Cymraeg
Coed Gwent yn goetir llydanddail yn bennaf am y tro cyntaf ers canrif
The UK's leading woodland conservation charity
Mae coetir hynafol lle plannwyd coed conwydd yn helaeth yn ystod y ganrif ddiwethaf wedi dod yn goetir llydanddail brodorol yn bennaf am y tro cyntaf ers rhyw 100 mlynedd, yn sgil dau ddegawd o waith adfer gan Coed Cadw, y Woodland Trust yng Nghymru.
Prynodd Coed Cadw 353 hectar (873 erw) o Goed Gwent, rhwng Casnewydd a Chas-gwent, yn 2006. Ugain mlynedd yn ddiweddarach, rydyn ni’n amcangyfrif bod coed llydanddail bellach yn cyfrif am 54% o’r canopi ar draws y safle sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth, o’i gymharu â thua 43% o goed conwydd, ac eithrio llwybrau a thraciau.
Mae’r garreg filltir hon yn gam pwysig yn y gwaith o adfer un o dirweddau coetir pwysicaf Cymru. Mae Coed Gwent yn rhan o’r bloc mwyaf o goetir hynafol yng Nghymru: coedwig sy’n estyn ar draws dros 1,000 hectar (2,500 erw) o dir, a darn sydd wedi goroesi o goetir a oedd unwaith yn estyn bob cam o afon Wysg i afon Gwy.
Cafodd llawer o’r coetir llydanddail a oedd yn weddill yng Nghoed Gwent ei gwympo rhwng y ddau ryfel byd ac, erbyn y 1960au, roedd coed conwydd wedi’u plannu ar yr holl dir sydd bellach yn eiddo i Coed Cadw. Ers prynu’r safle, mae’r elusen wedi mynd ati’n raddol i deneuo’r planhigfeydd conwydd ac i gefnogi adferiad coetir brodorol, gan fynd ati ar yr un pryd i adfer cynefinoedd coetir hynafol, rhostir a choed pori.
Bu’r broses yn gyfuniad o waith gofalus i gael gwared ar goed conwydd a’u teneuo, adfywiad naturiol, a phlannu gweithredol, gan gynnwys technegau fel hau uniongyrchol a throchi gwreiddiau.
Erbyn hyn, mae tua 148 hectar wedi’u gorchuddio gan goetir llydanddail sy’n frodorol i’r safle, yn ychwanegol at yr oddeutu 44 hectar o goetir llydanddail a oedd eisoes yn bresennol pan fu i Coed Cadw ysgwyddo’r gwaith o reoli’r safle. Ceir tua 151 hectar o goetir conwydd, ac mae’r gweddill yn draciau, yn llwybrau ac yn ffyrdd coedwig.
Dywedodd Rob Davies, Rheolwr Safle De-ddwyrain Cymru yn Coed Cadw:
“Mae coetiroedd llydanddail brodorol yn cynnal amrywiaeth llawer ehangach o rywogaethau, felly mae’r garreg filltir hon yn golygu bod Coed Gwent ar y ffordd i ddod yn lle mwy amrywiol ac arbennig ar gyfer planhigion ac anifeiliaid coetir. Bellach, rydyn ni’n canolbwyntio ar waith rheoli parhaus drwy deneuo a chwympo’r coed conwydd sy’n weddill a’r coetir llydanddail i sicrhau bod y duedd hon yn parhau.”
Bwriedir i’r gwaith adfer greu coetir iachach a mwy gwydn, gydag amrywiaeth fwy cyfoethog o gynefinoedd brodorol ar gyfer bywyd gwyllt. Cofnodwyd dros 70 o rywogaethau o adar a 23 o rywogaethau o löynnod byw yng Nghoed Gwent, sydd hefyd yn cynnal pathewod, ystlumod, gwiberod, dyfrgwn, morgrug y coed a phlanhigion coetir, gan gynnwys clychau’r gog, blodau’r gwynt a gwyddfid.
Yn ddiweddar, gwelwyd beleod ar y safle, ffaith drawiadol sy’n ein hatgoffa o amrywiaeth y bywyd gwyllt sy’n defnyddio’r coetir. Mae’r rhywogaeth hon ymhlith y rhai y gallai ymwelwyr fod yn ddigon ffodus i weld arwyddion ohonyn nhw yng Nghoed Gwent, ochr yn ochr â gweilch Marthin, troellwyr mawr, madfallod, telorion y coed, ac iyrchod brodorol.
Cyn i Coed Cadw ddechrau rheoli’r safle’n weithredol, roedd adfywiad naturiol rhywogaethau llydanddail brodorol yn wael am fod yno nifer fawr o geirw ac am fod coed conwydd yn bwrw cysgod trwchus. Erbyn hyn, mae’r ddau ffactor hyn yn cael eu rheoli’n dda ac mae’r goedwig yn adfywio’n dda, gyda chynnydd o ran amrywiaeth y fflora ar lawr y goedwig mewn sawl man.
Ychwanegodd Rob Davies:
“Mae ar rywogaethau coetir angen amrywiaeth o gynefinoedd coetir, ynghyd â choedwigoedd â chymysgedd o goed o wahanol rywogaethau ac o wahanol oedran; oni bai ein bod yn mynd ati i adfer coetir hynafol, bydd y dirywiad rydyn ni’n clywed llawer o sôn amdano o ran y rhywogaethau hyn yn parhau.
"At hynny, mae angen canopïau coetir ag amrywiaeth dda o rywogaethau coed i sicrhau bod ein coedwigoedd yn gallu gwrthsefyll bygythiadau cynyddol clefydau coed, tanau gwyllt a sychder – pethau sy’n rhannol gysylltiedig â’n hinsawdd sy’n newid. Bydd y gwaith adfer yng Nghoed Gwent yn sicrhau y bydd y safle’n parhau i fod yn noddfa i fywyd gwyllt am genedlaethau.”
Mae hanes Coed Gwent yn estyn yn ôl dros filoedd o flynyddoedd. Ceir crugiau angladdol o’r Oes Efydd ar y cefnennau o hyd, tra mae’r coetir yn cael ei grybwyll yn Llyfr Llandaf sy’n dyddio o’r 12fed ganrif. Yn ddiweddarach, darparodd y coetir goed a siarcol ar gyfer diwydiant lleol a bu hefyd yn rhan o diroedd hela Castell Cas-gwent.
Heddiw, mae ei rwydwaith helaeth o ffyrdd, traciau, llwybrau troed a llwybrau ceffyl yn ei wneud yn gyrchfan boblogaidd ar gyfer cerdded, beicio, marchogaeth ceffylau a chyfeiriannu. Mae Llwybr Dyffryn Wysg, sy’n 77km (48 milltir) o hyd, hefyd yn mynd drwy’r goedwig. Mae Coed Gwent hefyd yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru ac mae croeso i bawb ymweld â’r safle am ddim.
Nodiadau i olygon
Am Coed Cadw
Y Woodland Trust (Coed Cadw) yw’r elusen gadwraeth coetir fwyaf yn y DU.
Mae ganddi dros 500,000 o gefnogwyr. Mae am weld DU sy’n gyfoethog mewn coedwigoedd a choed brodorol ar gyfer pobl a bywyd gwyllt. Mae gan yr Ymddiriedolaeth dri phrif nod:
amddiffyn coetir hynafol, sy'n brin, yn unigryw ac yn anadnewyddadwy
adfer coetir hynafol sydd wedi'i ddifrodi, gan ddod â darnau gwerthfawr o'n hanes naturiol yn ôl yn fyw
plannu coed a choedwigoedd brodorol gyda'r nod o greu tirweddau gwydn i bobl a bywyd gwyllt.
Wedi'i sefydlu ym 1972, mae gan y Woodland Trust bellach dros 1,000 o safleoedd yn ei gofal sy'n cwmpasu tua 33,000 hectar. Mae'r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gyda chyfanswm arwynebedd o 2,897 hectar (7,155 erw).
Mae mynediad i’w goedwigoedd am ddim, felly gall pawb elwa o goedwigoedd a choed. Mae enw Cymraeg yr Ymddiriedolaeth, Coed Cadw, yn derm hen Cymraeg, a ddefnyddir mewn cyfreithiau canoloesol i ddisgrifio coetir gwarchoededig neu gadwedig.