Edrych i mewn: Cymraeg

Hen gastanwydden Pont-y-pŵl, Pont-y-pŵl

Mae'r gastanwydden bêr anhygoel hon, sydd wedi'i lleoli ym Mharc Pont-y-pŵl, tua 400 mlwydd oed. Mae yna lawer o goed castan eraill yn y parc ond o safbwynt ecolegol yr un hon yw'r mwyaf diddorol gan ei fod yn geubren ac fe allwch gerdded y tu mewn iddo. Dros y canrifoedd byddai llawer o blant wedi chwarae o amgylch y goeden a'i defnyddio'n arbennig ar gyfer chwarae cuddio, hyd yn oed pan oedd pawb yn gwybod ble roedden nhw! Mae'r coed hynafol hyn ac yn enwedig y goeden hon yn ein hatgoffa o'n treftadaeth. Roedd y parc yn eiddo i deulu Hanbury hyd nes iddo gael ei roi i bobl Pont-y-pŵl yn gynnar yn yr 20fed ganrif.

Palalwyfen Heol yr Eglwys Gadeiriol, Caerdydd

Mae Ffordd yr Eglwys Gadeiriol yn un o’r ffyrdd prysuraf i ganol Caerdydd. Mae yna goed ar hyd y ffordd, ond mae'r goeden arbennig hon yn sefyll allan fel enghraifft enfawr gyda choron ogoneddus o enfawr. Bob dydd, mae'n pwmpio ocsigen i'r ardal fel y gall trigolion y ddinas anadlu'n haws. Mae ei ganopi aruthrol yn llawenydd pur, ac mae'n codi’r ysbryd i edrych i fyny iddo ar ddyddiau pan fyddwch chi dan straen. Mae'r bôn yn enfawr - yn rhy fawr o lawer i un person ei gofleidio. Mae'n wirioneddol hyrwyddwr ymhlith coed stryd.

Mae Coed Cadw wrth ei fodd bod Cymdeithas Ddinesig Caerdydd wedi enwebu'r goeden hon; mae coed gwych ar strydoedd Caerdydd sy'n haeddu cael eu dathlu.

Derwen Cefn Mabli, Llanfihangel-y-fedw, i'r gorllewin o Gasnewydd

Derwen hynafol sy’n sefyll ym maes parcio'r Cefn Mably Arms, Llanfihangel-y-fedw. Mae'r adeilad yn dyddio o dua 1550; tŷ fferm oedd e’n wreiddiol. Fe ddaeth yn dafarn yng nghanol y 19eg ganrif. Mae'n debyg fod y dderwen hon yn un o'r rhai hynaf yng Nghymru. Dywed rhai wrthi gael ei phlannu yn y flwyddyn ar ôl i'r adeilad gael ei gwblhau, a fyddai'n golygu ei bod hi dros 460 oed. Mae eraill wedi amcangyfrif bod ei hoedran yn nes at 800 mlwydd oed. Yn barnu o faint ei boncyff, mae'r ail ffigur yn fwy tebygol o fod yn gywir.

Poplys du Y Drenewydd, Y Drenewydd

Mae'r goeden hon yn nodwedd amlwg o ganol tref y Drenewydd. Mae'r poplys du yn un o rywogaethau brodorol prinnaf a mwyaf mewn perygl yng nghefn gwlad, gyda llai na 3,000 ohonynt ym Mhrydain. Nid yn aml y gellir dweud bod coeden wedi symud o’r naill ochr i afon i’r llall. Yn dilyn llifogydd mawr ym 1960 a 1964, newidiwyd cwrs yr afon, felly mae'r goeden oedd yn wreiddiol ar lan ogleddol yr afon bellach ar y lan ddeheuol. Yn ddiweddarach, ar ôl i’r cyngor tre leisio barn, fe oroesodd gynlluniau i gwympo a tharmacio'r safle. Yn 2016 fe gymerodd y cyngor tref gamau i ddiogelu'r llinell genynnau trwy dyfu toriadau gyda chydweithrediad canolfan arddio leol – hanes o oroesi.

Wyddoch chi?

Mae'n briodol y bydd y glasbren a ddaeth yn wreiddiol o Siapan yn dychwelyd ei phlant yn ôl yno, gan gwblhau'r cylch.

Ginkgo Doc Penfro, Doc Penfro

Ym 1877, adeiladwyd y llong ryfel Siapaneaidd Hiei yn Noc Penfro. Roedd yr Is-gapten Togo Heihachiro yn astudio yn y DU ac arhosodd yn Nhy Prif Adeiladwr Llongau pan oedd yr Hiei yn cael ei gomisiynnu. Fe roddodd glasbren Japaneaidd Gingko i'w blannu yng ngardd y tŷ. Yn ddiweddarach daeth Togo yn Lyngesydd ac fe drechodd lynges Rwsia ym 1905. Mae'n cael ei barchu yn Siapan fel Nelson y Dwyrain. Mae eginblanhigion o'r Gingko hwn, sy’n 142 blwydd oed, yn cael eu tyfu ym meithrinfa Gardd Fotaneg Cymru i'w cludo yn ôl i Japan i lawer o ddinasoedd sy'n gysylltiedig â’r Llyngesydd Togo.

Palalwyfen Coed Prisk, Coed Prisk, Dyffryn Gwy, Sir Fynwy

Coedlan hynafol arbennig iawn yw Coed Prisk, sydd yng ngofal Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent ac wedi'i leoli ar lethr serth uwchben Afon Gwy. Nodwedd drawiadol yw'r llwyth o fwsoglau, llysiau'r afu a rhedyn sy'n gorchuddio’r clogfeini, bonion coed a boncyffion wedi cwympo. Yn y goedlan hon y saif palalwyfen godidog gyda choron fawr sy’n cynhyrchu llawer o flodau i wenyn. Dywedir bod coed palalwyf yn cael ei ffafrio yn Nyffryn Gwy gan fod ffatri gwneud rhaffau wrth ymyl yr afon. Dywedir bod chwilen brin iawn, naill ai Ernoporus Tiliae neu Ernoporus Caucasicus sydd mor brin fel nad yw i’w weld yn unlle ond Nyffryn Gwy, yn ffafrio pren pydredig coed palalwyf yn yr ardal hon.

Ceiriosen Stryd y Rheilffordd, Y Sblot, Caerdydd

Mae’r Sblot yn ardal drefol yng Nghaerdydd heb fawr o le gwyrdd, felly, mewn ymdrech i ddod â phobl leol ynghyd a dathlu'r goeden werthfawr a hardd hon, trefnodd grŵp bach o drigolion Barti Coed. Fe wnaethant ddosbarthu gwahoddiadau amlieithog, gosod arwyddion, pobi cacennau,gosod bunting, a chasglu sbwriel i sicrhau bod popeth yn barod ar gyfer y parti. Nid oeddent yn siŵr a fyddai unrhyw un yn dod ond ar y diwrnod fe ddaeth mwy a mwy o bobl, gan ddod â chacen i'w rhannu a phlanhigion i'w chyfnewid, cylchu hwla yn y stryd a dod i adnabod ei gilydd er gwaethaf y glaw trwm! Roedd yr awyrgylch yn wych ac mae pawb yn ysu i drefnu partïon eraill i ddathlu’r goeden yn y dyfodol.