Become a member
Print this page

2,000 people call on the Welsh Assembly to plant more native trees

Cymraeg

Welsh language songster Gai Toms signs up to lend his support

Over 2,000 people have now signed a petition organised by Coed Cadw (the Woodland Trust) calling on the Welsh Assembly to plant more native trees – including Welsh language ska rock musician Gai Toms.

The signatures have been collected this summer at the Royal Welsh Show, the National Eisteddfod, the Anglesey Show and online at the Welsh Assembly’s website at: www.assemblywales.org/gethome/e-petitions.htm

The petition calls on the National Assembly for Wales to urge the Welsh Government and the Forestry Commission to fulfil their stated target to create 1,500 hectares (4,500 acres) of new woodland over the next three years as the first step towards a doubling of native woodland cover by 2050.

Gai Toms signed the petition on his way to a gig on the National Eisteddfod field in Bala and issued a rallying call to others. 

He said: “Planting trees are one of the few practical ways ways we have to literally take CO2 out of the atmosphere and lock it up securely as wood. It’s also important to remember that native woodland and trees create an ideal habitat for much of our threatened wildlife.

“Wales is among the least wooded countries in Europe and I for one fully support efforts to create more native woodland.”
After 16 years of pleasing audiences throughout Wales, UK, and Europe with his Welsh language ska rock band, Anweledig, Blaenau Ffestiniog based Gai Toms' latest solo album - “Rhwng y Llygru a’r Glasu”, was an eco concept album. He is currently recording a new one -"Ffish Ffresh", due out later in the year." (1)

The petition is still open for the public to sign at:
www.assemblywales.org/gethome/e-petitions.htm It closes at the end of August and is due to be submitted to the Assembly, and discussed by the Assembly’s Petititions Committee during the autumn.

For media enquiries contact:
Or Rory Francis (Publicity and Public Affairs Officer for Wales) on 08452 935 738 or 07760 171174 Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH  Email roryfrancis@woodland-trust.org.uk

Or The Woodland Trust Press Office email media@woodland-trust.org.uk or Tel 01476 581121

Notes for editors
1. Roughly translated, this means:  ‘In between the age of pollution and the age of green ideology’
2. Gai Toms’ website is at: www.myspace.com/gaitoms

Coed Cadw (The Woodland Trust)
The Woodland Trust is the UK’s leading woodland conservation charity. It has 300,000 members and supporters. The Trust has four key aims: i) No further loss of ancient woodland; ii) Restoring and improving the biodiversity of woods; iii) Increasing new native woodland; iv) Increasing people’s awareness and enjoyment of woodland.

Established in 1972, the Woodland Trust now has over 1,000 sites in its care covering approximately 20,000 hectares (50,000 acres). These include over 100 sites in Wales, with a total area of 1,580 hectares (3,900 acres). It offers free public access to nearly all of its sites. Further news can be accessed via www.coed-cadw.org.uk The Trust adopted its Welsh language name in 2000: “Coed Cadw”. This is an old Welsh term, used in medieval laws to describe protected or preserved woodland.

 English

2,000 o bobl yn gofyn i Gynulliad Cymru blannu mwy o goed brodorol

Y cerddor Gai Toms yn arwyddo i gefnogi’r ymgyrch

Mae dros 2,000 o bobl wedi arwyddo deiseb a drefnir gan Goed Cadw (the Woodland Trust) i erfyn ar Gynulliad Cymru i blannu rhagor o goed brodorol – gan gynnwys y cerddor roc a ska Cymraeg Gai Toms.

Mae’r llofnodion wedi cael eu casglu dros yr haf yn Sioe Frenhinol Amaethyddol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol, Sioe Môn ac ar-lein ar wefan y Cynulliad sef:
www.assemblywales.org/gethome/e-petitions.htm

Mae’r ddeiseb yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i annog Llywodraeth y Cynulliad a’r Comisiwn Coedwigaeth i gyflawni eu targed nhw i greu 1,500 o hectarau (sef 4,500 o aceri) o goetir newydd dros y tair blynedd nesaf, fel y cam cyntaf tuag at ddyblu gorchudd coetir brodorol erbyn 2050.

Fe arwyddodd Gai Toms y ddeiseb ar ei ffordd i gig ar faes Yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala, gan erfyn ar eraill i wneud yr un peth.

 “Mae plannu coed yn un o’r ychydig o ffyrdd ymarferol sydd gynnon ni i dynnu CO2 allan o’r awyrgylch a’i gloi i fyny’n ddiogel fel coed. Mae’n bwysig i gofio fod coetir a choed brodorol yn creu cynefin delfrydol i lawer o’n bywyd gwyllt sydd o dan fygythiad.

“Mae Cymru’n un o wledydd lleiaf coediog Ewrop a dwi’n cefnogi ymdrechion i greu mwy o goetir brodorol.”

Ar ôl plesio cynulleidfaoedd trwy Gymru, Gwledydd Prydain ac Ewrop am ryw 16 flwyddyn gyda’i grŵp ska roc - Anweledig, mae Gai Toms, sydd yn hanu o Flaenau Ffestiniog, fe gyhoeddodd yr Albym ecosyniadol “Rhwng y Llygru a’r Glasu”. Mae o bellach yn recordio un newydd, sef “Ffish Ffresh”, sydd i fod i ddod nes ymlaen eleni. 1

Mae’r ddeiseb yn dal ar agor i’r cyhoedd i arwyddo wrth:
http://www.cynulliadcymru.org/gethome/e-petitions.htm  Mae’n cau ddiwedd mis Awst ac fe gaiff ei chyflwyno i’r Cynulliad, a’i thrafod gan y Pwyllgor Deisebau yn yr hydref.

Fe all y cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis (Swyddog Cyfathrebu Cymru) ar 08452 935 860  neu 07760 171174  Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd  LL41 3RH  Email roryfrancis@woodland-trust.org.uk

Swyddfa’r wasg Coed Cadw yn Grantham ar media@woodland-trust.org.uk neu 01476 581121

Neu Anna Heslop, Swyddog Ymgyrchoedd Cymru ar 08452 935 735 neu 07824 416 518

Nodiadau ar gyfer golygyddion

1. Mae gwefan Gai Toms wrth: www.myspace.com/gaitoms


Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 300,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.

Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coedcadw.org.uk   Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r Oesoedd Canol i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.

25/08/2009

Welsh songster Gai Toms signs up to the petition on the way to a gig at the National Eisteddfod

Cymraeg

 

The Woodland Trust is the UK's leading woodland conservation charity.

The Woodland Trust is a charity registered in England and Wales (No. 294344) and in Scotland (No. SC038885).
A non-profit making company limited by guarantee. Registered in England No. 1982873.
Registered office: Kempton Way, Grantham, Lincolnshire, NG31 6LL.
The Woodland Trust logo is a registered trademark.
Contact us | FAQs | E-newsletter | Privacy & cookie policyAccessibility | DDA | Images © protected Woodland Trust

©2012 The Woodland Trust