Edrych i mewn: Cymraeg

Author:

The Woodland Trust

Publication date:

March 2021

Publication type:

Discussion paper

Pages:

11

Coed Cadw Maniffesto Cover

Yn ein manifesto rydyn ni’n dangos sut gall coed ein helpu yr adeg yma i fynd i’r afael a’r argyfwng natur a hinsawdd ac adeiladu economi sy’n gydnerth o ran yr hinsawdd a chymdeithas lle mae natur yn gyforiog, un sy’n addas i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Ers canrifoedd mae ein llesiant yn dibynnu ar goed a choedydd i ddarparu gwreiddiau a changhennau bywyd. Mae coed bob amser wedi cynnig atebion syml a chost effeithiol i’r heriau rydyn ni i gyd yn eu hwynebu.

Mae ‘Gwreiddiau Adferiad Gwyrdd yng Nghymru’, yn nodi sut mae coed yn gweithio i fyd natur, pobl a’n heconomi. Y ‘gwreiddiau’ hyn yw’r sylfeini ar gyfer adferiad gwyrdd yng Nghymru:

  1. Gwyrddio ein Trefi a’n Dinasoedd – i ddod â choed a mannau gwyrdd yn agosach i ni oll; maent yn naturiol hanfodol i’n hiechyd a’n hapusrwydd ym mhob ffordd. Mae angen coed arnom i anadlu, ein hamddiffyn rhag llygredd a lleihau llifogydd. Maent yn ein cysgodi rhag gwres eithafol a byddant yn dod â’r natur sydd mor hoff gynnon ni’n agosach i’n cartrefi. Mae’r gwasanaethau a ddarperir gan goed yn arbed arian i ni ac yn achub bywydau.
  2. Cefnogi Cymunedau Ffermio â Choed – yn draddodiadol, mae coed a gwrychoedd wedi diogelu a darparu er lles anifeiliaid fferm. Yn naturiol maent yn maethu, cynyddu ac yn diogelu priddoedd ffermydd, o ran eu ffrwythlondeb a’u storfa garbon hanfodol, gan helaethu eu gallu i dyfu cnydau. Mae coed yn cynnig cartref unigryw amrywiol a chymhleth ar gyfer toreth o fywyd gwyllt. Bydd eu hail sefydlu’n briodol yn diogelu ein cymunedau rhag amodau tywydd cynyddol andwyol a achosir gan newid yn yr hinsawdd.
  3. Cysylltu Cymru ag Economi Goetiroedd – Gall meithrin cysylltiadau pob dydd â choed ein helpu i ofalu am ein hamgylchedd naturiol a’i deall yn well. Bydd cynyddu nifer y coed yn gwella iechyd a llesiant ein cymunedau drwy sicrhau gwell ansawdd bywyd a dyfodol sicrach i’n plant, yn ogystal â mynd i’r afael ar frys â’r argyfwng hinsawdd a natur. Bydd economi goetiroedd sy’n gofalu am ein gorchudd coed ac yn ei ehangu yn darparu swyddi ac yn cyfrannu’n sylweddol i adferiad gwyrdd Cymru.  
Download PDF (4.77 MB)