Beth nesaf?

Rhowch hwb i goed yn eich ardal chi, neu cofrestrwch i gael ein cylchlythyr i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein hymgyrchoedd.

> 2x

yn fwy o orchudd coed yng nghymdogaethau mwyaf cefnog y DU

30%

yn llai o lygredd NO₂ mewn cymdogaethau lle mae gorchudd coed y pen ar ei uchaf

1,300km²

o orchudd coed ychwanegol fyddai ei angen i sicrhau mynediad teg at goed yn y DU

Pam mae mynediad at goed yn bwysig

Ymarfer corff. Ocsigen. Therapi. Cysgod. Mae angen coed ar bob un ohonom, ond mae miliynau o bobl yn byw hebddynt.

Mae ein hadnodd Sgôr Ecwiti Coed y DU wedi datgelu bod gan y cymdogaethau trefol lleiaf difreintiedig, fwy na dwy waith yn fwy o orchudd coed y pen na’r rhai mwyaf difreintiedig. Mae’r anghyfiawnder hwn yn golygu bod gan gymdogaethau sydd â thlodi coed lai o fynediad at y manteision hanfodol a gawn gan goed, gan gynnwys y canlynol:

  • lefelau is o straen
  • iechyd meddwl cyfoethocach
  • amddiffyniad rhag effeithiau newid yn yr hinsawdd
  • llai o lygredd aer
  • llai o lygredd sŵn
  • cysgod hanfodol yn ystod cyfnodau o dywydd poeth.

Ni ddylai unrhyw un golli allan ar y manteision iechyd a gawn gan goed oherwydd lle maen nhw’n byw. Felly, rydyn ni’n gweithio’n ddiflino ochr yn ochr â chymunedau angerddol i wella’r gorchudd coed mewn trefi - diogelu coed pwysig, adfer mannau gwyrdd a chael mwy o goed yn y pridd.

Chwilio am ysbrydoliaeth

Dysgwch sut mae gwahanol bobl yn gwella mynediad at goed mewn ardaloedd trefol ledled y DU.