Cymraeg
Over 100,000 native trees now planted as part of the Assembly Government’s Plant! scheme – one for every child born in Wales since January 2008
Children from Ysgol Llanegryn in Gwynedd took part in a tree planting day with a difference last week, being joined by none other than Siôn Corn, or Father Christmas. It all took place at Coed Ysgubor Wen, a Woodland Trust (Coed Cadw) wood near Llanegryn. And while the weather was indeed reminiscent of Lapland, the 12 children still succeeded in planting around 200 trees.
It was all part of the Plant! project, under which the Welsh Assembly Government has a tree planted for every child born or adopted in Wales. The aim is to build a stronger connection between people and their environment and to improve native habitats, allowing parents to play their part in nurturing a healthy planet in which their child and their tree is growing.
The scheme started in January 2008 and over 100,000 native trees have been planted so far. The scheme is being delivered on behalf on behalf of the Assembly Government by Coed Cadw (The Woodland Trust) and the Forestry Commission Wales. Each child receives a certificate stating where their tree will be planted (1). By planting a tree to celebrate the birth or adoption of every child in Wales, Plant! is creating new woodlands for future generations.
The original idea for the scheme came from a Cardiff schoolgirl, Natalie Vaughan, 11 who wrote to her Assembly Member, Sue Essex, suggesting that planting a tree for every child born or adopted would be a good way to make young people think about their environment and the role they have in preserving it. The Welsh Assembly Government decided to run with the idea and it is now being delivered on their behalf by the Forestry Commission Wales and Coed Cadw (the Woodland Trust).
Notes for editors
1. The 100,000 trees planted so far are in three new woods, Cefn Ila near Usk and Coed Ysgubor Wen near Tywyn, which are both in the care of the Woodland Trust, and Coed Bryn Oer near Tredegar which is managed by Blaenau Gwent and Caerphilly Councils. All the sites are open to the public at any time, and for free.
2. More details of the Plant! initiative are available online here
For media enquiries contact:
Or Rory Francis (Publicity and Public Affairs Officer for Wales) on 08452 935 738 or 07760 171174, Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH Email roryfrancis@woodlandtrust.org.uk
Or Angharad Evans, (Campaigns Officer Wales in Cardiff) on 08452 935 735 or 07774 122802
Or The Woodland Trust Press Office email media@woodland-trust.org.uk or Tel 01476 581121
Coed Cadw (The Woodland Trust)
The Woodland Trust is the UK’s leading charity championing native woods and trees. It has 300,000 members and supporters. The Trust has three key aims: i) to enable the creation of more native woods and places rich in trees; ii) to protect native woods, trees and their wildlife for the future and; iii) to inspire everyone to enjoy and value woods and trees.
Established in 1972, the Woodland Trust now has over 1,000 sites in its care covering approximately 20,000 hectares (50,000 acres). These include over 100 sites in Wales, with a total area of 1,580 hectares (3,900 acres). It offers free public access to nearly all of its sites. The Trust’s Welsh language name, “Coed Cadw”, is an old Welsh term, used in medieval laws to describe protected or preserved woodland.
English
Ho, ho, ho – Siôn Corn cymryd seibiant byr i helpu plant Gwynedd i blannu coed
Plannwyd dros 100,000 o goed brodorol gan Lywodraeth y Cynulliad bellach – un i bob plentyn sydd wedi cael ei eni ers mis Ionawr 2008.
Fe gafodd plant o Ysgol Llanegryn yng Ngwynedd gyfle i gymryd rhan mewn diwrnod plannu coed gwahanol yr wythnos ddiwethaf, gyda neb llai na Siôn Corn ei hun. Fe ddigwyddodd y cyfan yng Nghoed Ysgubor Wen, sef coedlan sy’n eiddo i Goed Cadw ger Llanegryn. Ac er bod y tywydd yn weddol debyg i Lapland, fe lwyddodd y plant i blannu rhyw 200 o goed.
Roedd y cyfan yn rhan o gynllun Plant! Dyma gynllun gan Lywodraeth y Cynulliad i blannu coeden i bob plentyn sy’n cael ei eni neu ei fabwysiadu yng Nghymru. Bwriad y prosiect yw helpu i gryfhau'r berthynas rhwng pobl Cymru a'u hamgylchedd ac yn gwella cynefinoedd brodorol, gan roi cyfle i rieni wneud eu rhan i feithrin planed iach lle mae eu plentyn a'u coeden yn tyfu.
Lansiwyd y cynllun ym mis Ionawr 2008 a phlannwyd dros 100,000 o goed brodorol erbyn hyn. Mae’r cynllun yn cael ei redeg gan Goed Cadw (the Woodland Trust) a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru ar ran Lywodraeth y Cynulliad. Mae pob plentyn yn derbyn tystysgrif yn nodi ble mae eu coeden hwy wedi cael ei phlannu (1). Drwy blannu coeden i nodi genedigaeth neu achlysur mabwysiadu pob plentyn yng Nghymru, bydd Plant! yn creu coetiroedd newydd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Cafwyd y syniad gwreiddiol ar gyfer y cynllun gan Natalie Vaughan, merch ysgol 11 oed o Gaerdydd, a ysgrifennodd at Sue Essex, ei Haelod Cynulliad, gan awgrymu y byddai plannu coeden ar gyfer pob plentyn a gâi ei eni neu ei fabwysiadu yn ffordd dda o wneud i bobl ifanc feddwl am eu hamgylchedd a'u rôl hwy yn y gwaith o'i ddiogelu. Fe benderfynodd Llywodraeth y Cynulliad gefnogi’r syniad ac mae o bellach yn cael ei wireddu ar eu rhan gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru a Choed Cadw (the Woodland Trust).
Nodiadau i olygyddion
1. Mae’r 100,000 o goed a blannwyd hyd yn hyn mewn tair coedlan, Cefn Ila ger Brynbuga a Choed Ysgubor Wen ger Tywyn, ill dau yng ngofal Coed Cadw, a Choed Bryn Oer ger Tredegar sy’n cael ei reoli gan Gyngor Blaenau Gwent a Chaerffili. Mae’r holl safleoedd ar agor i’r cyhoedd ar unrhyw adeg, a hynny am ddim.
2. Mae rhagor o fanylion am gynllun Plant! ar gael yma
Fe all y cyfryngau gysylltu a:
Rory Francis (Publicity and Public Affairs Officer for Wales) ar 08452 935 738 neu 07760 171174, Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH e-bost roryfrancis@woodland-trust.org.uk
Neu Angharad Evans, (Swyddog Ymgyrchoedd yng Nghaerdydd) ar 08452 935 735 neu 07774 122802
Neu swyddfa’r wasg Coed Cadw yn Grantham sef media@woodland-trust.org.uk neu 01476 581121
Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r brif elusen yn y DU sy’n siarad dros goedlannau a choed. Mae ganddo 300,000 o aelodau. Mae gan y mudiad dri amcan allweddol, sef: i) galluogi creu rhagor o goedlannau brodorol a lleoedd sy’n frith o goed, ii) diogelu coedlannau a choed brodorol a’r bywyd gwyllt sy’n gysylltiedig â nhw at y dyfodol a iii) ysbrydoli pawb i fwynhau a gwerthfawrogi coedlannau a choed.
Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg yn 2000. Hen derm Cymraeg yw enw Cymraeg y mudiad,“coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r Oesoedd Canol i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.