Cymraeg

Gall coeden fod yn breswylydd hynaf pentref, yn nodwedd leol sy’n agos at galon pawb, yn fan i gyfarfod, chwarae neu wneud ymarfer corff, neu’n destun balchder a llawenydd i arddwr. Beth bynnag ei stori, mae Coeden y Flwyddyn yn ceisio cael pobl i werthfawrogi pa mor hanfodol yw coed i’n tirweddau ac i’n bywydau.

Mae coed yn glanhau ein haer, yn oeri ein strydoedd, yn lleihau llifogydd, yn cynnal bywyd gwyllt ac yn hybu ein hiechyd a’n lles. Eleni mae cystadleuaeth Coeden y Flwyddyn yn dathlu’r coed sydd wedi mynd y filltir ychwanegol, gan oroesi nifer o heriau a dal i sefyll yn gryf er gwaetha’r anawsterau. Mae’r coed anghyffredin hyn yn eiconau yn eu cymunedau, yn goroesi er gwaethaf amodau tyfu eithafol, clefydau, mellt, a pheli canon hyd yn oed! Mae pob un yn hardd ac yn meddu ar stori hyd yn oed yn fwy rhyfeddol.

Cafodd ein panel o arbenigwyr y dasg anodd o greu rhestr fer yn cynnwys 10 coeden ysbrydoledig ar gyfer y gystadleuaeth eleni. Eich tro chi yw hi nawr i bleidleisio dros eich hoff goeden a’n helpu i goroni’r pencampwr yn Goeden y Flwyddyn 2026.

Gallwch fwrw eich pleidlais unrhyw bryd cyn 5pm, 29 Medi, a byddwn yn cyhoeddi enillydd eleni ym mis Hydref.

1. Coeden Gam, Newcastle, Swydd Down, Gogledd Iwerddon

Ffeithiau
  • Rhywogaeth: llwyfen lydanddail

  • Oed: 150+

  • Cylchfesur: anhysbys

  • Wedi goroesi: tywydd eithafol, datblygiad, clefyd

Mae’r goeden hon sy’n herio disgyrchiant yn eicon poblogaidd ar y promenâd canol ac mae’n benderfynol o oroesi. Mae’n tyfu bron yn llorweddol, ac mae ei siâp anhygoel yn dyst i’r amodau arfordirol garw y mae wedi’u gwrthsefyll ers dros ganrif. Fel llwyfen lydanddail frodorol, mae hefyd wedi gwrthsefyll clefyd llwyfen yr Iseldiroedd sydd wedi difrodi llawer o goed eraill o’r rhywogaeth hon, gan ei gwneud yn enghraifft brin yn ogystal â thrawiadol. Cafodd ei phlannu gyda llawer o goed eraill ar hyd y promenâd gwreiddiol, tua chanol y 19eg ganrif mae’n debyg, er mwyn diogelu’r brif stryd, fel rhan o dir y gwesty newydd efallai. Ond torrwyd llawer o’r coed hynny yn y 1980au er mwyn ailddatblygu’r promenâd ac erbyn hyn y Goeden Gam yw’r unig un sydd ar ôl o’r cyfnod hwnnw.

Pleidleisiwch dros y Goeden Gam

2. Ywen Crowhurst, Crowhurst, Surrey, Lloegr

Ffeithiau
  • Rhywogaeth: ywen

  • Oed: 4,000

  • Cylchfesur: 10.03 metr

  • Wedi goroesi: brwydr, ymyriadau dynol

Roedd llawer o’n coed ni heddiw o gwmpas yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr yn yr 17eg ganrif, ond dyma’r unig un y gwyddom ni amdani sy’n gallu honni ei bod wedi goroesi ar ôl cael ei tharo gan belen canon! Yn 1820, daeth pobl y pentref o hyd i belen canol y tu mewn i’r bonyn, ac roedden nhw’n meddwl bod y belen yn deillio o ergyd a oedd wedi’i hanelu at y fferm gyferbyn, a allai fod wedi bod yn darged i luoedd Cromwell. Cafodd y darganfyddiad ei wneud pan wnaeth y pentrefwyr wneud twll yn y bonyn er mwyn gwneud lle ar gyfer man cyfarfod yn y plwyf, yn cynnwys byrddau, cadeiriau, a drws. Daeth to’r ystafell hon i lawr yn ystod storm fawr yn 1845, ond goroesodd y goeden gadarn hon. Mae’n dal i sefyll ym mynwent eglwys San Siôr, ac mae’r drws pren yn gliw i orffennol rhyfeddol y goeden.

Pleidleisiwch dros Ywen Crowhurst

3. Derwen yr Awyren Fomio, ger Uppingham, Rutland, Lloegr

Ffeithiau
  • Rhywogaeth: derwen Lloegr

  • Oed: 180

  • Cylchfesur: anhysbys

  • Wedi goroesi: damwain awyren, datblygiad

O bell, mae’r goeden hon yn edrych yn debyg i lawer o rai eraill yng nghefn gwlad, ond mae’r dderwen 180 oed hon, ar fferm deuluol yn Rutland, yn gwybod ambell beth am oroesi. Os ewch chi yn agos ati, gallwch weld bod ganddi stori i’w dweud. Mae pant bach yn rhan uchaf y canopi a changhennau canol troellog, sydd wedi colli eu siâp ac yn amlwg wedi dioddef difrod. Yn ôl y sôn, cafodd y goeden ei tharo gan Awyren Fomio Lancaster yn 1945, a dorrodd ran uchaf y goeden i ffwrdd.

Daeth Derwen yr Awyren Fomio dros y gwrthdrawiad, ond ddegawdau yn ddiweddarach, bu bron i ni ei cholli pan oedd cwmni dŵr a oedd yn hawlio bod ganddo bwerau statudol yn bwriadu gosod pibellau yn y cae. Yn ffodus iawn, roedd gwrthwynebiadau gan bobl leol, gan gynnwys Andrew, y mae’r fferm wedi bod yn eiddo i’w deulu ers cenedlaethau, yn llwyddiannus. Bu’n rhaid i’r pibellau fynd o gwmpas y cae ac mae Derwen yr Awyren Fomio yma o hyd.

Pleidleisiwch dros Dderwen yr Awyren Fomio

4. Gefell Preston, Brighton, Sussex, Lloegr

Ffeithiau
  • Rhywogaeth: llwyfen Lloegr

  • Oed: 400

  • Cylchfesur: 6.38 metr

  • Wedi goroesi: clefyd

Mae’n debyg mai’r llwyfen Lloegr hynafol hon ym Mharc Preston yw’r un hynaf yn y byd. Mae wedi goroesi pedair canrif, ond oherwydd clefyd llwyfen yr Iseldiroedd, y 100 mlynedd diwethaf yw’r rhai anoddaf. Mae’r clefyd wedi dinistrio miliynau o goed ac wedi newid tirwedd Prydain am byth, gan ladd hyd at 40% o’n llwyfenni pan gyrhaeddodd am y tro cyntaf yn y 1920au cyn cael ei ddilyn gan straen marwol, mwy ffyrnig yn y chwedegau.

Mae’r goeden hon wedi goroesi o ganlyniad i reolaeth y cyngor. Yn hytrach na thorri’r goeden fel mesur ataliol, mae cyngor Brighton wedi defnyddio trapiau chwilod, tocio canghennau sydd wedi’u heintio ac agor ffosydd er mwyn atal y clefyd rhag lledaenu drwy systemau gwreiddiau.

Ar un adeg roedd llwyfen arall o’r un oed yn sefyll yn ymyl y goeden arbennig hon, ac er bod y cyngor wedi gweithio’n galed am ddegawdau i ofalu am y ddwy cafodd ail Efell Preston haint angheuol yn 2018. Cafodd ei thorri er mwyn diogelu’r llwyfen iach a’i throi’n waith celf sy’n sefyll yn ymyl ei hefell.

Pleidleisiwch dros Efell Preston

5. Ywen Culmstock, Culmstock, Dyfnaint, Lloegr

Ffeithiau
  • Rhywogaeth: ywen

  • Oed: 200+

  • Cylchfesur: anhysbys

  • Wedi goroesi: amodau eithafol

Un o’r lleoedd olaf y byddech chi’n disgwyl gweld coeden yw ar ben tŵr eglwys 20 metr o uchder, ond mae’r goeden hon wedi bod yn edrych i lawr ar bentref Culmstock ers o leiaf 200 mlynedd. Mae’n tyfu’n syth o’r gwaith cerrig rwbel fflint, nid mewn pridd, ac mae’n cael ei chynnal gan y morter calch a thywod, a’i dyfrio yn achlysurol yn ystod tywydd poeth. Mae’n rhyfeddol bod unrhyw beth yn gallu tyfu yn y fath amodau, ond mae’r goeden hon ar ben y tŵr wedi goroesi am ganrifoedd. Mae cyfeiriadau mewn cyfarwyddiadur lleol o 1857, mewn nofel gan R.D. Blackmore a gyhoeddwyd yn 1894 a cherddi o 1878 a 1900, i gyd yn dangos bod y goeden yn bodoli ers cyn cof y trigolion presennol.

Does neb yn gwybod sut y daeth yno, ond mae adroddiadau’n awgrymu y gallai hedyn fod wedi’i gymysgu’n ddamweiniol i mewn i’r morter yn ystod gwaith atgyweirio neu y gallai fod wedi cael ei gario gan aderyn. Trydedd theori yw ei fod wedi cael ei blannu er mwyn cael gwared ar ysbrydion aflan pan gafodd y to ei selio yn y 1300au, yn ystod seremoni dodi’r maen olaf.

Roedd sôn bod dyddiau’r goeden yn dod i ben yn 1904, a’i bod yn dangos arwyddion o ddiffyg maeth a changhennau’n marw. Mae’n amlwg ei bod wedi dod ati’i hun, ac mae arolygon modern yn dangos bod y goeden a’r tŵr mewn cyflwr iach.

Pleidleisiwch dros Ywen Culmstock

6. Bedwen Bollihope Burn, ger Stanhope, Swydd Durham, Lloegr

Ffeithiau
  • Rhywogaeth: bedwen lwyd

  • Oed: anhysbys

  • Cylchfesur: 2.2 metr

  • Wedi goroesi: amodau eithafol

Mae’r goeden hon sydd ar ochr clogwyn uwchben Bollihope Burn mewn man hyfryd yn Weardale yn Nhirwedd Genedlaethol Gogledd y Penwynion. Mae’n hawdd gweld pam y mae cerddwyr wrth eu bodd â’r golygfeydd hardd, cân yr adar a thincial y dŵr yn yr ardal hon. Ond ar un adeg roedd yn ardal ddiwydiannol, yn cynnwys nifer o chwareli, odynau calch, mwyngloddiau a rheilffordd nwyddau. Mae’r fedwen lwyd hynafol hon wedi sefyll drwy’r cyfan. Yn beryglus o agos at ymyl y diben, mae ei boncyff troellog, ei changhennau hir a’i gwreiddiau gwasgarog yn rhoi’r argraff bod y goeden bron fel pe bai wedi crafangu, fesul modfedd dros y blynyddoedd, er mwyn dal ei gafael ac achub ei hun rhag syrthio dros y dibyn serth.

Pleidleisiwch dros Fedwen Bollihope Burn

7. Derwen Llwybr Arfordir Cymru, Eglwys-fach, Ceredigion, Cymru

Ffeithiau
  • Rhywogaeth: derwen

  • Oed: anhysbys

  • Cylchfesur: anhysbys

  • Wedi goroesi: amodau eithafol

Mae’r dderwen anarferol hon sy’n tyfu ar ei phen ei hun yn nhirwedd canolbarth Cymru, i’w gweld ar warchodfa natur Ynys-hir. Fel gwarchodwr unig, mae’n edrych allan dros aber afon Dyfi, Mynyddoedd Cambria yn codi tua’r de a godre mynyddoedd de Eryri tua’r gogledd. Yn y llecyn agored hwn, mae wedi wynebu blynyddoedd o stormydd a sychder yn ogystal â phori, ac wedi cynnig cysgod a lloches i lawer o gerddwyr blinedig a lle da i gael picnic ar Lwybr Arfordir Cymru. Efallai fod tywydd garw Gorllewin Cymru wedi effeithio ar ei thwf, a’i gwneud yn anos i ni amcangyfrif ei hoed. Er mai coeden fach yw hi, mae’n goeden garismatig sydd wedi goroesi er gwaetha’r anawsterau.

Pleidleisiwch dros Dderwen Llwybr Arfordir Cymru

8. Derwen Mellten Earlstoun, Dalry, Dumfries a Galloway, yr Alban

Ffeithiau
  • Rhywogaeth: derwen

  • Oed: 475+

  • Cylchfesur: 3.00 metr

  • Wedi goroesi: mellten, torri coed

Er iddi gael ei tharo gan fellten flynyddoedd yn ôl, a cholli cangen fawr, mae’r dderwen hynafol hon yn dal ei thir. Mae craith drwchus i’w gweld yr holl ffordd o’r man lle torrwyd y gangen i ffwrdd i lawr y boncyff ac i’r ddaear. Mae’r boncyff yn tyfu ar ongl amlwg, ac efallai fod hynny’n helpu’r goeden i gadw ei chydbwysedd a goroesi ar ôl cael ei hollti yn ei hanner bron.

Yn y 1850au, cafodd y goeden hon ei chofnodi fel coeden 300 mlwydd oed, a’i nodi ar fapiau fel Derwen Fawr Earlstoun. Mae o fewn tafliad carreg i adfeilion Castell Earlstoun, ac ar un adeg roedd yn rhan o goetir hynafol helaeth, a oedd yn eiddo i Alexander Gordon o Earlstoun. Cafodd Alexander ei alltudio ar ôl Brwydr Pont Bothwell yn 1679 ond byddai’n dychwelyd i’w ystad yn aml, gan guddio yn y goeden hon pan fyddai lluoedd y llywodraeth yn agosáu. Enillodd ei ryddid yn y pen draw ond roedd ganddo ddyledion mawr, felly gwerthoedd ei goetir hynafol a thorrwyd y coed. Cafodd y goeden hon ei harbed, oherwydd ei hoedran efallai, neu oherwydd ei gwerth sentimental gan ei bod wedi helpu Alexander i beidio â chael ei ddal.

Pleidleisiwch dros Dderwen Mellten Earlstoun

9. Onnen Castell Balloch, Loch Lomond, Gorllewin Swydd Dunbarton, Yr Alban

Ffeithiau
  • Rhywogaeth: onnen

  • Oed: 250+

  • Cylchfesur: 4.3 metr

  • Wedi goroesi: mellt, tywydd eithafol, clefyd, nifer o ymwelwyr

Cafodd yr onnen hynafol hon, sydd â siâp unigryw, ei dewis o blith enwebiadau’r cyhoedd, ac mae wedi dangos gwydnwch anhygoel. Mae’n nodwedd amlwg iawn ar lawnt agored yr hen gastell ym Mharc Gwledig Castell Balloch, a chredir ei bod wedi goroesi mellten, yn ogystal â chorwynt yn 1968, nifer o stormydd a chlefyd (Chalara) coed ynn. Mae dros filiwn o ymwelwyr yn dod i’r parc bob blwyddyn, ac mae pobl yn aml yn cael picnic o dan y goeden ac yn tynnu lluniau ei gilydd ar y gwreiddiau mawr hefyd – gan gynnwys cefnogwyr Oasis yn ystod gig yn y parc yn 1996.

Mae pobl leol a sefydliadau sy’n angerddol ynglŷn â diogelu’r parc wedi helpu i roi amser i’r goeden hon dyfu i fod yn dŵr o gadernid, gwydnwch a rhyfeddod, tebyg i gerflun.

Pleidleisiwch dros Onnen Castell Balloch

10. Derwen Castell Donnington, Newbury, Berkshire, Lloegr

Ffeithiau
  • Rhywogaeth: derwen Lloegr

  • Oed: 400+

  • Cylchfesur: 5.8 metr

  • Wedi goroesi: rhyfel cartref

Dewiswyd y dderwen hynafol anferth hon o blith enwebiadau’r cyhoedd, a byddai’n goeden ifanc yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr. Mae’n sefyll tua hyd cae pêl-droed oddi wrth furiau Castell Donnington, ond yn rhyfeddol iawn llwyddodd i oroesi saethu di-baid, a hynny’n ddianaf, pan oedd y castell dan warchae. Ym mis Gorffennaf 1644 dechreuodd 20 mis o ymosodiadau llethol, gan gynnwys 12 diwrnod o saethu pelenni canon yn ddi-dor o un ochr i’r bryn a ddymchwelodd dri thŵr a rhwygo’r muriau. Dilynwyd hyn gan 19 diwrnod o saethu o ochr arall y bryn, â thros 1,000 o ergydion yn cael eu tanio. Nid oedd arfau’n gallu anelu’n gywir iawn bryd hynny, ac roedd y dderwen yn sicr o fewn cyrraedd yr ymosodiadau, felly mae’n rhyfeddol ei bod wedi goroesi’r rhyfel – a’r tair canrif ar ôl hynny – i oruchwylio’r coed a welwn ni heddiw.

Pleidleisiwch dros Dderwen Castell Donnington

Diolch i chwaraewyr y Loteri Cod Post am gefnogi Coeden y Flwyddyn 2026.