Coeden Gymreig y Flwyddyn

Dyma’r chwe choeden sydd wedi cyrraedd rownd olaf Coeden Gymreig y Flwyddyn, y gystadleuaeth flynyddol i gael hyd o hoff goeden y genedl.

Darllenwch straeon anhygoel y coed sydd ar y rhestr fer a phleidleisiwch ar gyfer eich ffefryn chi.

Coeden y tylwyth teg
Ar dir ysgol annibynnol Treffos, Llansadwrn, Ynys Môn

Yn harddwch Ynys Môn y mae cartref Ysgol a Meithrinfa Treffos, sydd wedi'i lleoli mewn coedwig! Mae’n lle perffaith

ar gyfer plant ifanc, sef amgylchedd hudol lle gallant edrych am fes, concers a moch coed; gweld olyniaeth hyfryd blodau'r gaeaf a'r gwanwyn: crocws, eirlys, clychau'r gog, cennin Pedr, digon o gwningod i gystadlu â Watership Down ac, os ydynt yn ffodus iawn, hyd yn oed wiwer goch. Mae'n lle yng nghanol natur sy'n eu bwydo'n emosiynol ac yn creu ymdeimlad o syndod.

Yng nghanol y coed ffawydd godidog y saif collen fach. Ar y dechrau, fe allech chi gael eich maddau am feddwl nad yw'r goeden hon yn arbennig o gwbl, ond edrychwch ar ei waelod ac fe welwch chi gysgod dirgel a adeiladwyd gan "tylwyth teg", sy’n cael ei warchod gan ganopi o ddail. Dyma'r goeden sydd yn y gystadleuaeth hon - hoff goeden y plant ar gyfer adeiladu ffau.

The Fairy House Tree (Llun gan: WTML/Huw Humphreys)

 

Y Ceubren
Parc Gwledig Ystâd Gnoll, Castell Nedd Port Talbot 

Roedd Parc Gwledig Ystâd Gnoll unwaith yn perthyn i deulu diwydiannol cyfoethog o'r enw Mackworth. Heddiw, mae’r Ystâd wedi cael ei droi yn barc gwledig wedi'i amgylchynu gan ardd hardd o'r 18fed ganrif, mannau gwyrdd agored a choetiroedd gwyllt. Un nodwedd boblogaidd yw derwen hynafol sydd wedi bod yn hollol wag ers y 1950au o leiaf. Gosodwyd bariau i gefnogi'r strwythur yn ddiweddar. Mae'r goeden wedi llwyddo i oroesi fel hyn a phob haf mae’n cynhyrchu cnwd iach a llawn o fes a dail. Mae cenedlaethau o blant wedi chwarae'n ddychmygus yn y goeden hudolus hon. Gofynnwch i neiniau a theidiau lleol beth mae'n ei feddwl iddyn nhw a fyddant yn sôn wrthych am atgofion cynnes eu plentyndod o'r goeden hon a sut mae eu plant a'u gwirion eu hunain wedi chwarae ynddi hefyd. Coeden wyrthiol yw hon, yn wir.

Gnoll Park Hollow Oak (Llun gan: WTML/ Mark Zytynski)

 

Yr ywen sy’n gwaedu
Eglwys Sant Brynach, Nanhyfer, Sir Benfro

Mae Eglwys Sant Brynach Nanhyfer wedi bod yn safle crefyddol pwysig ers y 6ed ganrif ac mae wedi ei seilio mewn hanes a chwedl. Rhai llathennau o'r eglwys y mae yna lwybr sy’n arwain at groes Geltaidd hynafol, Croes y Pererinion. Defnyddiwyd y llwybr gan bererinion ar eu ffordd i Dyddewi. Ac yn y fynwent y saif ywen hynafol, sef yr ywen sy’n gwaedu. Credir bod y goeden oddeutu 600 mlwydd oed ac mae’n esgor ar hylif coch tebyg i waed. Yn ôl y chwedl leol, mae'r goeden yn crio oherwydd groeshoelio Crist. Esboniad arall yw bod yr hylif mewn gwirionedd yn ddŵr glaw, wedi'i lliwio'n goch gan galon y goeden ac yna'n dianc trwy dwll cyfleus. Beth bynnag yw'r esboniad, mae’r ywen a’r eglwys yn denu miloedd o ymwelwyr hyd heddiw.

 

Nevern Bleeding Yew (Llun gan: WTML/Mark Zytynski)

 

Ywen y Pulpud, Nantglyn
Nantglyn, Sir Ddinbych

Mae eglwys hardd Sant Iago yn Nantglyn yn dyddio'n ôl tua 700 o flynyddoedd, ond yn ei mynwent mae rhywbeth hyd yn oed yn hŷn, sef ywen sydd oddeutu 1,500 mlwydd oed, yn ôl y sôn. Mae’r twll yng nghanol y ceubren hynafol hwn wedi cael ei droi yn bulpud awyr agored, a ddefnyddiwyd droeon ar gyfer pregethu, unwaith, yn ôl y sôn, gan sylfaenydd yr Eglwys Fethodistaidd, John Wesley. Defnyddiwyd llechi Cymreig lleol i greu'r camau sy'n arwain at sedd a phodiwm ar y brig sy'n edrych dros y fynwent. Er gwaethaf yr addasiadau, mae Ywen y Pwlpid yn dal mewn iechyd ardderchog ac mae'n enghraifft wych o'r berthynas gydnabyddedig rhwng coed a mannau addoli

The Pulpit Yew (Photo: WTML/ Rory Francis)

 

Cochwydden Gawraidd Llangatwg
Llangatwg, Powys

Ar lan Camlas Trefynwy ac Aberhonddu ger pentref tawel Llangatwg y saif cochwydden enfawr, Sequoiadendron giganteum. Mae’n sefyll ychydig yn ôl o'r llwybr troed wrth ochr y gamlas ac er gwaethaf ei maint, mae rhai pobl yn llwyddo i gerdded heibio heb sylwi arni hi. Ond mae gan y goeden grwp brydfrydig o gefnogwyr ei hun ac mae'n denu ymwelwyr sy'n dod i fwynhau picnic dan ei changhennau a phrofi ei ysblander. Cyflwynwyd coed cochwydd mawrion i'r DU gan William Lobb yn 1853, a hynny ar ôl iddo ymweld â Chalifornia. O fewn cyfnod byr, roedd y coniffer carismatig hwn, sydd mor symbolaidd o anialwch anferth America, wedi dod yn symbol o statws ym Mhrydain. Dywed Charlie Evans, a enwebodd y goeden: "Rwyf am i fwy o bobl fwynhau harddwch y goeden hon, gan fynd â'u teuluoedd a'u ffrindiau am amser da yn ymweld â hi."

Llangattock Sewuoia (Llun gan: WTML/ Mark Zytynski)

 

Cochwydden Gardd Bodnant
Gerddi Bodnant, Conwy

Mae 80 acer o Ymddiriedolaeth Genedlaethol Gardd Bodnant ger Conwy yn gartref i gasgliad hanesyddol o goed. Mae un ohonynt, yr un mwyaf o’i fath yng Nghymru, yn Cochwydden yr Arfordir. Mae’n sefyll yng ngardd y Dell. Fe'i plannwyd yn 1887 gan sylfaenydd yr ardd, Henry Pochin, a ddatblygodd y pinetum trwy gyflwyno coed o Ogledd America ac Asia a ddarganfuwyd gan helawyr planhigion y dydd.

Mae’r goeden hon yn un o ffefrynnau y prif arddwr John Rippin: "Yn fy marn i, y goeden fwyaf dramatig yng Ngerddi Bodnant yw'r Sequoia sempervirens sy'n tra-arglwyddiaethu dros yr ardd, yn 51.5 metr uchder! Mae gan Ddyffryn Conwy amodau tyfu delfrydol ar gyfer coed cochwydd ac fe hoffwn i feddwl y bydd cewri Bodnant yn dal i dyfu’n gryf o fewn 200 mlynedd ac o bosib yn cyrraedd y 100 metr hudolus, gan roi golwg hyd yn oed gwell i'n hymwelwyr yn y dyfodol a helpu diogelu un o goed mwyaf anhygoel y byd. "

Bodnant Coast Redwood (Llun gan: WTML/Rory Francis)

Read this page in...