Edrych i mewn: Cymraeg
Grantiau Cyfoeth Naturiol Cymru yn helpu i gadw cefn gwlad Cymru yn hygyrch i bawb yn ystod Covid-19

Communications & Engagement Manager - Wales
Derbyniodd Coed Cadw (y Woodland Trust yng Nghymru) grant gan gronfa Dyrannu Strategol CNC, gyda’r prif bwrpas o gefnogi'r sector i addasu i amgylchedd newydd Covid-19, a pharhau i wneud cefn gwlad yn ddiogel ac yn hygyrch i ymwelwyr.
Mae'r gronfa Ddyrannu Strategol yn tynnu sylw at uchelgais Cyfoeth Naturiol Cymru i fynd i'r afael gyda newid yn yr hinsawdd a cholli natur wrth galon cynllun adferiad pandemig Cymru.
Yn ystod hydref 2020, elwodd Coed Cadw o'r gronfa, gan dderbyn grant o £267,762.
Defnyddiwyd hwn i deneuo coed ynn a effeithiwyd yn wael gan Clefyd yr Ynn yn Coed Cadnant – coetir trefol sy'n darparu adnodd hamdden gwerthfawr i gymunedau Peblig a Cadnant yng Nghaernarfon. Tynnwyd pren gan ddefnyddio technegau logio ceffylau traddodiadol, gan wella diogelwch tymor hir y goedwig i ymwelwyr, ynghyd a chreu bylchau canopi i'r rhywogaethau brodorol eraill adfywio.
Gwnaed gwaith hefyd yn Common Wood, planhigfa ar safle coetir hynafol ar benrhyn Gwyr. Roedd yr ardal yn dioddef o fynediad gwael goruchafiaeth mieri, a hanes o blannu gyda choed anfrodorol. O dan oruchwyliaeth ecolegol, gwnaeth Coed Cadw welliannau i alluogi gwell mynediad, gwella'r cynefin a chynorthwyo adfer coetir hynafol yn y dyfodol.
Kylie Jones Mattock, rheolwr ystad yn esbonio:
“Mae'r galw am fynediad i gefn gwlad wedi bod yn tyfu'n gyson, ond yn 2020 gwelwyd cynnydd syfrdanol yn nifer ein hymwelwyr a'n coedwigoedd, gyda’r chyfnod cloi yn annog pobl i geisio ffeindio cysur ac ymarfer corff yn y mannau gwyrdd ar stepen eu drws.
"Mae Coed Cadw yn rheoli dros 120 o goedwigoedd yng Nghymru sy'n rhad ac am ddim i ymwelwyr eu mwynhau, ac roeddem yn falch o allu Cadw ein safleoedd ar agor trwy gydol y pandemig- ac yn galonogol y sylwadau niferus gan ymwelwyr a oedd yn eu gweld yn achubiaeth yn y flwyddyn anodd hon. Mae’r grant Dyrannu Strategol wedi ein galluogi i gadw fyny gyda'r gwaith diogelwch, mynediad a chadwraeth hanfodol y mae'n rhaid gwneud y tu ol i'r llenni i gadw safleoedd yn ddiogel ac yn groesawgar, ar gyfer bywyd gwyllt a phobl, ar adeg pan mae ein hymdrechion codi arian wedi'u cyfyngu'n ddifrifol.”
Nodiadau
Ar gyfer ymholiadau y cyfryngau cysylltwch gyda: Jane Cook hello@talktojanepr.co.uk / 07791998381.
Coed Cadw yw'r elusen cadwraeth coetir fwyaf yn y DU. Mae am weld y DU yn llawn coedwigoedd a choed brodorol ar gyfer pobl a bywyd gwyllt. Mae gan yr ymddiriedolaeth dri nod allweddol:
- amddiffyn coetir hynafol sy'n brin, unigryw ac na ellir ei adfer,
- adfer coetir hynafol sydd wedi’i ddifrodi, gan ddod a darnau gwerthfawr o'n hanes Naturiol yn ol yn fyw,
- plannu coed a coedwigoedd brodorol gyda'r nod o greu tirweddau gwydn I bobl a bywyd gwyllt.
Wedi'i sefydlu ym 1972, erbyn hyn mae gan y Woodland Trust dros 1,200 o safleoedd dan ei gofal sy'n cwmpasu oddeutu 29,000 hectar. Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gyda chyfanswm arwynebedd o 2,897 hectar (7,155 erw).
Mae mynediad i'w goedwig am ddim, felly gall pawb elwa o goedwigoedd a choed.
Mae'r enw Cymraeg Coed Cadw yn hen derm Cymraeg, a ddefnyddir mewn deddfau canoloesol i ddisgrifio coetir gwarchodedig neu gadwedig.