Edrych i mewn: Cymraeg

Mae gan amaeth-goedwigaeth lawer o wahanol ffurfiau a buddion. Mae rhai mathau traddodiadol o amaeth-goedwigaeth wedi bodoli ers tro yng Nghymru, ond erbyn hyn mae’r diddordeb a’i ddatblygiad ym mhob ffurf yn tyfu. Mae Coed Cadw – sef y Woodland Trust yng Nghymru - yn cydnabod bod ffermwyr ac amaeth-goedwigaeth yn rhan arwyddocaol o’r ateb wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur. Rydym ni wedi bod yn gweithio gyda ffermwyr ac yn annog Llywodraeth Cymru i wneud ffurf fwy traddodiadol o amaeth-goedwigaeth, sef y dull ‘Gwrychoedd ac Ymylon’, yn rhan o'r cynllun ffermio cynaliadwy sydd ar ddod.

Beth yw Gwrychoedd ac Ymylon?

Mae’r term hwn yn cyfeirio at orchudd canopi coed a ddarperir gan wrychoedd a choed gwrychoedd, ymylon afonydd a lleiniau cysgodi i ddiogelu da byw a thir cynhyrchiol. Mae coed a llystyfiant brodorol yn cael eu plannu neu eu hannog i adfywio'n naturiol, ochr yn ochr â nodweddion ffiniol, megis waliau, glannau ac ymylon caeau, neu unrhyw le mae dŵr croyw yn casglu, fel ffosydd, gylïau, ceunentydd, nentydd, pyllau ac afonydd.
Ymyriad bwriadol wedi'i dargedu, bydd Gwrychoedd ac Ymylon yn helpu i leihau effeithiau tywydd eithafol ac yn dechrau gwrthdroi degawdau o gwymp natur. Wedi’i reoli i safon gytunedig, bydd yn:

  • cynorthwyo cynaliadwyedd amaethyddol
  • gwella lles anifeiliaid a sofraniaeth bwyd
  • lleihau llifogydd a cholli pridd
  • gwarchod a chynyddu storfeydd carbon
  • cyfrannu at adfer ansawdd dŵr croyw
  • helpu i wrthdroi colledion bioamrywiaeth a chynyddu bywyd gwyllt

Cafodd y math mwy traddodiadol hwn o amaeth-goedwigaeth Gymreig ei adfywio a'i ysbrydoli gan fenter ffermio Pontbren.

Dywedodd Will Evans, ffermwr, newyddiadurwr amaethyddol a chyfarwyddwr Cynhadledd Ffermio Rhydychen:

“Rwyf wedi fy nghalonogi gymaint gan gynllun Gwrychoedd ac Ymylon arfaethedig Coed Cadw. Nid yw’n radical, nid oes angen gwneud newidiadau ar raddfa fawr i’n harferion, mae’n ymwneud yn unig ag ariannu atgyweirio a gwella’r hyn sydd yno’n barod – ac yn hollbwysig, maent wedi ymgynghori â ffermwyr.”

Dywedodd Abi Reader, dirprwy lywydd NFU Cymru:

“Mae'n hanfodol bod cynlluniau ffermio'r dyfodol yn ein gwobrwyo'n deg i gynyddu'r gorchudd coed. Gallai mwy o wrychoedd, lleiniau cysgodi a choridorau glan nentydd, ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd, fel yn achos Gwrychoedd ac Ymylon, gael eu mabwysiadu’n rhwydd.”

Cynllun ffermio cynaliadwy i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac ecolegol

Mae angen gweithredu ar unwaith a pharhaus gan bob sector i leihau'r gyfradd bresennol o allyriadau hinsawdd ac i roi mwy o amddiffyniad i fywyd gwyllt yma yn y DU. Mae ffermwyr ac amaeth-goedwigaeth yn rhan sylweddol o’r datrysiad i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur yng Nghymru.

80%

Defnyddir 80% O dir Cymru ar gyfer amaethyddiaeth.

180,000

Erbyn 2050, mae angen creu 180,000 o hectarau newydd o goed er mwyn diwallu targedau sero net Cymru, fel y nodir gan Gomisiwn y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd.

<4%

Gallai <4% o dir amaethyddol sy’n ymarfer amaeth-goedwigaeth gyflenwi oddeutu hanner targedau gorchudd coed arfaethedig Cymru.

Ar hyn o bryd, mae ffermwyr yn cael eu talu yn ôl faint o dir sydd ar gael i gynhyrchu bwyd. Ond tan brisiodd y system hon natur yn ddamweiniol, ynghyd â rôl gynaliadwyedd coed brodorol ar ffermydd. Mae angen mabwysiadu cynllun ffermio cynaliadwy newydd. Mae angen iddo wrthdroi colledion bioamrywiaeth yn sylweddol a sefydlu cynefinoedd bywyd gwyllt newydd wrth warchod ac ailgysylltu natur.

Mae Gwrychoedd ac Ymylon yn ffordd gynhwysol a hygyrch o wneud hyn. Er mwyn helpu i ddiwallu targedau gorchudd coed a argymhellir Cymru, rydym yn cynnig Gwrychoedd ac Ymylon fel rhan sydd ar gael i bawb o gynllun ffermio cynaliadwy newydd Cymru pan gaiff ei gyflwyno yn 2025.

Dywedodd Iolo Williams, y naturiaethwr a chyflwynydd teledu a radio:

“Byddwch yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i syniad gwell am daliad fferm na Gwrychoedd ac Ymylon. Os caiff ei dargedu'n gywir, gallai ddarparu sylfaen i gysylltiadau bywyd gwyllt newydd, gan gynorthwyo adferiad byd natur; rhan o’r gweithredu brys ar yr hinsawdd sydd ei angen ar bawb yng Nghymru.”

Dangos eich cefnogaeth i Gwrychoedd ac Ymylon

Anogwch bobl i fabwysiadu Gwrychoedd ac Ymylon yng Nghymru trwy gysylltu â’ch Aelodau o’r Senedd. Gofynnwch iddynt gefnogi Gwrychoedd ac Ymylon trwy danysgrifio i’r Datganiad o Farn trawsbleidiol. Cofiwch gynnwys dolen i’r datganiad.

Dysgwch fwy am rôl hanfodol coed wrth fynd i'r afael â'r argyfwng natur a hinsawdd yn ein Maniffesto ar gyfer etholiadau Senedd Cymru 2021.

Dywedodd Geraint Davies, ffermwr yr ucheldir ac aelod o fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Rwy’n annog Aelodau’r Senedd i gefnogi cynnig Gwrychoedd ac Ymylon Coed Cadw. Mae gwrychoedd o ansawdd uwch yn darparu buddion lluosog i ffermydd sy'n gweithio. Maent yn sicrhau ffiniau, yn gwella bioddiogelwch, cynhyrchiant fferm ac yn cyflawni dros natur.”

Plannu coed ar eich tir

Pe gallech blannu gwrychoedd ac ymylon ar eich tir, archwiliwch ein cynlluniau plannu coed cymorthdaledig.