Edrych i mewn: Cymraeg

Mae gan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) newydd yng Nghymru botensial enfawr. Trwy wella cefnogaeth i gynyddu gorchudd coed a gofal, byddai cynllun wedi'i gyflawni’n dda yn helpu i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur ac yn helpu ein ffermwyr, ein cymunedau, ein diwylliant a'r amgylchedd i ffynnu. Rydyn ni wedi creu Ein Deg Cais am Goed ar Ffermydd a fyddai'n rhoi hwb i effaith bositif y cynllun i bobl a thirwedd Cymru. Ymunwch â ni i ofyn i'r Senedd wireddu ein Deg Cais am Goed.

Cynllun newydd a dull newydd o weithredu

Ar hyn o bryd, mae datblygu SFS newydd yn gyfle gwych i gefnogi ein busnesau fferm gan:

  • leihau costau hirdymor fferm
  • cefnogi ffermwyr yn ariannol i reoli tir mewn ffyrdd gwahanol
  • dibynnu llai ar adnoddau allanol costus neu fewnforion fel porthiant anifeiliaid a gwrtaith.

Mae rhai o'r mewnforion hyn yn cyfrannu at ddatgoedwigo a niwed amgylcheddol sy'n effeithio ar ddiwylliant a chymunedau eraill. Dylai'r cynllun newydd gefnogi ffermwyr i gael adnoddau sydd mor lleol â phosibl, gan ein helpu i ddod yn 'Gymru sy'n Gyfrifol ar lefel Fyd-eang'.

Mae gan goed ran hanfodol i'w chwarae wrth gyflawni'r nodau hyn. Amcangyfrifir bod 2.9 miliwn tunnell o bridd yn cael ei golli o gaeau yng Nghymru a Lloegr bob blwyddyn, tra amcangyfrifir bod cost flynyddol diraddio pridd yn £1.2bn. Mae coed yn helpu i leihau lefel y pridd a gollir trwy ei ddiogelu’n well rhag gwres eithafol ac erydiad a glaw cynyddol drwm. Maen nhw hefyd yn lleihau llifogydd, yn dal dŵr, yn darparu cysgod a lloches hanfodol i dda byw, yn diogelu a gwella ffrwythlondeb pridd a storfeydd carbon a llawer mwy.

Mae angen i ni weithredu dros fyd natur

Bydd cynllun newydd effeithiol yn cynyddu gorchudd coed yn y llefydd iawn, yn y ffordd iawn, am yr holl resymau iawn. O gael ei ariannu a'i weithredu'n briodol, gall y cynllun chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o ategu’r broses cynhyrchu bwyd, drwy gynyddu coed ar ffermydd drwy systemau amaeth-goedwigaeth a gwrychoedd ac ymylon. Bydd y coed yma hefyd o fudd i fusnesau fferm a'n cymunedau, gan ein diogelu ni i gyd yn well rhag y tarfu cynyddol yn sgil newid hinsawdd.

Mae diogelu coed a choedwigoedd presennol yr un mor bwysig. Mae ychydig dros 99% o goedydd Cymru yn uwch na lefelau llygredd nitrogen critigol. Mae hyn yn cael effaith niweidiol ar blanhigion coetir a bywyd gwyllt. Mae'n rhaid i'r cynllun newydd helpu perchnogion tir i wella safon a chyflwr.

17%

rhywogaethau yng Nghymru dan fygythiad o ddiflannu

78%

gwrychoedd Cymru mewn 'cyflwr anffafriol'

24%

gostyngiad mewn gloÿnnod byw yng Nghymru 1988-2019

Ein Deg Cais am Goed

Bydd ein Deg Cais am Goed yn helpu Cymru gyfan i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae gwell cefnogaeth i goed yn hanfodol er mwyn dadwneud dirywiad natur. Mae ein system fwyd hanfodol yn dibynnu arno. Rydyn ni am i’r SFS:

  1. ddarparu cynllun a ariennir ar frys sy'n helpu i leihau a dadwneud effeithiau'r argyfyngau hinsawdd a natur.
  2. sicrhau bod pob fferm yn cyrraedd yr un safonau cyfreithiol sylfaenol o ran diogelu'r amgylchedd.
  3. diogelu a gwella'r coed, y gwrychoedd a'r coetir sydd eisoes yn bodoli.
  4. helpu ffermydd i gyflawni 10% o orchudd coed a gwrychoedd.
  5. helpu ffermwyr i greu gwrychoedd tra addas.
  6. ymateb i'r alwad gan y Senedd i gefnogi mwy o amaeth-goedwigaeth.
  7. datblygu meincnod annibynnol bywyd gwyllt fferm.
  8. ariannu gwaith traws-fferm ar gyfer gwella'r dirwedd gyfan.
  9. cynyddu porfa lle mae coed yn tyfu ar fryniau agored.
  10. darparu opsiynau i sicrhau mwy o gamau hinsawdd sy’n natur bositif gyda choed.

Bydd treialon yn dechrau'r haf hwn cyn i'r cynllun gael ei gyflwyno maes o law a gallwch helpu i ddylanwadu arnyn nhw. Ychwanegwch eich llais at yr alwad i'r SFS gydnabod rôl hanfodol coed wrth greu dyfodol gwell i Gymru. Defnyddiwch ein dull syml i gysylltu â'ch Aelodau o'r Senedd heddiw.

Landscape view of green fields lined with trees on a misty day

Galw am fwy o goed i fynd i’r afael ag argyfyngau hinsawdd a natur

Gofynnwch i'ch Aelodau o'r Senedd bwyso am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy i gynnwys ein Deg Cais am Goed.

Cysylltwch â'ch AS nawr