Coed Cadw, CLA a Confor yn galw am ragor o goed yng Nghymru ar ôl Brexit

Mae Cyfarwyddwr CLA Cymru, Rebecca Williams, Cyfarwyddwr Coed Cadw, Jerry Langford a Chyfarwyddwr Confor, Martin Bishop yn ymuno i ddweud: "Wrth i'r DU baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mawrth 2019, rydym yn gweld cyfle go iawn i wneud newidiadau er gwell i ddyfodol cefnogaeth i amaethyddiaeth a chefn gwlad ".

"Mae’n galonogol clywed barn Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, yn ei hymateb ysgrifenedig i'r adroddiad "Heb gyrraedd gwreiddyn y mater: uchelgais newydd ar gyfer polisïau coetiroedd" ar y potensial coetiroedd a choedwigoedd Cymru, a gynhyrchwyd gan Bwyllgor Newid Hinsawdd yr Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad, ac fe gredwn fod y rhain yn gwbl gydnaws â'r teimladau a fynegwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Michael Gove AS, yn ei araith ar gyflwyno "Green Brexit" ym mis Gorffennaf.

"Yn benodol, yr ydym i gyd yn cytuno bod 'coed nid yn unig yn ffynhonnell harddwch a rhyfeddod, tystiolaeth fyw o'n buddsoddiad ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ond eu bod nhw hefyd yn sinc carbon, ffordd o reoli perygl llifogydd a chynefin i rywogaethau gwerthfawr.'

"Mae’r ddadl yn parhau ynghylch pa fesurau y bydd Llywodraethau yn eu rhoi ar waith i gefnogi cefn gwlad y DU, i gymryd lle’r system bresennol o grantiau a thaliadau gwledig fel rhan o Bolisi Amaethyddol Cyffredin yr Undeb Ewropeaidd (CAP).

"Fel sefydliadau unigol rydym yn gwneud ein cyfraniadau ein hunain i wahanol feysydd o'r ddadl hon. Fodd bynnag, rydym yn rhannu ymagwedd gyffredin tuag at nifer o egwyddorion sylfaenol am ddatblygu polisi coedwigaeth a choetiroedd ar ôl Brexit.

"Rydym yn cytuno y dylai'r dulliau canlynol gael eu datblygu ac fe fyddwn ni’n cefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a Deddf yr Amgylchedd, i sicrhau y bydd Cymru'n elwa’n economaidd, yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol.

1. Fe fyddai Cymru’n elwa o ragor o goedwigoedd a choedwigoedd. Dylid cyflwyno targedau plannu coed uchelgeisiol (mewn hectarau) gyda nodau clir ar gyfer gorchudd coedwig sy'n adlewyrchu'r manteision lu y gallant eu cynnig ac sy'n mynd i'r afael â'r lefel annigonol o goetir sydd gennym ar hyn o bryd. Dylai'r targedau hyn gydfynd ag anghenion yr economi, gan helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, gwella bioamrywiaeth a darparu lleoedd ar gyfer hamdden.

2. Dylid gwella'r gefnogaeth ar gyfer creu coetiroedd a phlannu coed ar ôl Brexit. Dylid cyflwyno polisi newydd a chytundeb cefn gwlad newydd rhwng amaethwyr, tirfeddianwyr a’r gymdeithas ehangach sy’n cynnwys mesurau sydd wedi cael eu cynllunio'n dda i sicrhau cynnydd uchelgeisiol yn ardal gorchudd coetiroedd yn y DU, gan sicrhau fod mwy o goetir yn cael ei reoli’n gynaliadwy.

3. Dylid sicrhau fod plannu coed yn gynaliadwy yn amgylcheddol ac yn economaidd. Dylai cynlluniau plannu coed o dan drefniadau newydd ystyried anghenion busnes gwledig, pobl leol a bywyd gwyllt yn y dyfodol, gan gynnwys yr angen i liniaru neu leihau perygl llifogydd ac i warchod a gwella cynefinoedd sy'n bodoli eisoes.

4. Dylai perchnogion coetiroedd presennol gael eu gwobrwyo am y buddion cyhoeddus y maen nhw’n ddarparu. Mae'r coetir sy’n bodoli eisoes yn darparu manteision cyhoeddus arwyddocaol o ran storio carbon, rheoli dŵr, amddiffyn y pridd a chynefin bywyd gwyllt, ond nid yw'r tirfeddiannwr yn cael ei dalu am y rhain. Mewn unrhyw bolisi yn y dyfodol, dylai perchnogion sy'n rheoli eu coetir i Safon Goedwigaeth y DU gael eu gwobrwyo am y buddion cyhoeddus y mae eu coetir yn eu darparu.

5. Rhaid sicrhau proffeil uwch i goedwigaeth yng Ngwledydd Prydain, fel ei bod yn cael ei deall yn well a’i gwobrwyo’n well. Mae coedwigaeth fel busnes yn werth £500 miliwn yng Nghymru ac yn cefnogi dros 10,000 o swyddi. Gyda photensial mawr ar gyfer twf, fe allai ddarparu mwy o swyddi, mwy o gynhyrchion coedwig, a chynyddu manteision amgylcheddol a chyfleoedd economaidd i bawb yn y DU.

6. Fe ddylai Prydain ddefnyddio rhagor o bren mewn adeiladu. Petai rhagor o bren ar gael, wedi ei dyfu yn y wlad hon, gellid adeiladu’r cartrefi sydd eu hangen, o ansawdd gwell, yn gyflymach a gydag ôl traed carbon llai.

Nodiadau

Mae gan Coed Cadw dros 500,000 o aelodau a chefnogwyr ac mae'n rheoli mwy na 1,000 o goedlannau, sy'n cynnwys dros 26,000 hectar, ledled y DU. Ein gweledigaeth yw Teyrnas Unedig sy’n gyfoethog mewn coed a choedwigoedd brodorol, ar gyfer pobl a bywyd gwyllt.

Mudiad aelodaeth yw CLA, ar gyfer perchnogion tir, eiddo a busnesau yng nghefn gwlad Cymru a Lloegr. Mae aelodau CLA yn berchen ar neu'n rheoli mwy na 10 miliwn erw o dir gwledig ac mae ychydig dros draean ohonynt yn ymwneud â rheolaeth coedwigaeth a choetiroedd.

Confor yw prif fudiad aelodaeth y DU ar gyfer busnesau sy’n ymwneud â choedwigaeth gynaliadwy a defnyddio coed. Mae Confor yn cynrychioli dros 1600 o fusnesau, gan gynnig llais grymus i sicrhau bod ein diwydiant yn ffynnu ymhell i'r dyfodol.