Edrych i mewn: Cymraeg

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn ystyried opsiynau i helpu i wella tagfeydd a mynediad i ardal maes awyr Caerdydd. Yn 2018, fe wnaethoch ymuno â ni i ofyn i'r cyngor ailfeddwl am y cynlluniau oherwydd eu heffaith sylweddol ar goetir hynafol. Gyda chynlluniau newydd ar y bwrdd, mae angen i ni godi llais eto i amddiffyn ein coedwigoedd hynafol.

Mae ymgynghoriad newydd yn gofyn am barn y cyhoedd ar y cynigion. Mae’r ddau opsiwn gwreiddiol, a elwid gynt yn Aliniadau’r Dwyrain a’r Gorllewin, yn bygwth chwe choed hynafol yn uniongyrchol. Bellach cynigir dau opsiwn arall sydd hefyd yn effeithio ar nifer o goetiroedd hynafol.

Mewn cyfnod o argyfwng hinsawdd ac ecolegol, mae angen i ni helpu ein coedwigoedd a'n coed hynafol i ffynnu, nid eu tarfu ar gyfer cynlluniau ffyrdd newydd. Ni all niweidio'r cynefinoedd hynafol hyn fod yr unig opsiwn. Rhaid i'r cyngor ddod o hyd i ffordd arall.

Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 23 Rhagfyr 2020. Byddwn yn rhoi gwybod ichi pan glywn y canlyniad.