadigol yw eich syniad?
Effaith: a allwch chi egluro sut mae eich prosiect yn cyd-fynd â nodau Coed Cadw a'r effaith y bydd yn ei chael ar goedwigoedd, coed, bywyd gwyllt a phobl?
Dichonoldeb: a ellir cyflawni eich prosiect yn realistig o fewn blwyddyn? Rydym am i chi feddwl yn uchelgeisiol, ond dylai syniadau fod yn ymarferol ac yn gyraeddadwy hefyd.
Ymchwil: pa fater yn y byd go iawn mae eich syniad yn mynd i'r afael ag ef? A ydych wedi defnyddio tystiolaeth neu ymchwil i gefnogi eich cynnig?
Ymrwymiad: pam mae hyn yn bwysig i chi a beth fydd yn eich helpu i aros yn llawn cymhelliant?
Anfonwch eich syniad arloesol atom erbyn 9am ar 31 Ionawr 2027 gan ddefnyddio'r ffurflen isod. Cyn i chi wneud cais, rydym yn argymell darllen y dudalen Cwestiynau Cyffredin i gael awgrymiadau, arweiniad a phopeth sydd ei angen arnoch i lunio cais cryf.
Caiff eich cais ei sgorio yn unol â'r meini prawf a restrir uchod.
Os cewch eich rhoi ar y rhestr fer, byddwn yn anfon e-bost atoch gydag adborth gan y beirniaid ar eich syniad ac yn eich gwahodd i gyfweliad ar-lein.
Yn ystod y cyfweliad, byddwn yn gofyn am eich prosiect a sut rydych wedi defnyddio adborth y beirniaid i ddatblygu eich syniad.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn ymuno â'r garfan newydd ac yn dechrau ar y broses ymsefydlu ar gyfer eu prosiect.
Edrychwch ar ein tudalen cwestiynau cyffredin am awgrymiadau defnyddiol, arweiniad clir ac atebion i gwestiynau cyffredin.
Gallwch hefyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein tudalen telerau ac amodau.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 9am ar 31 Ionawr 2027.
Adborth a gwahoddiad i gyfweliad drwy e-bost: 5pm ar 15 Chwefror 2027.
Cyfweliadau: 1–4 Mawrth 2027.
Canlyniadau'n cael eu rhannu: 5pm ar 15 Mawrth 2027.
Sefydlu a hyfforddiant: 3–4 Ebrill 2027 (mae'r dyddiadau'n hyblyg ar gyfer y categori Ffermio'r Dyfodol: Gwydnwch – ewch i'r dudalen Cwestiynau Cyffredin am ragor o wybodaeth).
Digwyddiad cysylltu a rhwydweithio: haf 2028.
Os oes gennych unrhyw anghenion ychwanegol ac angen cymorth i gael mynediad at unrhyw wybodaeth, anfonwch e-bost at youth@woodlandtrust.org.uk. Cysylltwch â’r tîm ieuenctid gan ddefnyddio Saesneg yn unig.
Mae cydweithio yn allweddol i alluogi newid cadarnhaol. Mae FfCCFfI a Coed Cadw yn cydweithio i gefnogi pobl ifanc wrth iddynt ddatblygu a chyflawni eu cynlluniau ar gyfer dyfodol cynaliadwy.