English version
Archwiliwch ddyffryn cuddiedig Cwm Mynach gyda’r daith rhad ac am ddim hon.
Y mae dwy ran i’r daith hon sy’n cychwyn a gorffen yng nghilfan Fiddler’s Elbow (man picnic Parc Cenedlaethol Eryri) ar y ffordd A496 rhwng Dolgellau ac Abermaw, ar gyrion dwyreiniol pentref Bontddu.
Islwythwch eich taflen gerdded pdf
Ar y rhan gyntaf cerddwch o’r gilfan i Gwm Mynach yn dilyn llwybrau troed, ffyrdd tarmac a llwybrau caregog. Cewch olygfeydd hynod o ochr dwyreiniol Cwm Mynach a golygfeydd gwych o Gadair Idris, Dolgellau a’r Fawddach.
Wrth i chi gyrraedd y cwm gallech un ai ddychwelyd i’r gilfan, mwynhau tro bach i mewn i’r dyffryn neu fynd yn eich blaen ar daith gylch o gwmpas Cwm Mynach am olygfeydd trawiadol o lethrau creigiog y dyffryn, ac yn y man cipolwg o Lyn Cwm Mynach ym mlaen y cwm.
Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas ar gyfer cerdded yn y bryniau. Cadwch eich ci dan reolaeth ac ar dennyn lle bynnag y bo anifeiliaid yn pori.
Map perthnasol – Arolwg Ordnans Explorer OL18: Harlech, Porthmadog a Bala
Rhan rhwng y gilfan a Chwm Mynach: Hyd - 1½ milltir; Amser - 1¼ awr (fyny) / ¾ awr (lawr); Esgyniad / disgyniad - 160 medr
Rhan o amgylch Cwm Mynach: Hyd - 5 milltir; Amser – 2½ awr; Esgyniad / disgyniad - 170 medr
Gallech gyfuno’r daith hon gyda ffordd arall i lawr i’r Bontddu heibio mwynfeydd aur y Clogau, taith a ddisgrifir ar wefan Parc Cenedlaethol Eryri, ond byddai rhaid dilyn y disgrifiad o’r ffordd i’r gwrthwyneb o gyffiniau fferm Garth Gell.