Cymraeg
Petitioners show a lead by promising to plant a native tree themselves
Official figures show that Wales lags well behind the rest of the UK in creating new native woodland
The Welsh Assembly’s Petitions Committee is to receive and consider a petition signed by over 2000 people, calling on the Welsh Assembly and the Forestry Commission Wales to fulfil their target of creating 1,500 hectares of new woodland over the next three years, as the first step towards a doubling of native woodland cover by 2050. The petition will be delivered to the Assembly on Tuesday 22 September and considered the same day.
The petition has been organised by Coed Cadw (the Woodland Trust) and signatures were collected this summer online through the Assembly’s website and also at the Royal Welsh Show, the National Eisteddfod and the Anglesey Show.
The evidence to be presented in support of the petition points out that creating new native woodland helps meet many of the key challenges that we face as a society, locking up carbon from the atmosphere, helping wildlife adapt to a changing climate, helping to alleviate flooding, providing attractive areas for healthy recreation, improving water quality and providing a renewable supply of timber and biomass for fuel.
However, Forestry Commission figures (1) reveal that Wales is falling well behind the rest of the UK in taking advantage of these opportunities. During 2008-2009 just 100 hectares of new broadleaved woodland was planted in Wales, which is less than a twentieth of that created in England, less than a twentieth of that created in Scotland, and just one third of that created in Northern Ireland, although Northern Ireland is much smaller.
Coed Cadw believes that landowners in Wales do have an appetite for native tree planting, but that the complicated BWW (2) grant system may be putting many of them off. The Woodlands for Wales Strategy, published in March this year contains a commitment to streamline the administration of grant aid for small woodlands, which Coed Cadw hopes will make a big difference.
Anna Heslop, Campaigns Officer for Coed Cadw says: “Collecting these signatures was like pushing at an open door. People know that planting native trees helps provide answers to many of the key challenges we face as a society and they were really keen to sign up. Indeed, over 650 people gave a lead by promising to plant a tree themselves! I just hope that the Assembly and the Forestry Commission will be able to deliver what so many people in Wales are calling for.”
For media enquiries contact:
Or Rory Francis (Publicity and Public Affairs Officer for Wales) on 08452 935 738 or 07760 171174 Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH Email roryfrancis@woodland-trust.org.uk
Or The Woodland Trust Press Office email media@woodland-trust.org.uk or Tel 01476 581121
Notes for editors
1. This figure is taken from the Forestry Commission’s document “Woodland area, planting and restocking” published in June 2009 and available online here.
2. The Better Woodlands for Wales grant scheme, through which grant aid can be provided for woodland management and creation in Wales. The scheme is unlike woodland grant schemes in most of the rest of the UK in that it is exclusively management plan based. More details available on the Forestry Commission website here.
Coed Cadw (The Woodland Trust)
The Woodland Trust is the UK’s leading woodland conservation charity. It has 300,000 members and supporters. The Trust has four key aims: i) No further loss of ancient woodland; ii) Restoring and improving the biodiversity of woods; iii) Increasing new native woodland; iv) Increasing people’s awareness and enjoyment of woodland.
Established in 1972, the Woodland Trust now has over 1,000 sites in its care covering approximately 20,000 hectares (50,000 acres). These include over 100 sites in Wales, with a total area of 1,580 hectares (3,900 acres). It offers free public access to nearly all of its sites. Further news can be accessed via www.coed-cadw.org.uk The Trust adopted its Welsh language name in 2000: “Coed Cadw”. This is an old Welsh term, used in medieval laws to describe protected or preserved woodland.
English
2000 bobl yn gofyn i’r Cynulliad blannu mwy o goed brodorol!
Deisebwyr yn dangos arweiniad trwy addo plannu coeden eu hunain
Ffigyrau swyddogol yn dangos fod Cymru ymhell ar ôl gweddill Gwledydd Prydain o ran creu coetir brodorol newydd
Fe fydd pwyllgor deisebau’r Cynulliad yn derbyn ac ystyried deiseb a lofnodwyd gan dros 2,000 o bobl, yn galw ar y Cynulliad a’r Comisiwn Coedwigaeth i gyflawni eu targed i greu 1,500 o hectarau o goetir brodorol newydd dros y tair blynedd nesaf, fel y cam cyntaf tuag at ddyblu maint y coetir brodorol erbyn 2050. Cyflwynir y ddeiseb i’r Cynulliad Ddydd Mawrth y 22 Medi a’i ystyried ar yr un un diwrnod.
Trefnwyd y ddeiseb gan Goed Cadw (the Woodland Trust) a chasglwyd y llofnodion yr haf yma ar wefan y Cynulliad, ac yn Sioe Frenhinol Amaethyddol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol a Sioe Môn.
Fe fydd y dystiolaeth a gyflwynir gyda’r ddeiseb yn tynnu sylw at y ffaith fod coetir brodorol newydd yn helpu cwrdd â’r sialensiau allweddol rydym yn eu hwynebu fel cymdeithas, gan ei fod yn amsugno carbon o’r awyrgylch, yn helpu bywyd gwyllt i addasu i newid yr hinsawdd, yn helpu atal llifogydd, yn cynnig llefydd deniadol i annog pobl i gadw’n heini trwy ymarfer, yn gwella ansawdd dwr ac yn cynnig cyflenwad adnewyddol o bren a choed tân.
Mae ffigyrau’r Comisiwn Coedwigaeth (1) yn datgelu, fodd bynnag, fod Cymru wedi syrthio ymhell ar ôl gweddill y DU o ran manteisio ar y cyfleoedd hyn. Yn ystod y flwyddyn 2008-2009 plannwyd dim ond 100 o hectarau o goetir brodorol newydd yng Nghymru, sef ugain gwaith yn llai nag yn Lloegr, ugain gwaith yn llai na’r Alban a thair gwaith yn llai na Gogledd Iwerddon, er bod Gogledd Iwerddon yn llai o lawer.
Mae Coed Cadw yn credu fod tirfeddianwyr yng Nghymru yn awyddus i blannu coed, ond fod y system grantiau cymhleth BWW (2) yn ei gwneud hi’n anodd iddyn nhw wneud. Mae Strategaeth Coetir i Gymru, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth eleni, yn cynnwys ymrwymiad i symleiddio grantiau ar gyfer coedlannau bychain ac mae Coed Cadw’n gobeithio y bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth fawr.
Dywed Anna Heslop, Swyddog Ymgyrchoedd ar gyfer Coed Cadw: “Roedd casglu’r llofnodion hyn yn megis gwthio ar ddrws oedd yn gil agored. Mae pobl yn sylweddoli fod plannu coed brodorol yn helpu cynnig atebion i lawer o’r prif sialensiau rydan ni’n wynebu fel cymdeithas. A dweud y gwir, mi roddodd dros 650 o bobl arweiniad trwy addo plannu coeden eu hunain! Dwi jest yn gobeithio fod y Cynulliad a’r Comisiwn Coedwigaeth yn medru cyflawni’r hyn y mae cymaint o bobl yng Nghymru yn galw amdano fo.”
Fe all y cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis (Swyddog Cyfathrebu Cymru) ar 08452 935 860 neu 07760 171174 Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH Email roryfrancis@woodland-trust.org.uk
Swyddfa’r wasg Coed Cadw yn Grantham ar media@woodland-trust.org.uk neu 01476 581121
Neu Anna Heslop, Swyddog Ymgyrchoedd Cymru ar 08452 935 735 neu 07824 416 518
Notes for editors
1. Mae’r ffigwr yma’n dod o ddogfen “” a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2009 gan y Comisiwn Coedwigaeth. Mae’r ddogfen ar gael ar-lein yma.
2. Cynllun Coetiroedd Gwell i Gymru, sy’n cynnig cymorth grant i’r rhai sy’n rheoli neu’n creu coetir yng Nghymru. Mae’r cynllun yn wahanol i’r cynlluniau grant sy’n bod yn y rhan fwyaf o’r DU oherwydd ei fod yn seiliedig yn gyfan gwbl ar gynlluniau rheolaeth. Mae mwy o fanylion ar gael ar wefan Comisiwn Coedwigaeth Cymru yma.
Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 300,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.
Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coedcadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r Oesoedd Canol i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.