
Edrych i mewn: Cymraeg
Fy Nghoeden, Ein Coedwig
Bydd pob cartref yng Nghymru yn cael cynnig coeden, am ddim, i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.




Fel rhan o fenter Llywodraeth Cymru a Choed Cadw, Fy Nghoeden, Ein Coedwig, bydd pob cartref yng Nghymru yn cael cynnig coeden am ddim.
Bydd yr holl goed a blennir hefyd yn cyfrannu at y Goedwig Genedlaethol i Gymru.
Rydym eisoes wedi rhoi 5,000 o goed i ffwrdd yn ein rhodd mis Mawrth, a bydd 200,000 yn fwy o goed ar gael ym mis Tachwedd 2022. Byddwch yn gallu casglu coed o hybiau ledled Cymru felly edrychwch yn ôl yma i gael gwybod ble i gael eich un chi.
Cymerwch ran o fis Tachwedd 2022
Casglwch eich coeden eich hun
Hybiau i fod ar agor ym mis Tachwedd 2022 felly cadwch lygad ar ein sianeli cymdeithasol a'n tudalen we am ddiweddariadau ar y rheini.
Bydd yr holl goed yn rhywogaethau llydanddail brodorol a fydd yn tyfu'n goed bach a chanolig sy'n addas ar gyfer gerddi a mannau llai. Byddant yn dod gyda chyfarwyddiadau plannu fel y gallwch chi roi'r cychwyn gorau iddynt. Wrth iddynt aeddfedu byddant yn cloi carbon, yn brwydro yn erbyn effeithiau newid hinsawdd ac yn cefnogi bywyd gwyllt.
Ewch am coeden drwy'r post neu gadewch i ni blannu un i chi
Er mwyn i bawb yng Nghymru gael y cyfle i gyfrannu at Goedwig Genedlaethol Cymru byddwn hefyd yn cynnig y cyfle i bostio coeden i’ch cartref. Neu fe fyddwch chi'n gallu gofyn i ni blannu un ar eich rhan os nad oes gennych chi le eich hun.
I gael rhagor o wybodaeth am y rhoddion gweler ein telerau ac amodau neu cysylltwch â ni.
Drwy e-bost: walestreegiveaway@woodlandtrust.org.uk
Ar y ffôn: 0330 333 3300

Sut i blannu a gofalu am eich coed
Unwaith y byddwch wedi cael eich coeden, byddwch am roi'r dechrau gorau iddi gyda'n cynghorion plannu a gofalu gorau.
Darganfod mwy