
English version

Llwyddiant yn yr ymgyrch i achub y goedwig law Geltaidd
Mae ymgyrch Coed Cadw i godi'r arian i brynu'r rhan fwyaf o Gwm Mynach yn Eryri, bron i 1000 o erwau, wedi bod yn llwyddiant. Mae'r elusen wedi cwblhau pryniant y tir bellach, ac mae'n bwriadu ailgreu coetir brodorol a chynefinoedd gwerthfawr eraill ar draws tirwedd a orchuddir gan blanigfeydd connwydd, yn bennaf, ar hyn o bryd. Mwy am lwyddiant yr ymgyrch yma.
Dywed Eryl Roberts o Goed Cadw: “Rydyn ni’n ddiolchgar tu hwnt i bob un o’r pymtheg mil o bobl, bron, sydd wedi cyfrannu at yr apêl. Dros yr misoedd diwethaf rydyn ni wedi bod yn brysur yn trafod manylion y pryniant ac rydyn ni wrth ein bodd fod y broses wedi cael ei gwblhau.”
Ym mis Mai 2009 fe lansiodd yr elusen apel i godi £865,000 i brynu bron i 1000 o aceri o dir ym Mharc Cenedlaethol Eryri ac i reoli'r tir am y pum mlynedd cyntaf. Mae Coed Cadw wedi codi dros £800,000 bellach a felly mae o wedi llwyddo i gwblhau'r pryniant.
Mae hwn yn berl i safle. Mae darnau bychain o goetir brodorol wedi goroesi’n ddygn er gwaetha’r ffaith fod coed conwydd wedi cael eu plannu trwy’r rhan fwyaf o’r cwm, ac mae’r amgylchiadau gwlyb yn helpu mwsoglau, llysiau’r afu a chen i ffynnu.
Mae Ray Woods yn cael ei gydnabod fel arbenigwr ar gen ac mae’n gweithio i fudiad Plantlife. Dyma sut y mae yntau’n disgrifio’r darn o goetir brodorol sydd wedi goroesi:
“Mae’n gallu bwrw glaw ar 200 o ddyddiau mewn blwyddyn. Rydych chi wedi clywed am y coedwigoedd glaw. Dyma goedwig law Geltaidd ac mae’n debyg ei bod hi’n fwy prin na’r goedwig law trofannol ac o dan fwy o fygythiad. Os bydd un o’r coed yma’n syrthio, fe gollwn ni un o’r cennau. Unwaitheu bod nhw wedi diflannu fe fydd yn anodd dros ben eu cael nhw nôl.

Er bod y tir wedi'i ddiogelu erbyn hyn, mae'r elusen yn dal i godi arian tuag at y gwaith adfer. Fe all y rhai sydd a'u bryd ar gefnogi'r gwaith wneud hyn o'r wefan hon.
Trwy wneud cyfraniad heddiw, fe fyddwch chi’n helpu diogelu dyfodol y trysor yma, sydd yn bwysig ar lefel y byd.
I glywed Ray Woods yn esbonio pam fod y safle mor bwysig, gwyliwch y fideo byr yma, neu fynd i weld y safle eich hun.