Edrych i mewn: Cymraeg

Mae gennym gyfle enfawr i newid y ffordd yr ydym yn rheoli ein tir yng Nghymru drwy Gynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) newydd. Rydym yn galw am gymorth i helpu ein ffermwyr i roi bwyd cynaliadwy, cynefinoedd iach a gweithrediad ein hecosystemau yn flaenaf. Gallwn helpu ein ffermwyr, ein cymunedau a’n diwylliant i ffynnu drwy sicrhau bod Cymru’n mynd i’r afael ag argyfyngau natur a hinsawdd nawr, yma a thramor.

Mae coed, gwrychoedd a choetiroedd yn hanfodol i gyflawni llawer o’r canlyniadau y mae’r cynllun yn ei ddymuno. Mae coed, yn enwedig coed brodorol, yn naturiol hanfodol i fusnes y fferm ac i oroesiad ac adferiad bywyd gwyllt. Maent yn adnodd naturiol gyda buddion enfawr i fusnesau fferm, gan leihau dibyniaeth ar fewnbynnau, lliniaru tywydd eithafol, helpu adferiad bywyd gwyllt a hybu lles cymunedol. Dyna pam rydym am weld Ein Deg Cais am Goed ar Ffermydd yn cael eu cynnwys yn y cynllun newydd.

Ein Deg Cais am Goed ar Ffermydd

1. Darparu ar frys gynllun cyffredinol wedi'i ariannu'n dda sy'n helpu ffermwyr i wrthdroi dirywiad mewn cynefinoedd, afonydd, priddoedd ac atmosffer.

  • Gwarchod amgylchedd y fferm gan sicrhau cynaladwyedd cynhyrchu bwyd.
  • Lleihau llygredd a lliniaru costau newid hinsawdd a thywydd garw.
  • Gwella a chynyddu cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt.
  • Cefnogi economïau, cymunedau a diwylliant lleol a thirweddau unigryw.

2. Cadarnhau safonau gofynnol rheoleiddiol ar gyfer diogelu'r amgylchedd.

  • Mae cydymffurfiaeth reoleiddiol yn bwysig er tegwch, gan atal y rhai mwyaf diystyriol o effeithiau ar eraill rhag cael mantais gystadleuol.
  • Buddsoddi ar frys mewn monitro a gorfodi digonol.
  • Rhaid i arian cyhoeddus ddibynnu ar gydymffurfio â'r gyfraith a thalu am welliannau uwchlaw'r gofynion rheoleiddio sylfaenol.

3. Gwarchod a gwella'r gwrychoedd, coed a choetiroedd sydd eisoes yn bodoli.

  • Cefnogi ffermwyr i adnabod, gwarchod a rheoli coed hynafol, gwrychoedd a choetiroedd, gan ddiogelu ein treftadaeth natur-gyfoethog na ellir ei ei hadnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
  • Cefnogi tenantiaid i ehangu gwrychoedd fel dewis amgen i'r trothwy gorchudd coed o 10%.
  • Buddsoddi mewn ffensio a'r gadwyn gyflenwi ffensio.
  • Gofalu am linellau coed lle mae gwrychoedd wedi tyfu'n goed aeddfed.
  • Ariannu cyngor proffesiynol i reoli coetiroedd fferm, yn enwedig i adfer coetiroedd hynafol.

4. Helpu ffermydd i weithio tuag at 10% o orchudd coed a gwrychoedd.

Annog tirfeddianwyr i gynyddu gorchudd coed drwy:

  • Hyrwyddo manteision niferus coed ar ffermydd, gan gynnwys hybu peillwyr, dal carbon, cynyddu cynhyrchiant ac arbed arian.
  • Hwyluso ein 5 maes allweddol ar gyfer gweithredu:
    • Mapio coetir fferm a gwrychoedd ac ymylon, gan gynnwys coed gwasgaredig, llinellau coed a choed ar hyd cyrsiau dŵr.
    • Mapio ardaloedd o gynefinoedd lled-naturiol lle na ddylid plannu coed.
    • Meddwl am loches a lles anifeiliaid, atal llifogydd ac erydiad pridd, lleihau llygredd. Ehangu’r gwrychoedd, yn enwedig terfynau y fferm; plannu mwy o goed i amddiffyn ymylon afonydd a nentydd; sefydlu stribedi coed i greu porfa gysgodol fwy cynhyrchiol; ymestyn coetir ar gyfer sglodion pren, ffensys a phren.
    • Annog rhannu profiad a chyngor, gan amlygu ffermwyr sydd eisoes yn defnyddio gwrychoedd, coed a choetiroedd er budd eu fferm.
    • Darparu dosbarthiadau meistr yn seiliedig ar dystiolaeth ar ddylunio coed, gwrychoedd a choetiroedd i systemau ffermio a menter y fferm.

5. Cefnogi ffermydd i drawsnewid eu gwrychoedd ‘gwelladwy’ neu ‘safonol’ yn ‘oruwch-wrychoedd’.

  • Cynnal ‘goruwch-wrychoedd’ tal, trwchus a llydan, gan amddiffyn y fferm a da byw rhag y gwynt, yr haul a llifogydd. Mae’r rhain yn creu storfeydd carbon mwy, tra’n darparu blodau a ffrwythau ar gyfer peillwyr a lle mwy diogel i fywyd gwyllt.
  • Dechrau gyda gwrychoedd terfyn fferm, gan gynnwys y rhai ar hyd hawliau tramwy cyhoeddus. Mae'r rhain yn fwy tebygol o fod yn ffiniau treftadaeth hynafol ac o werth uchel ar gyfer bywyd gwyllt, diogelwch, a gwahanu buchesi a diadellau.

6. Cwrdd â galwad y Senedd i gefnogi mwy o amaeth-goedwigaeth.

  • Gwella a diogelu priddoedd a lleihau effaith tywydd eithafol trwy sefydlu coed gwasgaredig lle bo hynny'n briodol. Cynllunio stribedi coed ar gyfer cnydau newydd a rhoi cysgod hanfodol i dda byw.
  • Buddsoddi mewn gwrychoedd ac ymylon a lleiniau coed, yn enwedig lle byddant yn lleihau llifogydd a llygredd, er enghraifft ar draws llethrau, ar hyd cyrsiau dŵr a lle bynnag y bydd dŵr yn casglu. Wedi'u lleoli o amgylch unedau da byw a dofednod, gall lleiniau coed atal dŵr a gwaddod, maetholion gormodol neu allyriadau amonia.

7. Datblygu meincnod bywyd gwyllt fferm annibynnol i helpu ffermydd i wella.

8. Ariannu cymorth proffesiynol ar gyfer gweithio traws-fferm er mwyn gwella'r dirwedd gyfan.

  • Gweithio ar hyd afonydd i greu parthau gwarchod glannau afonydd parhaus sy'n rhannol goediog, gan atal erydiad, gwella ansawdd dŵr ac adfer stociau bywyd gwyllt a physgod.
  • Cynyddu gorchudd coetir ar draws tirweddau, yn enwedig lle mae'n gwella ansawdd dŵr ac yn lliniaru llifogydd.
  • Rheoli coetir ar y cyd, cefnogi rheolaeth coetir ar lefel fferm, adeiladu gallu cynaeafu a phrosesu pren lleol a chefnogi contractwyr a chadwyni cyflenwi.
  • Cefnogi mentrau aml-berchennog fel Prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru a'u gwobrwyo fel rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

9. Annog mwy o dir pori coed ar dir mynydd

  • Lleihau pori ymhlith coed gwasgaredig yr ucheldir, gan ganiatáu i goed newydd dyfu'n naturiol. Defnyddio dwysedd pori isel i leihau perygl tân, gan helpu i ddiogelu ac adfer priddoedd mawn ucheldir a chynyddu cadw dŵr.
  • Cefnogi’r defnydd ‘dim ffens’ o blannu coed brodorol ac aildyfiant naturiol i wella cysgod ac adfer rhywfaint o orchudd coetir a phrysgwydd lle nad oes rhywogaethau sy’n dibynnu ar dirweddau heb goed yn bresennol.
  • Cynnal ffensys i amddiffyn rhagnentydd ac adfer gylïau sy'n erydu.

10. Darparu mwy o gamau gweithredu haen ddewisol SFS gan ddefnyddio coed i gyflawni mwy o gamau gweithredu hinsawdd cadarnhaol o ran natur.

  • Cefnogi meithrinfeydd coed cymunedol ar y fferm, casglu hadau a darparu coed a dyfir yn lleol i'w plannu er mwyn osgoi'r risgiau bioddiogelwch o fewnforio coed.
  • Nodi a mapio ein hen goed pwysicaf sy’n gyfoethog o ran natur ar ffermydd i sicrhau eu bod yn cael eu cydnabod a’u hamddiffyn fel treftadaeth fyw ddiwylliannol i’w throsglwyddo i genedlaethau’r dyfodol.
  • Cefnogi cael gwared ar rywogaethau niweidiol ac ymosodol fel rhododendron.