Cymraeg
Coed Cadw (the Woodland Trust) takes its ‘plant more native trees’ message to Llanelwedd
Coed Cadw (the Woodland Trust), the UK’s leading woodland conservation charity, offered free native trees to members of the public at the Royal Welsh Show between 19 and 22 July, as a means of promoting its More Trees, More Good campaign and over 1000 people took up the offer.
The charity also offered free advice, support and in some cases free trees to farmers and other landowners who are keen to plant native trees on their land, and collected huge number of expressions of interest.
Jerry Langford, Coed Cadw’s Director for Wales says: “Even small areas of trees and woodland within the farmed landscape can offer a wide range of benefits that meet many of the environmental challenges we face today. They are not just beautiful; they can help alleviate flooding, provide shelter for livestock, improve water quality, provide valuable habitats for wildlife at a time of climate change, as well as soaking up CO2 from the atmosphere and providing a renewable supply of wood fuel and timber.
“And because of the benefits woodland offers to the wider public, there are now incentives from the Welsh Assembly Government which may prove attractive to many. There are generous grants available now under Glastir Woodland Creation Options/BWW, while undertaking to create small areas of new woodland in the form of continuity strips is one way of securing points to enter the All Wales element of Glastir.
The Welsh Assembly Government will be sending out Glastir application forms to farmers this autumn. Coed Cadw is keen to stress that one of the ways of building up the points needed to enter is by ‘ticking the box for woodland’.
Coed Cadw gave out around 1000 trees to the public at its stall in the forestry section of the Royal Welsh Show. They also encouraged people to join the campaign for a more wooded landscape by signing up for a free e-newsletter.
Coed Cadw will be doing the same thing at the National Eisteddfod at Ebbw Vale from 31 July to 7 August. Those unable to attend either event can find out how they can join in the tree planting campaign by going to www.moretreesmoregood.org.uk
For media enquiries contact:
Rory Francis (Publicity and Public Affairs Officer for Wales) on 08452 935 738 or 07760 171174 Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH Email roryfrancis@woodland-trust.org.uk
Or The Woodland Trust Press Office email media@woodland-trust.org.uk or Tel 01476 581121
Coed Cadw (The Woodland Trust)
The Woodland Trust is the UK’s leading woodland conservation charity. It has 300,000 members and supporters. The Trust has three key aims: i) to enable the creation of more native woods and places rich in trees; ii) to protect native woods, trees and their wildlife for the future and; iii) to inspire everyone to enjoy and value woods and trees.
Established in 1972, the Woodland Trust now has over 1,000 sites in its care covering approximately 20,000 hectares (50,000 acres). These include over 100 sites in Wales, with a total area of 1,580 hectares (3,900 acres). It offers free public access to nearly all of its sites. Further news can be accessed via www.coed-cadw.org.uk The Trust adopted its Welsh language name in 2000: “Coed Cadw”. This is an old Welsh term, used in medieval laws to describe protected or preserved woodland.
English
Coed am ddim yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru!
Coed Cadw (the Woodland Trust) yn dod â’r neges ‘plannwch fwy o goed brodorol' i Sioe Llanelwedd
Fe fu Coed Cadw (the Woodland Trust), prif elusen gwarchod coetir Gwledydd Prydain, yn cynnig coed brodorol am ddim i’r cyhoedd yn Sioe Frenhinol Amaethyddol Cymru rhwng y 19 a’r 22 Gorffennaf, fel ffordd i ledaenu’r neges y dylid plannu mwy o goed brodorol. Fel rhan o’r ymgyrch “Trwy Wydd Ddaw Budd”, fe gynigiodd yr elusen gyngor am ddim, cefnogaeth ac mewn rhai amgylchiadau coed am ddim i ffermwyr a thirfeddianwyr erial sydd â’u bryd ar blannu coed brodorol ar eu tir nhw. Fe gasglodd yr elusen lawer iawn o enwau tirfeddiannwyr sydd â’u bryd ar wneud hyn.
Dywed Jerry Langford, Cyfarwyddwr Coed Cadw yng Nghymru: “Mae hyd yn oed darnau bychain o goetir ar ffermydd yn cynnig ystod eang o fanteision sy’n cwrdd â llawer o’r sialensiau amgylcheddol rydyn ni’n wynebu heddiw. Nid yn unig eu bod nhw’n hardd; maen nhw’n gallu lleddfu llifogydd, yn cynnig cysgod i dda byw, yn gwella ansawdd dwr, ac yn cynnig cynefinoedd gwerthfawr i fyd natur ar adeg pan mae’r hinsawdd yn newid, yn ogystal ag amsugno CO2 o’r awyrgylch a darparu ffynhonnell adnewyddol o goed tân a phren.
“Ac oherwydd y manteision y mae coetir yn gynnig i’r cyhoedd, mae yna grantiau ar gael o Lywodraeth y Cynulliad fydd yn ddeniadol i lawer. Mae grantiau hael ar gael yn awr o dan gynllun Coetir Glastir/Coetirioedd Gwell i Gymru, tra bod modd ennill pwyntiau i fynd i mewn i elfen Cymru Gyfan o Glastir trwy wneud ymrwymiad i greu darnau bychain o goetir newydd fel ‘lleiniau cysylltiol’.”
Fe fydd Llywodraeth y Cynulliad yn gyrru ffurflenni cais Glastir i ffermwyr yn yr hydref. Mae Coed Cadw yn awyddus i dynnu sylw at y ffaith y gellir ennill pwyntiau i fynd i mewn i’r cynllun trwy ‘dicio’r blwch am goetir’.
Fe roddodd yr elusen dua mil o goed am ddim i’r cyhoedd ar eu stondin yn y Sioe Frenhinol Amaethyddol Cymru. Fe wnaethon nhw annog pobl i ymuno yn yr ymgyrch i greu rgagor o goed yng nghefn gwlad, hefyd, a hynny trwy danysgrifio i e-gylchlythyr arbennig, sydd am ddim.
Fe fydd Coed Cadw yn gwneud yr un peth yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nglynebwy rhwng y 31 Gorffennaf a’r 7 Awst. Fe all y rhai sy’n methu mynychu’r digwyddiad weld sut mae modd iddyn nhw ymuno yn yr ymgyrch trwy fynd at wefan: www.moretreesmoregood.org.uk
Fe all y cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis (Publicity and Public Affairs Officer for Wales) ar 08452 935 738 neu 07760 171174 Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH e-bost roryfrancis@woodland-trust.org.uk
Neu swyddfa’r wasg Coed Cadw yn Grantham sef media@woodland-trust.org.uk neu 01476 581121
Nodiadau i olygyddion
Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 300,000 o aelodau. Mae gan y mudiad dri amcan allweddol, sef: i) galluogi creu rhagor o goedlannau brodorol a lleoedd sy’n frith o goed, ii) diogelu coedlannau a choed brodorol a’r bywyd gwyllt sy’n gysylltiedig â nhw at y dyfodol a iii) ysbrydoli pawb i fwynhau a gwerthfawrogi coedlannau a choed.
Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coedcadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r Oesoedd Canol i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.