Cymraeg
This could be the start of a new ‘age of the tree’ in Wales
The Woodland Trust (Coed Cadw), UK’s leading charity championing native woods and trees, has given a guarded welcome to today’s announcement by Elin Jones, Wales’ Rural Affairs Minister, that the Forestry Commission Wales is to take a more commercial approach to managing Wales’ woodland to deliver greater public benefits, and that widespread sale or disposal of Welsh woodlands has been ruled out.
Jerry Langford, the Trust’s Director in Wales says: “I welcome the Minister’s statement on the considered and enlightened plans for the Assembly Government Woodland Estate, and the admirably clear commitment to enhancing public benefits. I look forward to the Woodland Trust continuing to work with FCW to increase visits to woods, to create more new woodland and most importantly to restore all of our rather meagre surviving heritage of ancient woodland. If these changes do lead to more native woodland creation and a new urgency for the restoration of ancient woodlands planted with conifers, this could be the start of a new ‘age of the tree’ in Wales.”
Wales is one of the least wooded countries in Europe, and the Woodland Trust is campaigning for a doubling of native woodland cover, stressing that this would help us adapt to climate change, soak up CO2 from the atmosphere, provide a renewable source of fuel, improve our quality of life in towns and cities and reduce flood risks as well as providing habitats for threatened wildlife.
In England, where the Government is consulting on more radical plans to lease out very large areas of woodland, the Woodland Trust is running an active campaign to ensure that ancient woods are treated as a special case, that all the Forestry Commission’s damaged ancient woods (defaced by conifers) are restored and that public access to them is guaranteed. The charity is running an epetition in support of this at www.woodlandtrust.org.uk/protect This has already attracted the support of over 80,000 people.
Editors' notes
Elin Jones statement is available online here.
For media enquiries contact:
Rory Francis (Publicity and Public Affairs Officer for Wales) on 08452 935 738 or 07760 171174, Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH Email roryfrancis@woodlandtrust.org.uk
Or Angharad Evans, (Campaigns Officer Wales in Cardiff) on 08452 935 735 or 07774 122802
Or The Woodland Trust Press Office email media@woodland-trust.org.uk or Tel 01476 581121
Coed Cadw (The Woodland Trust)
The Woodland Trust is the UK’s leading charity championing native woods and trees. It has 300,000 members and supporters. The Trust has three key aims: i) to enable the creation of more native woods and places rich in trees; ii) to protect native woods, trees and their wildlife for the future and; iii) to inspire everyone to enjoy and value woods and trees.
Established in 1972, the Woodland Trust now has over 1,000 sites in its care covering approximately 20,000 hectares (50,000 acres). These include over 100 sites in Wales, with a total area of 1,580 hectares (3,900 acres). It offers free public access to nearly all of its sites. The Trust’s Welsh language name, “Coed Cadw”, is an old Welsh term, used in medieval laws to describe protected or preserved woodland.
English
Coed Cadw yn rhoi croeso gofalus i gyhoeddiad Elin Jones am goetir
‘Fe allai hyn fod yn ddechrau oes newydd y goeden’
Mae Coed Cadw (the Woodland Trust), sef y brif elusen yn y DU sy’n siarad dros goedlannau a choed, wedi rhoi croeso gofalus i gyhoeddiad Elin Jones heddiw, y bydd Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn dilyn agwedd mwy masnachol tuag at reoli coetir Cymru, a hynny er mwyn cynnig manteision mwy i’r cyhoedd, a bod y syniad o werthu llawer o goedwigoedd Cymru wedi cael ei wrthod.
Dywedodd Jerry Langford, Cyfarwyddwr Coed Cadw yng Nghymru: “Dwi’n croesawu datganiad y Gweinidog a’i chynlluniau call a goleuedig ar gyfer coedwigoedd y Cynulliad, yn ogystal â’r ymrwymiad clir i wella’r manteision y mae’r cyhoedd yn gael o goetir. Dwi’n edrych ymlaen at weld Coed Cadw’n cydweithio â Chomisiwn Coedwigaeth Cymru i gynyddu nifer y bobl sy’n dod i goedlannau, i greu rhagor o goetir newydd ac yn bwysicaf oll i adfer y darnau bychain o goetir hynafol sydd wedi goroesi. Os bydd y newidiadau hyn yn arwain at greu rhagor o goetir brodorol a mwy o frys wrth adfer coetir hynafol a blannwyd gyda chonwydd conwydd, fe allai hyn fod yn ddechrau ‘oes newydd y goeden’ yng Nghymru.
Mae Cymru’n un o wledydd lleiaf coediog Ewrop ac mae Coed Cadw’n ymgyrchu i ddyblu maint y coetir brodorol y wlad, gan bwysleisio y buasai hyn yn ein helpu i addasu i newid yr hinsawdd, amsugno CO2 o’r awyrgylch, cynnig ffynhonnell adnewyddol o danwydd, gwella ansawdd bywyd mewn trefi a dinasoedd a lleihau’r peryg o lifogydd, yn ogystal â chreu cynefinoedd i fyd natur sydd o dan fygythiad.
Yn Lloegr, mae’r Llywodraeth yn ymgynghori am gynlluniau mwy radical i brydlesu darnau helaeth o goetir. Mae Coed Cadw’n rhedeg ymgyrch gweithgar yna i sicrhau fod coedlannau hynafol yn cael eu trin yn wahanol, fod holl goedwigoedd hynafol sy’n eiddo i’r Comisiwn sydd wedi cael eu plannu gyda choed conwydd yn cael eu hadfer a bod y cyhoedd yn cadw’r hawl i ymweld â nhw. Mae’r elusen yn trefnu e-ddeiseb i gefnogi’r ymgyrch o wefan: www.woodlandtrust.org.uk/protect Mae 80,000 o bobl wedi cefnogi’r ddeiseb yma’n barod.
Fe all y cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis (Publicity and Public Affairs Officer for Wales) ar 08452 935 738 neu 07760 171174, Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH e-bost roryfrancis@woodland-trust.org.uk
Neu Angharad Evans, (Swyddog Ymgyrchoedd yng Nghaerdydd) ar 08452 935 735 neu 07774 122802
Neu swyddfa’r wasg Coed Cadw yn Grantham sef media@woodland-trust.org.uk neu 01476 581121
Nodiadau i olygyddion
1. Mae datganiad Elin Jones ar gael ar-lein yma.
Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r brif elusen yn y DU sy’n siarad dros goedlannau a choed. Mae ganddo 300,000 o aelodau. Mae gan y mudiad dri amcan allweddol, sef: i) galluogi creu rhagor o goedlannau brodorol a lleoedd sy’n frith o goed, ii) diogelu coedlannau a choed brodorol a’r bywyd gwyllt sy’n gysylltiedig â nhw at y dyfodol a iii) ysbrydoli pawb i fwynhau a gwerthfawrogi coedlannau a choed.
Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg yn 2000. Hen derm Cymraeg yw enw Cymraeg y mudiad,“coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r Oesoedd Canol i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.