Mewn datganiad ar y cyd a gyhoeddir heddiw mae’r grŵp gweithredu lleol “Achubwch goetir Dinas Powys ac amddiffyn cartrefi rhag llifogydd” a Coed Cadw (Woodland Trust), elusen cadwraeth coetir fwyaf y DU, yn mynegi eu pryder bod Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dal i gynllunio i ddinistrio ardal o goetir hynafol na ellir ei ail-greu, sy'n rhan o'i safle Cwm George a Casehill Woods ger Dinas Powys, a hynny fel rhan o Gynllun Llifogydd Afon Tregatwg.

Fe fyddai'r cynlluniau’n golygu adeiladu argae wedi'i orchuddio â glaswellt, ar draws dyffryn yr afon, y gellid ei gau yn ystod cyfnodau o law trwm i greu cronfa ddŵr dros dro i fyny'r afon o Ddinas Powys1. Ond fe fyddai hyn yn union wrth ymyl coetir hynafol na ellir ailgreu, felly fe fyddai'n rhaid cwympo ardal o hwn, ac fe fyddai mwy o goetir yn cael ei ddifrodi gan lifogydd cyfnodol pan fyddai'r gronfa ddŵr yn cael ei defnyddio.

Grŵp Gweithredu Leol

Rai misoedd yn ôl, trefnodd y grŵp gweithredu lleol, oedd newydd ei sefydlu, “Achubwch goetir Dinas Powys ac amddiffyn cartrefi rhag llifogydd”, wrthdystiad yn y goedwig a fynychwyd gan ryw dri chant a hanner o bobl, gan gynnwys trigolion lleol, Charlotte Church, Julie Morgan AS ac Anthony Slaughter, arweinydd Plaid Werdd Cymru. Mae hyn yn awgrymu nad oes gan yr argae arfaethedig gefnogaeth gyhoeddus, hyd oddi wrth y rhai a allai, o bosibl, elw ohono fe.

Mae'r grŵp gweithredu lleol bellach wedi cytuno i gydweithredu gyda Coed Cadw i wrthwynebu effeithiau unrhyw opsiwn a fyddai'n dinistrio coetir hynafol a chaffaeliad cyhoeddus poblogaidd Casehill a Cwm George Woods. Mae'r datganiad ar y cyd yma

Dywed Peter Smith, llefarydd ar ran y grŵp: “Fel pobl leol, rydym yn siomedig gan y diffyg gwybodaeth sydd ar gael oddi wrth CNC am gynllun atal llifogydd Afon Tregatwg. Rydyn ni’n teimlo fod y broses wedi para’n rhy hir, gyda methiannau i gwrdd â therfynau amser oedd wedi cael eu cyhoeddi a diffyg tryloywder cyffredinol yn y broses o wneud penderfyniadau. Ychydig o ymgynghori rhagweithiol sydd wedi digwydd gyda rhanddeiliaid a ni chafwyd atebion clir i gwestiynau a godwyd. Mae hyn wedi arwain at ansicrwydd am y dystiolaeth ar gyfer y cynllun. At hynny, ymddengys na roddwyd llawer o ystyriaeth i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol wrth ystyried effaith lawn y cynigion a gyhoeddwyd. Rydym wedi amlinellu ein pryderon trwy ddatganiad o bryderon ar y cyd yr ydym wedi cytuno gyda Coed Cadw.”

Dywed Natalie Buttriss, Cyfarwyddwr Cymru Coed Cadw: “Rydym wedi bod yn barod iawn i ymgysylltu â CNC a thrafod opsiynau naturiol, mwy cynaliadwy a allai leihau perygl llifogydd i eiddo lleol. Ond ar y pwynt hwn, nid ydym wedi ein hargyhoeddi gan y data a'r dystiolaeth y mae CNC wedi'u darparu, a chredwn na ddylid dinistrio coetir hynafol. Felly rydyn ni'n galw ar CNC i weithredu dulliau o reoli llifogydd yn naturiol nawr, fel plannu coed mewn rhannau o ddalgylch Afon Tregatwg lle mae mapiau'r sefydliad ei hun yn awgrymu y gallen nhw leihau perygl llifogydd, ac yna gwerthuso a oes angen mesurau ychwanegol i amddiffyn y pentref rhag llifogydd.”

Mae Natalie Buttriss yn parhau: “Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ystyried y costau a’r buddion amgylcheddol llawn wrth wneud penderfyniadau, gan gynnwys carbon, bioamrywiaeth a thirwedd. Yn fwy na hynny, fel y mae polisïau cynllunio Llywodraeth Cymru ei hun yn cydnabod3, nid oes modd ailgreu coetir hynafol. Rydym yn hynod bryderus nad yw'n ymddangos bod hyn wedi digwydd yn yr achos yma. Mae'r adolygiad a gynhaliwyd gan ein hymgynghorwyr annibynnol, Wallingford HydroSolutions, wedi codi ystod eang o faterion y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw cyn i'r prosiect symud ymhellach."

I grynhoi, mae Coed Cadw a grŵp Achubwch goetir Dinas Pows ac amddiffyn cartrefi rhag llifogydd yn galw ar Adnoddau Naturiol Cymru i:

  • cynnal ymgynghoriad mwy cynhwysfawr yn y gymuned leol, gan gynnwys y grŵp ymgyrchu ac Ymddiriedolaeth y Coetir
  • gweithredu mesurau rheoli llifogydd naturiol gan gynnwys plannu coed yn y dalgylch ac yna ail-werthuso pa fesurau peirianneg ychwanegol, os o gwbl, a allai fod yn angenrheidiol i gyflawni'r amddiffyniad sy'n ofynnol
  • casglu data hydrometreg go iawn i lywio'r broses o wneud penderfyniadau yn hytrach na dibynnu'n llwyr ar fodelau i lywio'r achos busnes
  • adolygu'r ffactorau graddio a ddefnyddir wrth fodelu ar gyfer yr achos busnes
  • cyhoeddi'r holl dystiolaeth a ddefnyddir i lywio'r achos busnes, ac os na ellir ei gyhoeddi, ni ddylid ei defnyddio fel tystiolaeth i gefnogi'r achos busnes
  • adolygu'r rhestr hir o opsiynau yng nghyd-destun polisïau llywodraeth Cymru, gan ystyried llesiant cenedlaethau'r dyfodol, gan ystyried gwerthusiad llawn o gostau a buddion adeiladu ond cynnal a chadw tymor hir.
  • cynnal Asesiad Effaith Amgylcheddol llawer mwy manwl o unrhyw gynigion a gyflwynir
  • gwerthuso effaith negyddol yr ardal storio llifogydd arfaethedig ar swyddogaeth elusennol Coed Cadw

Nodiadau

1. Wrth gyfeirnod grid oddeutu ST 152 720
2. Nododd Wallingford HydroSolutions nifer o gamau y gallai CNC eu cymryd i wneud ei achos yn fwy cadarn, gan gynnwys:

  • Y dylai CNC gasglu data hydrometrig ychwanegol ar gyfer y dalgylch, o ystyried ei natur gymhleth, er mwyn cael dealltwriaeth lawnach ohono.
  • Y dylid cynnal dadansoddiad sensitifrwydd ychwanegol ar gymhareb cost a budd yr opsiwn a ffefrir, hynny yw, yr ardal storio llifogydd arfaethedig, i ddeall yn well yr ansicrwydd sy'n ymwneud â'r hydroleg, ffactorau graddio a thybiaethau newid yn yr hinsawdd.
  • Dylid addasu achos busnes CNC ar gyfer y prosiect i ymgorffori cost cynnal a chadw'r Ardal Storio Llifogydd arfaethedig. Gan y byddai gan hwn gapasiti o dros 10,000 metr ciwbig ac y byddai'n cael ei ystyried yn gronfa fawr o dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975, gallai'r costau hyn fod yn sylweddol a gallant newid cyfrifiadau.

3. Mae adran 6.4.26 o Bolisi Cynllunio Llywodraeth Cymru 10, a gyhoeddwyd ddiwedd y llynedd, yn nodi: “Mae coetiroedd hynafol a choetiroedd lled-naturiol a choed hynafol, aeddfed a threftadaeth unigol yn adnoddau naturiol na ellir mo’u hadfer, ac maent yn werthfawr o ran tirwedd, bioamrywiaeth a diwylliant. Dylai coed a choetiroedd o’r fath gael eu gwarchod rhag datblygiad a fyddai’n arwain at eu colli neu eu dirywio oni bai bod buddiannau cyhoeddus arwyddocaol a chlir o wneud hynny; dylai’r mesurau gwarchod hyn atal gweithrediadau a allai achosi difrod a cholled ddiangen. Yn achos safle sydd wedi’i gofnodi ar y Rhestr Coetiroedd Hynafol, dylai awdurdodau ystyried barn CNC. Dylai awdurdodau cynllunio roi sylw i’r Rhestr Coed Hynafol hefyd."

Nodiadau i olygyddion

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, cysylltwch â Rory Francis (Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus ac Ymgyrchoedd Cymru): 0343 770 5738 | 07539 322678 roryfrancis@woodlandtrust.org.uk.

Neu Swyddfa'r Wasg Woodland Trust ar 01476 581121, ebost media@woodlandtrust.org.uk.

Woodland Trust (Coed Cadw) yw'r elusen cadwraeth coetir fwyaf yn y DU. Mae ganddo dros 500,000 o gefnogwyr. Mae am weld DU yn llawn coedwigoedd a choed brodorol ar gyfer pobl a bywyd gwyllt. Mae gan yr Ymddiriedolaeth dri nod allweddol: i) amddiffyn coetir hynafol sy'n brin, unigryw ac na ellir ei adfer, ii) adfer coetir hynafol sydd wedi'i ddifrodi, gan ddod â darnau gwerthfawr o'n hanes naturiol yn ôl yn fyw, iii) plannu coed a choedwigoedd brodorol gyda'r nod o greu tirweddau gwydn i bobl a bywyd gwyllt.

Wedi'i sefydlu ym 1972, erbyn hyn mae gan Coed Cadw dros 1,200 o safleoedd dan ei gofal sy'n cwmpasu oddeutu 29,000 hectar. Mae'r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gyda chyfanswm arwynebedd o 2,897 hectar (7,155 erw). Mae mynediad i'w goedwig yn rhad ac am ddim fel y gall pawb elwa o goedwigoedd a choed. Mae enw Cymraeg yr Ymddiriedolaeth, “Coed Cadw”, yn hen derm Cymraeg, a ddefnyddir mewn deddfau canoloesol i ddisgrifio coetir gwarchodedig neu gadwedig.