Skip Navigation

Miliwn o goed!

Mae Coed Cadw yn cyrraedd carreg filltir ac fe gaiff 61,755 o’r coed hyn eu plannu gan 356 o fudiadau trwy Gymru gyfan y tymor plannu hwn.

Fe fydd Coed Cadw’n rhoi miliwn o goed i ysgolion a chymunedau mewn un tymor, a hynny am y tro cyntaf erioed, a’r coed olaf yn cyrraedd stepen drws y planwyr yn ystod pythefnos cyntaf mis Mawrth.

Dywed Coed fod hyn yn adlewyrchu’r awydd cynyddol ymhlith y cyhoedd i blannu coed ac i ofalu am yr amgylchedd.

Meddai Beccy Speight, Prif Weithredwr Coed Cadw: "Rydyn ni wedi dod yn agos i roi miliwn o goed am ddim i ysgolion a grwpiau cymunedol ers sawl blwyddyn, ond dyma'r tro cyntaf erioed inni gyrraedd y ffigwr yma mewn un tymor plannu. Mae'n garreg filltir sylweddol ac rydym yn falch o fod wedi cyflawni tasg mor bwysig.

"Mae yna awydd gwirioneddol i blannu coed trwy’r wlad i gyd. Mae pobl eisiau teimlo eu bod yn gwneud gwahaniaeth. Mae coed yn apelio ar gymaint o lefelau gwahanol - maen nhw'n harddu’r llefydd lle rydyn ni’n byw, maen nhw'n helpu i lanhau’r aer, i wella ein priddoedd, ac yn dal dŵr yn ô i leihau llifogydd, yn darparu cynefin i fywyd gwyllt a'n helpu ni i leihau newid yn yr hinsawdd ac i addasu i’w effeithiau.

"Mae gwella iechyd meddwl a lles yn uchel ar yr agenda cymdeithasol a gall coed mewn trefi yn arbennig helpu pobl i deimlo'r manteision o fod yn yr awyr agored. Yr adborth a gawsom oddi wrth y rhai sy'n derbyn coed ac am ddim yw fod llesiant pobl yn un o'u prif resymau i gymryd rhan. Maen nhw hefyd yn pwysleisio eu bod nhw teimlo’n eu bod nhw wedi cyflawni rhywbeth pwysig, rhywbeth sylweddol, trwy blannu’r coed."

Mae pecynnau coed am ddim yn cael eu hanfon yn awr at ysgolion a / neu grwpiau cymunedol ym mhob sir yng Nghymru. Mae’r niferoedd sy’n mynd at y gwahanol siroedd fel a ganlyn:

Abertawe 2
Blaenau Gwent 3
Bro Morgannwg 2
Caerdydd 12
Caerffili 8
Casnewydd 3
Castell-nedd Port Talbot 2
Ceredigion 6
Conwy 3
Gwynedd 10
Merthyr Tudful 5
Pen-y-bont ar Ogwr 4
Powys 4
Rhondda Cynon Taf 2
Sir Benfro 9
Sir Ddinbych 8
Sir Fynwy 15
Sir Gaerfyrddin 3
Sir y Fflint 5
Torfaen 3
Wrecsam 2
Ynys Môn 5

Mae'r rhestr uchod yn cynnwys dim ond pecynnau coed sy'n cael eu hanfon allan i'w plannu ym mis Mawrth. Os ydych chi’n cynnwys y pecynnau a anfonwyd allan yn gynharach y tymor plannu hwn, hynny yw, yr hydref a'r gaeaf hwn, yna mae 61,755 o goed yn cael eu hanfon at 356 o sefydliadau yng Nghymru.

Mae'r pecynnau'n cael eu hariannu'n hael gan brif bartneriaid Sainsbury's, chwaraewyr y People’s Postcode Lottery a Yorkshire Tea.
Ers i'r cynllun ddechrau yn 2010, anfonwyd 5.8 miliwn o goed i ysgolion a grwpiau cymunedol sy'n awyddus i wella eu hardal leol.

(Lun: WTML)
(Lun: WTML)

O Aberystwyth, i Gilycoed, i Langefni

Un grwp sy’n defnyddio un o’r pecynnau hyn yw Cyngor Tref Aberystwyth. Dywed y Cyng. Sue Jones Davies, sy’n trefnu hyn: “Rydyn ni’n dref sy’n ymwybodol o goed. Fyddwn ni ddim yn wastad yn plesio pawb. Weithiau fydd rhaid inni gwympo coeden am resymau yn ymwneud â diogelwch ac ati a weithiau fydd hyn yn ddadleuol gyda’r cyhoedd. Ond mae gynnon ni gynllun plannu coed a fyddwn ni’n trio plannu coed lle bynnag a phryd bynnag y cawn ni’r cyfle.”

Mae pecyn arall yn mynd i ardd Gymunedol Cil-y-coed yn Sir Drefynwy. Dywed Kirsty Hutchinson o’r grŵp: “Fyddwn ni’n plannu coed o flaen ein gardd gymunedol, wrth ochr ffordd breifat. Fe fydd y berth yn cau’r ardd i mewn, gan gynnig cysgod naturiol a diogelwch i’r ardd. Rwy wrth fy modd y bydd e hefyd yn croesawu ac yn hybu byd natur.”

Mae pecyn arall i mynd i Geidiaid Llangefi yn Sir Fôn. Dywed Natalie Roberts-West sy’n trefnu hyn: “Y ardal blannu arfaethedig ydi gardd maes parcio neuadd y pentref lle mae’r Geidiaid yn cwrdd. Mi hoffen ni blannu coed yn y gymuned leol i ddweud diolch am ein cefnogi ni.”

Wedi eu tyfu yng Ngwledydd Prydain

Mae pob coeden wedi cael ei dyfu yn y DU fel rhan o gynllun i sicrhau ansawdd sy’n cael ei redeg gan Coed Cadw i warantu tarddiad coed brodorol. Mae'r cynllun yn gwarantu bod coed o nifer o feithrinfeydd sy’n dwyn bathodyn UKSG wedi cael eu tyfu o hadau a gasglwyd yn y DU, a’u bod nhw wedi cael eu tyfu yn y DU trwy gydol eu hoes.

Nod y cynllun yw lleihau'r perygl o fewnforio plâu a chlefydau gyda phlanhigion a dyfwyd y tu allan i'r DU.
Mae pob glasbren yn cyrraedd gydag amddiffyniad er mwyn rhoi'r cyfle gorau iddynt oroesi, ac mae pob pecyn yn dod â chyfarwyddiadau llawn am sut i blannu a gofalu am y coed.

Os hoffech chi wneud cais am goed am ddim yn y dyfodol, cofiwch wneud hyn mor fuan â phosibl, gan fod y cynllun yn boblogaidd iawn. Cyntaf i’r felin piau hi. Fe allwch wneud cais am rhwng 15-420 o goed yn dibynnu ar faint o dir sydd ar gael i’w blannu. Mae yna becynnau gwahanol: gwrych/perth, coedlan fach, cynhaeaf gwyllt, lliw trwy gydol y flwyddyn, coedlan i gynhyrchu pren, coed gwyllt, bywyd gwyllt a threfi.

Meddai Beccy Speight: "Mae anfon un miliwn o goed wedi bod yn her enfawr ond mae e’n un y mae ein tîm a'r feithrinfa goed wedi groesawu'n llwyr ac rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi cyflawni hyn. Mae ein rhwydwaith o wirfoddolwyr creu coetiroedd yn chwarae rhan hanfodol wrth gyflwyno prosiectau fel hyn; gan ymestyn ein cyrhaeddiad trwy ymgysylltu â chymunedau, ysbrydoli ac addysgu ar sut i blannu a gofalu am goed er mwyn sicrhau eu bod yn goroesi. Rydyn ni'n barod i wynebu’r her o anfon hyd yn oed mwy o goed am ddim yn y tymor nesaf, gan helpu hyd yn oed mwy o bobl newid y llefydd lle maen nhw’n byw, er gwell."

Gwnewch gais am eich coed yn www.woodlandtrust.org.uk/freetrees