Ym mis Tachwedd 2019 mae’r Loteri Genedlaethol yn dathlu ei ben-blwydd yn 25 oed. Yma yng Nghymru mae cefnogaeth gan y Loteri Genedlaethol wedi galluogi Coed Cadw (Woodland Trust) i ddod â gerddi hanesyddol Cefn Ila yn ôl yn fyw, gan adfer cynefinoedd bywyd gwyllt a chreu erwau o goetir brodorol newydd.

Fe’i disgrifiwyd fel un o ‘pinetums’ gorau yng Nghymru; mae'n cynnwys gardd furiog o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a gellid honni fod cyfran sylweddol o'r boblogaeth leol wedi cael eu geni ar y safle! Bellach, mae’n cael ei adfer yn ofalus iawn, ochr yn ochr â choetir newydd a grëwyd o’i gwmpas gan Coed Cadw (Woodland Trust) gyda chymorth a chefnogaeth gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol trwy Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a grŵp ymroddedig o wirfoddolwyr gweithgar.

Ar un adeg roedd Cefn Ila ger Brynbuga yn Sir Fynwy yn safle plasty a gerddi o'r 19eg ganrif. Roedd yn perthyn i'r nofelydd a'r anturiaethwr Edward Trelawny ac fe'i prynwyd yn ddiweddarach gan Gerard Gustavius ​​Ducarel, 4ydd Marquis de la Pasture, yr oedd ei deulu wedi dianc o Ffrainc yn ystod y Chwyldro. Rhwng y 1940au a'r 1970au fe'i defnyddiwyd fel ysbyty mamolaeth.

Prynodd Coed Cadw y safle yn 2007, gan blannu 36,000 o goed brodorol i greu coetir newydd, ac yna, saith mlynedd yn ddiweddarach, ymgymerodd â phrosiect uchelgeisiol i adfer yr ardd furiog hanesyddol, yr arboretwm a'r pwll addurnol i'w gogoniant blaenorol, gan ddefnyddio grant hael o £297,700 o Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Mae'r cynllun wedi bod yn boblogaidd iawn gyda phobl leol; mae nifer yr ymweliadau misol wedi codi’n aruthrol o ychydig o dan 400 yn 2014 cyn i'r prosiect ddechrau, i dros 1,300 yn 2019. Am y pum mlynedd diwethaf, cynhaliwyd 'Dyddiau Afal' llwyddiannus gyda phob math o weithgareddau ac atyniadau ac mae'r rhain wedi denu cannoedd o ymwelwyr.

Fel rhan o'r prosiect mae'r ardd furiog hanesyddol wedi'i hadfer, gyda grŵp brwd o arddwyr gwirfoddol yn cwrdd ddwywaith y mis i'w chadw mewn cyflwr da. Mae'r pwll artiffisial a adeiladwyd yn y 19eg ganrif i gyflenwi dŵr i'r plasty wedi'i adfer fel nodwedd addurnol a chynefin bywyd gwyllt ac mae'r arboretwm, a elwir hefyd yn 'pinetum', a oedd unwaith yn gaffaeliad pwysig wedi'i adfer, gan glirio llawer o’r aildyfiant naturiol.

Mae Ivor Stokes, cyn gyfarwyddwr Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, wedi canmol yr amrywiaeth o rywogaethau egsotig sydd bellach yn llenwi'r nodwedd unigryw hon. Meddai: “Mae 'pinetum' Cefn Ila yn cynnwys cymysgedd anhygoel o goed conwydd ynghyd â choed a llwyni eraill, mae'n debyg bod rhai ohonyn nhw, fel y cedrwydd, sy'n enfawr, yn dyddio'n ôl i ddegawdau cynnar y 19eg ganrif pan brynodd Trelawney yr ystâd. Mae'n debyg bod y rhan fwyaf o'r coed eraill wedi'u plannu yn ail hanner y ganrif honno, a hynny ar ôl i lawer o rywogaethau newydd gael eu cyflwyno o America a'r Dwyrain Pell. Beth bynnag fo'u gwreiddiau, rhaid dweud fod y casgliad hwn ymhlith y rhai gorau yng Nghymru a bydd yn werth ymweld â hi.”

Dywed Rob Davies, sy'n rheoli'r safle ar gyfer Coed Cadw: “Mae'r gefnogaeth a gawsom gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi bod yn hynod bwysig, gan ganiatáu inni wneud cymaint na allen ni fod wedi fforddio gwneud fel arall. Mae llwybr cerfluniau anhygoel bellach, hibernaculum ar gyfer yr ystlumod, ac wrth gwrs mae’r pwll a'r ardd furiog wedi eu hadfer.

“Mae Cefn Ila wedi dod yn hafan go iawn i fywyd gwyllt, gyda choetir sydd newydd bellach yn darparu coridorau di-dor a chysylltiad rhwng darnau gwahanol o goetir hynafol. Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld y cofnod bridio cyntaf yng Nghymru o'r pry cop hardd Argiope bruennichi, sydd wedi lledu o Dde Lloegr, yn ôl pob tebyg oherwydd cynhesu'r hinsawdd. Mae'n gartref i glwydfan mamolaeth ar gyfer ystlumod, ac mae gennym y fronfraith a thitw'r gors a nifer o gynefinoedd blaenoriaeth o dan Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU.”

Fel pob coedwig sy’n eiddo i Coed Cadw, mae Cefn Ila ar agor i'r cyhoedd ar unrhyw adeg ac am ddim.

Nodiadau i olygyddion

Delweddau: Gellir lawrlwytho a defnyddio amrywiaeth o ddelweddau o Cefn Ila i ddangos y stori hon, o Flickr.

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, cysylltwch â: Rory Francis (Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus ac Ymgyrchoedd) ar 08452 935 738 neu 07539 322678, Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH E-bost roryfrancis@woodlandtrust.org.uk

Neu Swyddfa'r Wasg Woodland Trust e-bostiwch media@woodland-trust.org.uk neu Ffôn 01476 581121

Ynglŷn â Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

Gan ddefnyddio arian a godwyd gan y Loteri Genedlaethol, rydym yn ysbrydoli, arwain ac ariannu treftadaeth y DU i greu newid cadarnhaol a pharhaol i bobl a chymunedau, nawr ac yn y dyfodol. www.heritagefund.org.uk

Dilynwch @HeritageFundUK ar Drydar, Facebook ac Instagram a defnyddiwch #NationalLotteryHeritageFund

Y Loteri Genedlaethol mewn niferoedd

  • 2019 yw pen-blwydd 25 mlynedd y Loteri Genedlaethol. Darlledwyd y raffl gyntaf yn fyw ar BBC1 ar 19eg Tachwedd 1994.
  • Bob wythnos, mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi tua £ 30 miliwn at achosion da. Mae bron i £40 biliwn wedi'i godi a'i ddyfarnu i fwy na 535,000 o brosiectau unigol - 190 o grantiau loteri ar gyfartaledd ym mhob ardal cod post yn y DU.
  • Yng Nghymru dyfarnwyd £397 miliwn i fwy na 2,600 o brosiectau treftadaeth, gan gynnwys Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, Yr Ysgwrn yn Nhrawsfynydd, Safle Ynys Caernarfon, Arsyllfa Gweilch y Pysgod Dyfi a Gwaith Copr Abertawe yn Hafod Morfa.