Yn ôl ym mis Mehefin eleni lansiodd Coed Cadw (Woodland Trust) gynlluniau uchelgeisiol i greu 165 o erwau o goetir brodorol newydd ar dir uwchben Parc Gwledig y Gnoll yng Nghastell-nedd. Bum mis yn ddiweddarach, yn dilyn apêl codi arian lwyddiannus, plannwyd y coed cyntaf ar y safle ddydd Sadwrn 30 Tachwedd.

Rhoddwyd y tir yr oedd ei angen ar gyfer y coetir newydd ar werth mewn dau barsel, sef Brynau a Phreswylfa. Er bod Coed Cadw bellach wedi cwblhau pryniant cyntaf, mae'r ail yn dal yn y broses gyfreithiol.

Esbonia Chris Matts, sydd bellach yn rheoli’r safle ar gyfer Coed Cadw: “Rydyn ni wedi cael ymateb gwych i’n hapêl codi arian. Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a'i cefnogodd. Fe all y prosiect symud ymlaen bellach. Galwodd Coed Cadw ar bawb ledled Gwledydd Prydain i blannu coeden ar 30 Tachwedd fel rhan o'n hymgyrch #IrGadDrosYrHinsawdd. Roeddem yn awyddus iawn i roi cyfle i bobl Castell-nedd gymryd rhan, felly fe wnaethom blannu darn bach o goetir newydd ar y safle ar y diwrnod hwnnw. Ac er bod y nifer y lleoedd yn y digwyddiad hwn yn gyfyngedig, fe wnaethom ni wahodd ymwelwyr i Barc Gwledig Gnoll ar y diwrnod hwnnw i roi eu barn i ni ar sut y dylid creu'r coetir newydd, sut y dylai edrych a hyd yn oed beth ddylai’r enw fod.”

Fe fydd y 150,000 o goed brodorol y mae Coed Cadw yn gobeithio eu plannu yn Brynau yn y pen draw yn clustogi ac yn amddiffyn yr ardal fach o goetir hynafol sydd eisoes yn bodoli yno, gan ei chysylltu â'r dirwedd o amgylch gyda pherthi newydd, ac wrth gwrs ymladd effeithiau newid yn yr hinsawdd trwy lanhau’r aer, cloi carbon a dŵr ffo a fyddai fel arall yn rhedeg i lawr y bryniau ac yn cyfrannu at berygl llifogydd yng Nghastell-nedd islaw. Byddai'r plannu coed y mae Coed Cadw yn anelu ato ar draws y safle cyfan yn dal dros 23,000 tunnell o garbon deuocsid ac yn cloi'r carbon yn y coed.

Elfen newydd arall o'r cynllun yw bod rhannau o'r tir bellach yn cael eu pori gan fuches fach o saith o wartheg Gwyn Cymreig treftadaeth, brîd hynafol. Fe fyddant yn chwarae rhan allweddol wrth gynyddu bioamrywiaeth y safle, trwy helpu i sefydlu a chynnal ardaloedd o borfa goediog sy'n fuddiol i rywogaethau o fwsoglau a chen. Coed Brynau fydd eu prif gartref.

Fe fydd y plannu yn dod yn elfen bwysig o brosiect Plant! – sef ymrwymiad Llywodraeth Cymru i blannu coeden ar gyfer pob plentyn sy’n cael ei eni neu ei fabwysiad yng Nghymru, sy’n cael i gyflawni gan Gyfoeth Naturiol Cymru mewn partneriaeth â Coed Cadw. Ers 2014, plannwyd coeden ychwanegol  ar gyfer pob plentyn, a hynny yn Uganda, trwy elusen amgylcheddol Maint Cymru. Mae teulu pob plentyn yn derbyn tystysgrif sy’n esbonio lle plannwyd coeden y plentyn, a gobeithio y bydd llawer ohonyn nhw’n teithio i Gastell Nedd i weld y goedlan newydd drostyn nhw eu hunain ryw ddydd.

Fodd bynnag, nid yw safle Brynau ar agor i'r cyhoedd tra bod Coed Cadw’n cwblhau gweithgareddau iechyd a diogelwch. Ond fe wnaiff gyhoeddi ar ei wefan a’r cyfryngau cymdeithasol, @CoedCadw a Woodland Trust Cymru ar Facebook, pan gaiff y rhain eu cwblhau.

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, cysylltwch â:

Rory Francis (Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus ac Ymgyrchoedd Cymru): 0343 770 5738 neu 07539 322678 roryfrancis@woodlandtrust.org.uk

Neu Swyddfa'r Wasg Woodland Trust ar 01476 581121, e-bost media@woodlandtrust.org.uk

Coed Cadw (Woodland Trust) yw elusen gadwraeth coetir fwyaf y DU. Mae ganddo dros 500,000 o gefnogwyr. Mae am weld DU sy’n llawn coedwigoedd a choed brodorol ar gyfer pobl a bywyd gwyllt. Mae gan Coed Cadw dri nod allweddol: i) amddiffyn coetir hynafol sy'n brin, unigryw ac na ellir ei ail-greu, ii) adfer coetir hynafol sydd wedi'i ddifrodi, gan ddod â darnau gwerthfawr o'n hanes naturiol yn ôl yn fyw, iii) plannu coed a choedwigoedd brodorol gyda'r nod o greu tirweddau gwydn i bobl a bywyd gwyllt.

Wedi'i sefydlu ym 1972, erbyn hyn mae gan Coed Cadw dros 1,000 o safleoedd yn ei ofal gydag arwynebedd o dros 22,500 hectar. Mae'r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 2,897 hectar (7,155 erw). Mae'n cynnig mynediad cyhoeddus am ddim i bron pob un o'i safleoedd. Mae enw Cymraeg y mudiad, “Coed Cadw”, yn hen derm Cymraeg, a ddefnyddir mewn deddfau o’r oesoedd canol i ddisgrifio coetir sy’n cael ei warchod yn arbennig.