Skip Navigation

Bardd sy’n canu clod coed

Wrth i Lywodraeth Cymru wahodd datganiadau o ddiddordeb am £1 miliwn o gefnogaeth i blannu coed newydd, a’r dyddiad cau ar 10 Mai

Mae cyn Fardd Cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke, wedi bod yn brysur yn plannu coed, pedair mil a hanner ohonynt, ar ei thyddyn ger Llandysul yng Ngheredigion. A diolch i gynllun Creu Coetir Glastir gan Lywodraeth Cymru, mae pob ffermwr a thirfeddiannwr yn cael eu hannog i ddilyn ei hesiampl, gan wneud defnydd gwell o ardaloedd o dir sydd o werth amaethyddol cyfyngedig mewn ffyrdd fydd yn cefnogi busnes y fferm. Gall y grantiau fod hyd at £ 9,000 yr hectar, a’r dyddiad cau ar gyfer mynegi diddordeb yw 10 Mai.

Roedd Gillian Clarke yn Fardd Cenedlaethol Cymru rhwng 2008-2016. Fe gafodd ei geni yng Nghaerdydd ac mae'n byw yng Ngheredigion. Mae ei gwaith wedi bod ar faes llafur arholiadau TGAU a Safon Uwch ers dros ddeng mlynedd ar hugain, ac mae'n perfformio ei barddoniaeth yn rheolaidd ar gyfer cynulleidfaoedd myfyrwyr mewn digwyddiadau Poetry Live, ac mewn sawl dinas Ewropeaidd. Fe enillodd fedal aur y Frenhines am Farddoniaeth yn 2010, a Gwobr Wilfred Owen yn 2012. Mae coed yn un o'i hysbrydoliaethau.

Mae hi’n dweud: “Mae pedair mil a hanner o goed brodorol: derw digoes, bedw, criafol, cyll, ceirios gwyllt - mae hyd yn oed yr enwau'n brydferth. Fe gafodd y coed eu plannu ar chwe erw o'n tir mwyaf serth, wedi ei ffensio i ffwrdd o’r defaid. Mae'r dail cyntaf yn agor eisoes. Mae barcutiaid yn hedfan uwchben, mae adar yn canu. Coed ar gyfer y dyfodol, yn fyw ac yn llawn gobaith. Maen nhw'n fy ysbrydoli i ysgrifennu cerddi, a llyfr am goed."

Glasbrennau Gillian Clarke yn cael eu plannu ar ei thyddyn hi ger Llandysul. Llun gan Gillian Clarke
Glasbrennau Gillian Clarke yn cael eu plannu ar ei thyddyn hi ger Llandysul. Llun gan Gillian Clarke

Fe all grantiau Creu Coetir Glastir fod mor uchel â £9,000 am bob hectar

Mae Strategaeth Coetiroedd i Gymru Llywodraeth Cymru, a lansiwyd y llynedd, yn anelu at gynyddu gorchudd coetir yng Nghymru o leiaf 2,000 ha bob blwyddyn o 2020 i 2030. Mae'n cynnig cynnydd mewn gorchudd coed yn yr amgylchedd ehangach, ar ffermydd, trwy’r dirwedd wledig ac mewn ardaloedd o amgylch trefi a dinasoedd, i amsugno carbon deuocsid o'r atmosffer a hefyd i greu amaethyddiaeth a threfi gwytnach a mwy cynhyrchiol sy'n iachach ac yn fwy dymunol i’r rhai sy’n byw ynddynt. Bwriad grantiau Creu Coetiroedd Glastir yw annog tirfeddianwyr i helpu i gyflawni hyn.

Dywed Sharon Thomas, Rheolwr Allgymorth Coetir Cymru ar gyfer Coed Cadw: “Mae'n fendigedig fod Gillian Clarke yn dangos esiampl mor wych i dirfeddianwyr eraill. Gall coed brodorol gynnig cymaint o fanteision i ni, gan leihau perygl llifogydd, gwella ansawdd dŵr a darparu cynefinoedd gwych ar gyfer bywyd gwyllt, yn ogystal â bod yn ffynhonnell adnewyddadwy o bren gwerthfawr hefyd. Ar adeg pan, yn anffodus, mae ansicrwydd enfawr o gwmpas ffermio yng Nghymru, mae cynllun Creu Coetiroedd Glastir yn cynnig cyfle gwych i ffermwyr a thirfeddianwyr eraill i ddefnyddio eu holl dir mewn ffyrdd sy'n gynaliadwy yn economaidd ac yn amgylcheddol. Fe all grantiau Creu Coetir Glastir fod mor uchel â £9,000 am bob hectar. Fe all Coed Cadw gynnig cyngor a chefnogaeth am ddim am sut i ddefnyddio'r rhain, ac rydyn ni wedi gweld fod yna diddordeb cynyddol yn hyn ymhlith tirfeddianwyr. Mae rhagor am yr help y gallwn ei gynnig i dirfeddianwyr ar-lein yn: woodlandtrust.org.uk/plant-trees

Nodiadau ar gyfer golygyddion

Coed Cadw (Woodland Trust) yw elusen coetir fwyaf Gwledydd Prydain. Mae ganddo dros 500,000 o gefnogwyr. Mae e a’i fryd ar weld Gwledydd Prydain sy’n gyfoethog o ran coedlannau a choed, i bobl a byd natur. Mae gan yr elusen tri phrif amcan: i) amddiffyn coetir hynafol sydd yn brin, unigryw ac na ellir ei ail-greu, ii) adfer coetir hynafol sydd wedi cael ei niweidio, gan adfywio darnau gwerthfawr o hanes naturiol, iii) plannu coed a choetir brodorol gyda’r bwriad o greu tirweddau gwydn ar gyfer pobl a byd natur.
Sefydlwyd Coed Cadw yn 1972 ac mae ganddo dros 1,000 o safleoedd bellach gyda gorchudd o dros 22,500 o hectarau. Mae’n rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru gyda gorchudd o dros 2,897 o hectarau (7,155 o erwau). Mae’n cynnig mynediad i’r cyhoedd am ddim i bron pob un o’r safleoedd hyn. Mae enw Cymraeg y mudiad, “Coed Cadw”, yn hen derm Cymraeg a ddefnyddiwyd mewn cyfreithiau’r oesoedd canol i ddisgrifio coetir a warchodwyd yn arbennig.