
Gofynnwch i ymgeiswyr y Senedd flaenoriaethu coed
Mae coedwigoedd a choed yn allweddol i fynd i’r afael ag argyfyngau natur a hinsawdd
Gweithredwch nawrEdrych i mewn: Cymraeg
Mae’r etholiadau yn gyfle i flaenoriaethu coedwigoedd a choed i greu dyfodol mwy disglair
Ar 6 Mai 2021, bydd miliynau o bleidleiswyr Cymru, gan gynnwys pobl ifanc 16 – 17 oed am y tro cyntaf, yn penderfynu pwy fydd yn Senedd nesaf Cymru.
Bydd gan eich ymgeiswyr y pwer a’r dylanwad i osod Cymru ar gwrs cryf i fynd i'r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur ar frys.
Mae’r etholiadau hyn yn foment dyngedfennol wrth benderfynu arweinyddiaeth wleidyddol a fydd â’r pwer i weithredu ar yr argyfyngau hyn. Mae plannu ac amddiffyn coedwigoedd a choed yn allweddol. Mae ein maniffesto yn nodi sut a pham y mae’n rhaid i gynrychiolwyr y dyfodol wneud hyn yn flaenoriaeth i hybu’r adferiad gwyrdd sydd ei angen ar frys ar Gymru.
Gofynnwch i'ch ymgeiswyr Senedd Cymru gynnwys coedwigoedd a choed yn eu haddewidion maniffesto cyn i chi bleidleisio ar 6 Mai.
Mae ein templed yn ei gwneud hi’n hawdd. Bydd personoli’ch e-bost yn ei wneud yn fwy pwerus felly cymerwch eiliad i wneud hyn.
Mae coedwigoedd a choed yn allweddol i fynd i’r afael ag argyfyngau natur a hinsawdd
Gweithredwch nawr