Cymraeg
Hollywood actor Sean Bean is asking the people of Wales to ‘do battle against waste’ and recycle their Christmas cards with the Woodland Trust to help celebrate the last ever year of its annual recycling scheme.
The star of the legendary Sharpe series is urging people to recycle their cards in special bins at TK Maxx1, M&S2 and HomeSense stores this January and then log onto the scheme’s website, which is www.MoreTreesMoreGood.org.uk/cards to choose where in their area they would like trees funded by the scheme to be planted.
Movie legend Sean Bean said: “I would like to urge the people of Wales to be at the sharp end and help the Woodland Trust do battle against Christmas waste this year by recycling all of your Christmas cards with participating retailers in January.
Your support will help fund the planting of thousands of native trees across the UK, something I have personally been involved in and supported as a member of the Trust. You can even choose where you want the trees paid for by the scheme to be planted at MoreTreesMoreGood.org.uk/cards.
This is the final year of the scheme so please do your bit to help it go out with a bang!”
All of the trees planted through the scheme contribute to the Trust’s More Trees More Good campaign, which aims to see 20 million trees planted in the UK each year to help double native woodland cover.
Last year donations from participating retailers enabled 12,000 native trees to be planted in the UK. This year the charity aims to plant the 200,000th tree of the scheme, which is now in its 14th and final year.
Rory Francis, from the Woodland Trust said: “The Trust’s Christmas Card Recycling Scheme has made a huge difference to the UK environment – creating woodland right across the country, which provides huge benefits to communities and wildlife alike. We would like to ask people to make an extra special effort to recycle their cards this year to help celebrate the lasting legacy, which the scheme will leave the UK countryside.”
For more information and to register your vote log onto www.MoreTreesMoreGood.org.uk/cards
Store exclusions
1 – This includes all HomeSense stores and TK Maxx stores in the UK and Northern Ireland only.
2 - All M&S stores including selected M&S Simply Food stores.
For media enquiries contact:
Rory Francis (Publicity and Public Affairs Officer for Wales) on 08452 935 738 or 07760 171174, Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH Email roryfrancis@woodlandtrust.org.uk
Or Alex Claydon, Corporate PR & Communications Manager, on 01476 581112, email: alexclaydon@woodlandtrust.org.uk
Or The Woodland Trust Press Office email media@woodland-trust.org.uk or Tel 01476 581121
Coed Cadw (The Woodland Trust)
The Woodland Trust is the UK’s leading charity championing native woods and trees. It has 300,000 members and supporters. The Trust has three key aims: i) to enable the creation of more native woods and places rich in trees; ii) to protect native woods, trees and their wildlife for the future and; iii) to inspire everyone to enjoy and value woods and trees.
Established in 1972, the Woodland Trust now has over 1,000 sites in its care covering approximately 20,000 hectares (50,000 acres). These include over 100 sites in Wales, with a total area of 1,580 hectares (3,900 acres). It offers free public access to nearly all of its sites. The Trust’s Welsh language name, “Coed Cadw”, is an old Welsh term, used in medieval laws to describe protected or preserved woodland.
English
Sean Bean yn annog Cymru i ailgylchu’r Nadolig yma
Mae’r actor Hollywood Sean Bean yn gofyn i bobl Cymru frwydro yn erbyn gwastraff a hynny trwy ailgylchu eu cardiau Nadolig gyda Choed Cadw i helpu dathlu blwyddyn olaf ei gynllun ailgylchu.
Mae seren y gyfres Sharpe yn annog pobl i ailgylchu eu cardiau mewn biniau arbennig yn siopau TK Maxx1, M&S2 a HomeSense fis Ionawr, ac wedyn i fynd at wefan y cynllun wrth www.MoreTreesMoreGood.org.uk/cards i ddewis ble yn eu hardal nhw maen nhw eisiau gweld coed yn cael eu plannu.
Dywedodd Sean Bean:”Rwyf eisiau annog pobl Cymru i fynd ati i helpu Coed Cadw i frwydro yn erbyn gwastraff trwy ailgylchu eu holl gardiau ‘Dolig yn y siopau perthnasol ym mis Ionawr.
“Gyda’ch cefnogaeth chi fe allwn ni godi’r arian i blannu miloedd o goed brodorol ar draws Gwledydd Prydain, rhywbeth rwyf i wedi cymryd rhan ynddo fe fel aelod o Goed Cadw. Mae modd hyd yn oed dewis lle rydych chi eisiau gweld coed yn cael eu plannu ar wefan MoreTreesMoreGood.org.uk/cards
Dyma flwyddyn ola’r cynllun felly a wnewch chi’n helpu ni i orffen ar nodyn uchel.”
Mae pob coeden a blannir trwy’r cynllun yn cyfrannu at ymgyrch Coed Cadw ‘Trwy Wydd Ddaw Budd’, sy’n anelu at blannu 20 miliwn o goed trwy Wledydd Prydain bob flwyddyn er mwyn helpu dyblu maint y coetir brodorol sydd gennym.
Yn llynedd codwyd digon o gyfraniadau o’r siopau a gymerodd ran i blannu 12,000 coeden frodorol ar hyd Gwledydd Prydain. Eleni mae’r elusen â’i fryd ar blannu’r 200,000fed goeden fel rhan o’r cynllun, sydd bellach yn ei 14eg flwyddyn a’i flwyddyn olaf.
Dywed Rory Francis o Goed Cadw: “Mae cynllun ailgylchu cardiau Nadolig Coed Cadw wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i amgylchedd Cymru – gan greu coetir ar draws y wlad, sy’n cynnig manteision i gymunedau a byd natur. Hoffen ni ofyn i bobl wneud ymdrech fawr i ailgylchu eu cardiau eleni i helpu dathlu’r etifeddiaeth y bydd y cynllun yn ei adael ar ei ôl.”
Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru’ch pleidlais chi, ewch at: www.MoreTreesMoreGood.org.uk/cards
Nodiadau i olygyddion
1. Mae hyn yn cynnwys pob siop HomeSense a TK Maxx yn y DU a Gogledd Iwerddon, yn unig.
2. Pob siop M&S gan gynnwys rhai siopau M&S Simply Food.
Fe all y cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis (Publicity and Public Affairs Officer for Wales) ar 08452 935 738 neu 07760 171174, Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH e-bost roryfrancis@woodland-trust.org.uk
Neu Alex Claydon, Rheolwr Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus Corfforaethol, ar 01476 581112, e-bost: alexclaydon@woodlandtrust.org.uk
Neu Angharad Evans, (Swyddog Ymgyrchoedd yng Nghaerdydd) ar 08452 935 735 neu 07774 122802
Neu swyddfa’r wasg Coed Cadw yn Grantham sef media@woodland-trust.org.uk neu 01476 581121
Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r brif elusen yn y DU sy’n siarad dros goedlannau a choed. Mae ganddo 300,000 o aelodau. Mae gan y mudiad dri amcan allweddol, sef: i) galluogi creu rhagor o goedlannau brodorol a lleoedd sy’n frith o goed, ii) diogelu coedlannau a choed brodorol a’r bywyd gwyllt sy’n gysylltiedig â nhw at y dyfodol a iii) ysbrydoli pawb i fwynhau a gwerthfawrogi coedlannau a choed.
Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg yn 2000. Hen derm Cymraeg yw enw Cymraeg y mudiad,“coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r Oesoedd Canol i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.