Cymraeg
Nathan Sutcliffe, 16, one of Wales’ six Climate Change Champions, will be joining members of the public to plant hundreds of native trees at Coed Ysgubor Wen near Llanegryn
On the very day that winter finally turns to spring (1), Coed Cadw (the Woodland Trust), the UK’s leading woodland conservation charity, is issuing an open invitation to everyone wishing to plant native trees and help improve the environment to join them at Coed Ysgubor Wen, in the Dysynni Valley. The tree planting event takes place between 11am and 3pm on Saturday 20 March.
Coed Ysgubor Wen is a new wood and a special one; the trees planted there count towards the approximately 32,000 trees that the Welsh Assembly Government is planting to mark every birth and adoption in Wales, as part of its Plant! (2) project.
The bad news is that there’s no parking at the site – it is an environmental event, after all! The good news is that Coed Cadw are organising a special free shuttle bus service between the wood and the car park in Bryncrug, calling in at Neuadd Egryn in Llanegryn in between and repeating the journey at approximately 30 minute intervals.
Nathan Sutcliffe, 16 years old, from Dolgellau is one of six young people selected by the Welsh Assembly Government to be a Climate Change Champion (3). The Champions will spread the word about how everyone in Wales can take simple steps to reduce their carbon footprints.
No stranger to tree planting, he says : “My goal is to try to plant 100,000 trees, so any opportunity to promote tree planting, and in turn, environmental awareness, is one worth taking for me. I want to show people that they can participate in local projects that reduce Wales’ carbon footprint.
“I have planted around 3,500 so far and am hoping that my role as a Champion will help to fulfil my target and help preserve Wales’ native woodlands. I feel that the best way to educate people on any subject is by giving them hands on experience, and environmental issues are no exception to this. I hope that plenty of people will attend and gain valuable experience from the event, especially the younger generations. It will give children the opportunity to realise that these kinds of events are not only for adults, and that they can make a difference as well if they try."
Eryl Roberts, Coed Cadw’s Operations Manager for Wales, who is organising the day says: “We’re looking forward to a great day’s tree planting on Saturday, and we’d encourage everyone to come and get involved. We’re asking people to bring stout footware, warm waterproof clothing, a snack or drink if they’re planning to stay for long, a spade if they’ve got one and, most important, lots of enthusiasm!”
Coed Cadw acquired Coed Ysgubor Wen in 2007. Following consultation with the local community it is planting trees, recreating native woodland on the middle slopes of the valley, as still exists in other parts of the valley. The charity aims to plant around 16,000 trees at the site this spring, and also to complete the consolidation of the interesting old farm buildings at Pant Llwyfog, so as to make them safe and prevent further deterioration.
Like almost all other Coed Cadw woods, Coed Ysgubor Wen is open to the public to visit at any time, for free. It has its own website at
www.wt-woods.org.uk/coedysguborwen This includes an interactive map, photographs and the site’s management plan.
For media enquiries contact:
Rory Francis (Publicity and Public Affairs Officer for Wales) on 08452 935 738 or 07760 171174 Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH Email roryfrancis@woodland-trust.org.uk
Or The Woodland Trust Press Office email media@woodland-trust.org.uk or Tel 01476 581121
Or Anna Heslop, Campaigns Officer for Wales, on 08452 935 735 or 07824 416 518
Notes for editors
1. This year’s vernal equinox, when day and night are of equal length, falls on 20 March this year. The vernal equinox is widely seen as the first day of spring.
2. The Plant! project is a Welsh Assembly Government initiative and is being delivered on their behalf by the Woodland Trust and the Forestry Commission.
3. More about Wales’ Climate Change Champions is available online.
Coed Cadw (The Woodland Trust)
The Woodland Trust is the UK’s leading woodland conservation charity. It has 300,000 members and supporters. The Trust has three key aims: i) to enable the creation of more native woods and places rich in trees; ii) to protect native woods, trees and their wildlife for the future and; iii) to inspire everyone to enjoy and value woods and trees.
Established in 1972, the Woodland Trust now has over 1,000 sites in its care covering approximately 20,000 hectares (50,000 acres). These include over 100 sites in Wales, with a total area of 1,580 hectares (3,900 acres). It offers free public access to nearly all of its sites. Further news can be accessed via www.coed-cadw.org.uk The Trust adopted its Welsh language name in 2000: “Coed Cadw”. This is an old Welsh term, used in medieval laws to describe protected or preserved woodland.
English
Pencampwyr plannu coed yn heidio i Ddyffryn Dysynni Ddydd Sadwrn y 20 Mawrth
Fydd Nathan Sutcliffe, 16, un o chwe phencampwr newid hinsawdd Cymru yn ymuno ag aelodau o’r cyhoedd i blannu cannoedd o goed brodorol yng Nghoed Ysgubor Wen ger Llanegryn
Ar yr union ddiwrnod pan fydd y gaeaf i ildio i’r gwanwyn (1), mae Coed Cadw (the Woodland Trust), prif elusen gwarchod coetir y DU, yn gwahodd pawb sydd â’i fryd ar blannu coed brodorol a helpu gwella’r amgylchedd i ymuno â nhw yng Nghoed Ysgubor Wen, yn Nyffryn Dysynni. Cynhelir yr achlysur rhwng 11 y bore a 3 y prynhawn Ddydd Sadwrn y 20fed Mawrth.
Coedlan newydd yw Coed Ysgubor Wen yw, ac un arbennig; mae’r coed sy’n cael eu plannu yna yn cyfri tuag at y 32,000, mwy neu lai, y mae Llywodraeth y Cynulliad yn eu plannu i nodi pob genedigaeth yng Nghymru a phob plentyn sy’n cael ei fabwysiadu, hynny fel rhan o’r prosiect Plant!
Y newyddion drwg yw nad oes modd parcio ceir yn ymyl y safle. Digwyddiad amgylcheddol yw hwn, wedi’r cyfan! Y newyddion da yw y bydd Coed Cadw yn trefnu bws gwennol arbennig rhwng y goedlan a maes parcio Bryncrug, gan alw wrth Neuadd Egryn yn Llanegryn y ffordd, ac yn ail-wneud y daith bob 30 munud.
Mae Nathan Sutcliffe, 16 oed o Ddolgellau, yn un o chwech o bobl ifainc a ddewiswyd gan Lywodraeth y Cynulliad fel pencampwyr newid hinsawdd (3). Mi fydd y pencampwyr ynh lledaenu’r neges am sut y gall pawb yng Nghymru gymryd camau syml i leihau eu hôl traed carbon.
Mae Nathan yn hen gyfarwydd â phlannu coed. Mae’n dweud: “Fy nharged i yw ceisio plannu 100,000 o goed. Felly, mae unrhyw gyfle i blannu coed ac i hybu ymwybyddiaeth amgylcheddol yn werth ei gymryd i fi. Dwi eisio dangos i bobl bod modd cymryd rhan mewn prosiectau lleol amgylcheddol fydd yn lleihau ôl traed carbon Cymru.
“Dwi wedi plannu tua 3,500 o goed yn barod a dwi’n gobeithio y bydd fy ngwaith fel pencampwr yn helpu cyrraedd fy nharged ac yn helpu gwarchod coetir brodorol Cymru. Dwi’n meddwl mai’r ffordd orau i addysgu pobl yw rhoi cyfle iddyn nhw gymryd rhan yn y gwaith eu hun, ac mae hyn yr un mor wir am faterion amgylcheddol. Gobeithio y bydd llwyth o bobl yn mynychu’r diwrnod ac yn cael profiad gwerthfawr, yn enwedig pobl ifainc. Neith o roi cyfle i blant sylweddoli fod digwyddiadau fel hwn yr un mor berthnasol iddyn nhw ag y maen nhw i oedolion, ac bod modd gwneud gwahaniaeth os nhân nhw drio.”
Dywed Eryl Roberts, rheolwr gweithredoedd Coed Cadw yng Nghymru, sy’n trefnu’r diwrnod: “Dan ni’n edrych ymlaen at ddiwrnod gwych yn plannu coed Dydd Sadwrn, a dan ni’n annog pawb i ddod i gymryd rhan. Rydan ni’n annog pobl i ddod ag esgidiau cryf, cotiau glaw, bwyd neu ddiod os ydan nhw’n bwriadu aros yn hir, rhaw os oes gynnon nhw un, ac yn bwysicaf oll, llawer o frwdfrydedd!”
Fe brynodd Coed Cadw Goed Ysgubor Wen yn 2007. Yn dilyn ymgynghoriad gyda’r gymuned leol, mae’n symud ymlaen i blannu coed, gan ail-greu’r coetir brodorol ar lethrau’r dyffryn, fel sy’n dal i fodoli yng nghyffiniau’r safle. Mae’r elusen yn bwriadu plannu tua 16,000 o goed ar y safle'r gwanwyn hwn, a hefyd gorffen atgyfnerthu gweddillion yr hen adeiladau fferm ddiddorol ym Mhant Lwyfog, er mwyn eu gwneud nhw’n ddiogel a sicrhau na fyddan nhw’n dirywio ymhellach.
Fel bron pob un goedlan arall sy’n eiddo i Goed Cadw, mae Coed Ysgubor Wen ar agor i’r cyhoedd ar unrhyw adeg, ac am ddim. Mae ganddo ei wefan ei hun sef:
www.wt-woods.org.uk/coedysguborwen Mae hon yn cynnwys map rhyngweithiol, lluniau a chynllun rheoli’r safle.
Fe all y cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis (Publicity and Public Affairs Officer for Wales) ar 08452 935 738 neu 07760 171174 Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH e-bost roryfrancis@woodland-trust.org.uk
Neu swyddfa’r wasg Coed Cadw yn Grantham sef media@woodland-trust.org.uk neu 01476 581121
Neu Anna Heslop, Swyddog Ymgyrchoedd, ar 08452 935 735 neu 07824 416 518 neu e-bost annaheslop@woodlandtrust.org.uk
Notes for editors
1. Mae cyhydnos y gwanwyn, pan fydd y diwrnod a’r nos yr un hyd, yn digwydd ar yr 20fed o Fawrth eleni. Mae llawer o bobl yn gweld cyhydnos y gwanwyn fel diwrnod cynta’r gwanwyn.
2. Menter gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yw Plant!, a drefnir ar ei rhan gan Goed Cadw a’r Comisiwn Coedwigaeth. Mae mwy o fanylion ar gael ar-lein yma.
3. Mae mwy o wybodaeth am bencampwyr newid hinsawdd Cymru ar gael ar-lein yma.
Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 300,000 o aelodau. Mae gan y mudiad dri amcan allweddol, sef: i) galluogi creu rhagor o goedlannau brodorol a lleoedd sy’n frith o goed, ii) diogelu coedlannau a choed brodorol a’r bywyd gwyllt sy’n gysylltiedig â nhw at y dyfodol a iii) ysbrydoli pawb i fwynhau a gwerthfawrogi coedlannau a choed.
Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coedcadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r Oesoedd Canol i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.