English version
Mae gan Gwm Mynach hanes diddorol ac amrywiol. Gellir gweld gweddillion hanes y cwm heddiw.
12,000 o flynyddoedd yn ôl: Fe ddechreuon hanes y tirwedd yma yn ystod oes yr iâ diwethaf pan symudodd rhewlifoedd anferth tua’r môr, gan ddwyn gyda nhw gerrig a chreigiau. Fe gloddiodd y rhiflif gwm mawr, sef Cwm Mynach.
1198: Sefydlwyd Abaty Cymer gan fynachod Sistersaidd. Gwelir ei adfeilion heddiw wrth ben aber Afon Mawddach, gan roi argraff inni ba mor galed yr oedd bywyd y mynachod. Enwyd y cwm ar ôl y mynachod hyn.
Tua 1886: Sefydlwyd diwydiant cloddio manganîs. Mae olion mwyn manganîs yn dal i’w gweld heddiw o flaen inclein.
1890: Darganfuwyd cwpan cymun arian o’r Abaty, a guddiwyd ar odre’r mynydd ar ôl i’r mynachdai gael eu diddymu.
1940: Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fe ddihangodd Anne Hill, awdur y llyfr ‘Four fields, five gates’, i’r cwm yn ystod y gwyliau ysgol. Yn ei llyfr hi, mae hi’n sôn am ei hymdrechion gwrol i adfer tŷ yn y cwm oedd bron yn adfail yn ystod y blynyddoedd cythryblus hyn. Mae’r llyfr yn cyfleu naws arbennig y cwm a’r tirwedd yma, sydd yn dal i’w deimlo heddiw.
2009: Mae tirwedd a golygfeydd y cwm yn dal yn drawiadol, ond erbyn hyn mae’r coetir derw gogoneddus wedi cael eu cysgodi gan dwf y coed conwydd.
2010: Rydym yn bwriadu ymestyn y coetir brodorol trwy dynnu allan y coed sbriws a phinwydd yn araf deg, gan wneud lle i’r derw, y cyll a’r ynn.
2022 ymlaen: Dros y 12 mlynedd nesaf, fe gaiff y cwm ei drawsnewid trwy ddod â’r coed brodorol yn ôl i ardal o harddwch eithiadol.