Cymraeg
Evidence includes preventing flooding and combating climate change
Coed Cadw (the Woodland Trust) has today (19 January) given evidence to the Welsh Assembly’s Petitions Committee, to outline the many benefits that would result from a doubling of native tree cover in Wales, and how the Assembly could set about achieving that aim by 2050.
The charity laid out detailed evidence of how more trees would help prevent flooding, improve our quality of life and combat climate change.
Over the summer of 2009, over 2000 people signed up to a petition organised by Coed Cadw calling on the Welsh Assembly to double Wales’ native woodland cover. Over 650 people even showed the Assembly an example by promising to plant a tree themselves.
Coed Cadw’s oral evidence was by Jerry Langford, the charity’s director in Wales, and Anna Heslop, its campaigns officer. The footage can be viewed on the Assembly website here.
The submission deals specifically with how Wales could practically achieve a doubling of native woodland cover. It stresses stressed that:
• A huge number of trees could be planted on farmland, in small copses and strips, sheltering stock and helping to avoid flooding and improving water quality. This approach has been tried and tested in Wales by the pioneering Pontbren scheme (1) in Powys.
• There is great potential for planting on the edges of towns and settlements for community and recreational benefits.
• On the upland fringe, on low quality and inaccessible agricultural land, for example bracken land. A natural trend back towards more native tree cover is already apparent in these landscapes
• The restoration of ancient woodlands planted with confers in the past, in line with the Forestry Commission’s policies, could deliver around 28,000 ha of additional native woodland
• Thousands of trees could be planted on private and institutional land managed for non farming purposes
The paper also stresses that:
• Wales is one of the least wooded countries in Europe, with just 14 per cent landscape woodland compared to the EU average of 32 per cent. And less than half of this 14 per cent is actually native woodland.
• The area of native woodland planting in Wales has been declining in recent years, with just around 100 ha in 2008-09, compared to 500 ha in 2005-6. This may be due largely to a change in the grant scheme for woodland creation, making it much more complicated for farmers to apply for grant for this. However, the Assembly is optimistic that the planting rate will increase during the coming year.
• There is, however, a huge potential to increase the level of tree planting in Wales, by incorporating tree planting as a key element of the new agri-environmental scheme, Glastir.
Coed Cadw's full evidence to the Committee is available online here.
For media enquiries contact:
Anna Heslop, Campaigns Officer for Wales, on 08452 935 735 or 07824 416 518
Or Rory Francis (Publicity and Public Affairs Officer for Wales) on 08452 935 738 or 07760 171174 Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH Email roryfrancis@woodland-trust.org.uk
Or The Woodland Trust Press Office email media@woodland-trust.org.uk or Tel 01476 581121
Notes for editors
1. More details of this project available online at: www.pontbrenfarmers.co.uk
Coed Cadw (The Woodland Trust)
The Woodland Trust is the UK’s leading woodland conservation charity. It has 300,000 members and supporters. The Trust has four key aims: i) No further loss of ancient woodland; ii) Restoring and improving the biodiversity of woods; iii) Increasing new native woodland; iv) Increasing people’s awareness and enjoyment of woodland.
Established in 1972, the Woodland Trust now has over 1,000 sites in its care covering approximately 20,000 hectares (50,000 acres). These include over 100 sites in Wales, with a total area of 1,580 hectares (3,900 acres). It offers free public access to nearly all of its sites. Further news can be accessed via www.coed-cadw.org.uk The Trust adopted its Welsh language name in 2000: “Coed Cadw”. This is an old Welsh term, used in medieval laws to describe protected or preserved woodland.
English
Rhoddir 2000 o resymau i’r Cynulliad blannu rhagor o goed brodorol
Mae’r dystiolaeth yn cynnwys lleihau llifogydd a mynd i’r afael â newid yr hinsawdd
Mae Coed Cadw (the Woodland Trust) wedi rhoi tystiolaeth i bwyllgor deisebau’r Cynulliad heddiw (19 Ionawr), i amlinelli’r manteision lu fuasai’n dod yn sgîl dyblu maint y coetir brodorol yng Nghymru, a sut y gallai’r Cynulliad fynd ati i wireddi hyn erbyn 2050.
Fe roddodd yr elusen dystiolaeth fanwl gerbron, gan amlinelli sut y buasai rhagor o goed yn helpu i leihau llifogydd, gwella ansawdd dwr a mynd i’r afael â newid yr hinsawdd.
Dros haf 2009, fe arwyddodd dros 2000 o bobl ddeiseb a drefnwyd gan Goed Cadw yn galw ar y Cynulliad i ddyblu maint y coetir brodorol yng Nghymru. Fe ddangosodd dros 650 o bobl esiampl i’r Cynulliad trwy addo plannu coeden eu hunain.
Roddwyd y dystiolaeth lafar Coed Cadw gan Jerry Langford, cyfarwyddwr yr elusen yng Nghymru, ac Anna Heslop, sydd yn swyddog ymgyrchoedd. Gellir gweld y cyflwyniad a’r drafodaeth wedyn ar-lein yma.
Mae’r ddogfen a gyflwynwyd yn amlinelli sut y gallai Cymru, yn gwbl ymarferol, ddyblu maint y coetir brodorol. Mae’n pwysleisio:
• Y gellid plannu llawer o goed ar ffermdir, mewn lleiniau a choedlannau bychain, gan ddarparu cysgod i dda byw a helpu i osgoi llifogydd a gwella ansawdd dwr. Mae’r syniadau hyn wedi cael eu profi yng Nghymru gan gynllun Pontbren (1) ym Mhowys.
• Mae yna botensial mawr i blannu ar ochrau trefi a phentrefi gan ddarparu caffaeliad hamdden i gymunedau lleol.
• Gellir plannu coed mewn rhannau o’r ucheldir, ar dir o ansawdd isel sy’n anodd ei gyrraedd, gan gynnwys tir a orchuddir gan redyn ar hyn o bryd. Gellir gweld fod yna dueddiad naturiol tuag at ragor o goed yn y tirweddau hyn.
• Gellir creu tua 28,000 o hectarau o goetir brodorol ychwanegol trwy adfer coetir hynafol sydd wedi cael ei blannu gyda choed conwydd yn y gorffennol, yn unol â pholisi’r Comisiwn Coedwigaeth.
• Gellid plannu miloedd o goed ar dir sy’n eiddo i gyrff preifat a sefydliadau eraill, sy ddim yn cael ei ffermio.
Mae’r ddogfen yn pwysleisio hefyd:
• Fod Cymru yn un o wledydd lleiaf coediog Ewrop, gyda dim ond 14 y cant o’r tirwedd yn goetir, o’i gymharu â’r cyfartaledd Ewropeaidd o 32 y cant. Ac mae llai na hanner y 14 y cant yma’n goetir brodorol.
• Mae maint y coetir brodorol sy’n cael ei blannu yng Nghymru wedi bod yn disgyn yn y blynyddoedd diwethaf, gyda dim ond 100 ha yn 2008-9, o’i gymharu â 500 hectar yn 2005-6. Mae’n bosibl fod hyn yn ganlyniad i newid yn y cynllun grant ar gyfer creu coetir, sy’n ei gwneud hi’n fwy cymhleth i ffermwyr wneud hyn. Fodd bynnag, mae’r Cynulliad yn optimistaidd y bydd yna gynnydd mewn plannu yn y flwyddyn sydd i ddod.
• Mae yna botensial mawr i blannu mwy o goed yng Nghymru, trwy wneud plannu coed yn elfen allweddol o’r cynllun amaeth-amgylcheddol newydd, Glastir.
Mae tystiolaeth lawn Coed Cadw i'r pwyllgor ar gael arlein yma.
Fe all y cyfryngau gysylltu â:
Anna Heslop, Swyddog Ymgyrchoedd, ar 08452 935 735 neu 07824 416 518 neu e-bost annaheslop@woodlandtrust.org.uk
Neu Rory Francis (Swyddog Cyfathrebu Cymru) ar 08452 935 738 neu 07760 171174 Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH e-bost roryfrancis@woodlandtrust.org.uk
Neu swyddfa’r wasg Coed Cadw yn Grantham sef media@woodlandtrust.org.uk neu 01476 581121
Nodiadau i olygyddion
1. Mae rhagor am hyn ar gael wrth wefan: www.pontbrenfarmers.co.uk
Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 300,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.
Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coedcadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r Oesoedd Canol i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.