Cymraeg
Tanio Arloesedd: tudalen cwestiynau cyffredin
Edrychwch ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin am awgrymiadau defnyddiol, arweiniad clir ac atebion i gwestiynau cyffredin.
Cwestiynau cyffredin ar gyfer y ddau gategori
Does dim angen syniad wedi’i ddatblygu’n gyfangwbl arnoch, a chofiwch nad oes unrhyw syniadau 'anghywir' chwaith. Mae Tanio Arloesedd wedi'i gynllunio i'ch helpu i droi eich syniadau'n realiti.
Dim o gwbl. Mae Tanio Arloesedd wedi'i gynllunio i helpu pobl ifanc i archwilio syniadau newydd, waeth beth fo'u cefndir neu eu profiad. Cewch gefnogaeth drwy gydol y rhaglen gan fentor, tîm ieuenctid Coed Cadw ac amrywiaeth o arbenigwyr a all eich helpu i wireddu eich syniad. Rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd hyfforddi a datblygu i feithrin eich sgiliau a'ch hyder wrth i chi fynd yn eich blaen.
Cewch gefnogaeth ym mhob cam o'r broses gan:
y tîm ieuenctid
mentor
pobl ifanc eraill yn eich carfan
staff ac arbenigwyr Coed Cadw.
Lloegr
Gogledd Lloegr (cylch y 'Northern Forest'): Yn ymestyn ar draws Lerpwl, Manceinion, Leeds, Sheffield a Hull — gan gysylltu ardaloedd trefol â choetir newydd a choridorau gwyrddach.
Sherwood a'r Canolbarth: Yn ardal Swydd Nottingham, gan ganolbwyntio ar adfer hen goetiroedd a choed hynafol.
Yr 'Eastern Claylands': Yn cwmpasu de Norfolk, canol a dwyrain Suffolk, a gogledd Essex, lle gall coetir newydd gysylltu coedwigoedd presennol sydd wedi'u gwasgaru.
Weald a'r Downs (De-ddwyrain): Yn cwmpasu rhannau o Gaint, Sussex a Pharc Cenedlaethol y South Downs — tirweddau hen goetiroedd sydd â photensial mawr i'w hadfer.
Adfer Coedwigoedd Glaw (Cernyw, Dyfnaint, Exmoor): Ardaloedd arfordirol ac ucheldir lle mae darnau o goedwig law dymherus wedi goroesi ac yn cael eu hadfer a'u hymestyn.
Cumbria: Parthau adfer yr ucheldir: Ardaloedd o amgylch Ardal y Llynnoedd a Chumbria ehangach lle mae prosesau naturiol, dalgylchoedd afonydd a choetiroedd yr ucheldir yn cael eu hailgysylltu.
Yr Alban
Coedwig Law yr Alban (Arfordir y Gorllewin): Llain sy'n ymestyn trwy Argyll, Lochaber a'r Ucheldiroedd gorllewinol — un o ardaloedd coedwig law pwysicaf y DU, lle mae coetir llaith, llawn mwsogl, yn ffynnu.
Cymru
Dyfi i Dwyryd (Canolbarth Cymru): Tirwedd rhwng afonydd Dyfi a Dwyryd, lle mae dyffrynnoedd coediog, treftadaeth ddiwylliannol ac adfer natur yn dod ynghyd.
Gogledd Iwerddon
Dyffryn Faughan (Gogledd-orllewin): Clwstwr o goedwigoedd hynafol ger Derry/Londonderry, lle mae adfer rhwydweithiau coetir cysylltiedig yn brif flaenoriaeth.
Fydd eich mentor ddim yn dweud wrthych chi beth i'w wneud. Yn lle hynny, byddant yn fwrdd sain ar gyfer eich syniadau, gan eich helpu i feddwl pethau drwodd heb farnu. Bydd eich mentor yn rhannu eu profiadau, wrth ddarparu arweiniad i osgoi taro’r wal a gweld cyfleoedd cyffrous.
Gallant! Gall grwpiau o hyd at bedwar o bobl weithio gyda'i gilydd ar un prosiect.
Meddyliwch yn ofalus am sut rydych chi am fynd ati i ymrwymo i'ch prosiect am flwyddyn, gan fod gan geisiadau unigol a grŵp eu manteision a'u heriau. Roedd rhai cyfranogwyr blaenorol yn gwerthfawrogi gweithio mewn parau neu grwpiau bach, gan ei fod yn helpu i rannu'r llwyth gwaith a dod â syniadau'n fyw ar y cyd. Gwnaeth eraill ddarganfod y gallai gweithio mewn grŵp ei gwneud hi'n anoddach rheoli perthnasoedd, cydlynu amserlenni a chydbwyso cyfraniadau.
Ar gyfer y flwyddyn i ddod, rydyn ni’n eich annog i ystyried yn ofalus beth fydd yn gweithio orau i chi cyn gwneud cais. Cadwch mewn cof:
sut mae’n well gennych chi weithio (yn annibynnol neu ar y cyd)
yr amser a'r ymrwymiad y gallwch eu rhoi yn realistig
p'un ai oes gennych gydweithwyr dibynadwy y gallwch bartneru â nhw'n effeithiol
sut y byddwch yn rheoli cyfrifoldebau a chyfathrebu.
Does dim un dull cywir neu anghywir; y peth pwysicaf yw dewis y trefniant a fydd yn eich helpu i aros yn frwdfrydig ac yn drefnus, ac yn eich galluogi i wireddu eich syniad yn llwyddiannus. Dim ond timau o hyd at 4 a dderbynnir.
Caiff eich cais ei sgorio yn unol â'r meini prawf a restrir ar dudalen we Tanio Arloesedd. Os cewch eich rhoi ar y rhestr fer, byddwch yn derbyn e-bost gydag adborth gan y beirniaid a gwahoddiad i gyfweliad. Yn ystod y cyfweliad, gofynnir cwestiynau pellach am eich cais, eich syniad a'ch gweledigaeth, yn ogystal â sut rydych wedi defnyddio'r adborth o'r rownd gychwynnol. Unwaith y bydd pob ymgeisydd ar y rhestr fer wedi cael cyfweliad a gwybod y canlyniad, bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ffurfio carfan 2026 ac yn dechrau'r broses ymsefydlu ar gyfer eu prosiect.
Rydym yn derbyn nifer fawr o syniadau gwych bob blwyddyn. Yn anffodus, ni ellir dewis pob un ohonynt. Os na fydd eich cais yn llwyddiannus, rydym yn eich annog yn gryf i weithio ar eich syniad a gwneud cais eto y flwyddyn nesaf. Byddwch hefyd yn derbyn gwybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli ychwanegol gyda Choed Cadw.
Wrth gwrs! Eich syniad chi yw hwn a chi yw rheolwr y prosiect. Ein rôl ni yw rhoi llwyfan i chi ddechrau eich taith a gwireddu eich syniad.
Hyd yn oed os na fydd eich syniad yn llwyddiant, rydych chi’n dal wedi llwyddo. Mae Tanio Arloesedd yn ymwneud â dysgu, profi a gwella, nid perffeithrwydd. Mae pob syniad dysgu rhywbeth gwerthfawr i chi – dyna'r holl bwynt.
Mae llwyddiant yn edrych yn wahanol ar gyfer pob prosiect, a byddwch yn helpu i ddiffinio beth mae'n ei olygu i'ch prosiect chi. Fel arweinydd y prosiect, chi fydd yn pennu'r nodau rydych chi'n gweithio tuag atynt. Nid y canlyniad terfynol yn unig sy'n cyfrif fel llwyddiant. Mae hefyd yn ymwneud â'r hyn rydych chi'n ei ddysgu ar hyd y ffordd, y sgiliau rydych chi'n eu datblygu, y cysylltiadau rydych chi'n eu gwneud ac effaith eich prosiect.
Does dim nifer penodol o oriau y disgwylir i chi eu cyfrannu. Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio i fod yn hyblyg. Byddwch yn rheoli eich prosiect ochr yn ochr â'ch ymrwymiadau arferol, felly mae'n bwysig meddwl yn realistig am yr hyn y gallwch ei ymgymryd ag ef.
Mae cyfranogwyr blaenorol wedi dweud bod prosiectau'n aml yn cymryd mwy o amser ac ymdrech nag yr oeddent wedi'i ddisgwyl ar y cychwyn. Rydyn ni’n eich annog i gynllunio ar gyfer hyn a sicrhau bod gennych ychydig o amser sbâr lle bo modd.
Cofiwch y gall eich argaeledd newid trwy gydol y flwyddyn. Efallai y bydd cyfnodau pan allwch chi ymroi mwy, ac eraill pan fydd angen i chi gymryd cam yn ôl – ac mae hynny'n iawn! Y peth pwysicaf yw eich bod yn rheoli eich prosiect mewn ffordd sy'n teimlo'n realistig ac yn gynaliadwy i chi.
Yn bendant! Cyn cam cynllunio'r prosiect, cewch gyfle i gwrdd â'r enillwyr eraill yn eich carfan a dechrau meithrin cysylltiadau. Mae'n gyfle gwych i rannu syniadau, dysgu oddi wrth eich gilydd a hyd yn oed archwilio posibiliadau ar gyfer cydweithio.
Byddwch hefyd yn cael gwahoddiad i'n digwyddiad blynyddol i gyn-gyfranogwyr, lle gallwch gysylltu â chyfranogwyr blaenorol a chyfredol, ehangu eich rhwydwaith a darganfod cyfleoedd newydd i gydweithio.
Y gwir amdani yw bod pob prosiect yn wynebu heriau ar ryw adeg. Os na fydd pethau'n mynd yn ôl y cynllun, bydd gennych gefnogaeth gan eich mentor, y tîm ieuenctid ac arbenigwyr eraill a all eich helpu i ddelio â heriau, addasu eich dull gweithredu a pharhau i symud ymlaen.
Yn bendant! Yn wir, mae llawer o brosiectau'n parhau ymhell ar ôl y rhaglen. Mae Tanio Arloesedd wedi'i gynllunio i'ch helpu i roi eich syniad ar waith, ac rydyn ni bob amser yn falch o weld prosiectau'n tyfu ac yn datblygu ymhell ar ôl i'r rhaglen ddod i ben.
Cwestiynau Cyffredin yn benodol ar gyfer y categori Ffermwyr y Dyfodol: Gwydnwch
Mae'r rhaglen hon yn cefnogi pobl ifanc (rhwng 16 a 25 oed) sydd â diddordeb mewn coedwigaeth amaethyddol a ffermio sy'n gyfeillgar i natur, i archwilio syniadau newydd, profi dulliau sy'n fuddiol i natur, a chysylltu ag eraill sy'n malio am ddyfodol ffermio. Nid oes angen i chi fod yn 'arloeswr' yn barod; mae'r rhaglen yn eich helpu i ddatblygu’n un.
Mae'r categori hwn yn agored i unrhyw un rhwng 16 a 25 oed sydd eisiau archwilio ffyrdd newydd o ffermio sy'n cefnogi natur a phobl. Gallai hyn gynnwys ffermwyr ifanc, myfyrwyr amaethyddiaeth, rheolwyr tir ar ddechrau eu gyrfa, neu unrhyw un sydd eisiau gweithio gyda'r tir. Os yw'r categori yn apelio atoch chi ac os yw eich syniad yn cyd-fynd â'n briff, fe hoffen ni glywed oddi wrthych!
Na, byddwch yn dysgu popeth am goedwigaeth amaethyddol wrth i chi fynd yn eich blaen os mai dyna yw ffocws eich prosiect. Mae Tanio Arloesedd yn lle i archwilio coedwigaeth amaethyddol, ffermio adfywiol a syniadau sy'n fuddiol i natur, p'un ai ydych chi'n hollol newydd iddyn nhw neu'n arbrofi'n barod.
Eleni, byddwn yn ariannu dau brosiect ffermio dan arweiniad pobl ifanc. Bydd pob prosiect buddugol yn derbyn £5,000 i helpu i archwilio syniad arloesol.
Dylech. Dydi arloesedd ddim yn ymwneud â bod yn ffansi na defnyddio uwch-dechnoleg. Mae'n ymwneud â nodi problem a bod eisiau gwella pethau. Os oes gennych ddiddordeb mewn ffermio, natur neu eich cymuned, rydych chi eisoes hanner ffordd yno.
Rydyn ni’n awyddus iawn i glywed syniadau sy'n cyd-fynd ag un neu fwy o'r nodau hyn:
archwilio sut y gall coed a natur greu cyfleoedd newydd i ffermydd, gan gynnwys cynhyrchu incwm, meithrin gwydnwch a chefnogi bioamrywiaeth
cynyddu nifer y coed ar ffermydd i hybu cynhyrchiant a chynaliadwyedd
helpu mwy o ffermwyr a chymunedau lleol i ddeall a chefnogi amaeth-goedwigaeth ac atebion ffermio sy'n gyfeillgar i natur.
Ond nid rhestr gynhwysfawr yw hon o bell ffordd, ac rydyn ni’n croesawu syniadau am ffermio sy'n fuddiol i natur.
Edrychwch ar y dudalen hon i gael rhagor o wybodaeth am waith Coed Cadw ym maes amaeth-goedwigaeth.
Ar ôl cwblhau'r rhaglen, byddwch yn rhan o rwydwaith cyn-fyfyrwyr Tanio Arloesedd. Mae hyn yn rhoi'r cyfle i chi:
cadw mewn cysylltiad
rhannu eich dysg
dylanwadu ar strategaeth Coed Cadw
gweithredu fel eiriolwr dros ffermwyr ifanc sy'n llunio dyfodol ffermio.
Oes gennych chi gwestiwn?
Rhowch wybod i ni! Sgwrsiwch â ni trwy e-bost yn youth@woodlandtrust.org.uk a bydd ein tîm cyfeillgar yn eich helpu gydag unrhyw gwestiynau, pryderon neu anghenion hygyrchedd. Cysylltwch â’r tîm ieuenctid gan ddefnyddio Saesneg yn unig.
Sut ydw i'n gwneud cais?
Anfonwch eich syniad arloesol atom erbyn 9am ar 31 Ionawr 2027 gan ddefnyddio'r ffurflen isod.