Cymraeg
Nathan Sutcliffe 16 from Dolgellau, one of Wales’ climate change champions says: “My personal goal is to plant 150,000 trees across Wales. What’s yours?”
The Woodland Trust (Coed Cadw) is calling for a massive increase in tree planting in Wales with a new campaign entitled ‘More Trees, More Good’, or in Welsh ‘Trwy Wydd Ddaw Budd’. Today, the Trust's President Clive Anderson outlined its aims and painted an ambitious picture of what the charity hopes to achieve over the next 50 years.
Clive said: “Research gathered over recent years has highlighted the countless essential benefits to people, wildlife and the environment that come from planting trees and creating new woodland habitats.” To maximise these the UK needs to plant 20 million native trees per year – but at the moment we’re planting just 6 million.
“The simple act of planting trees unleashes a host of benefits: in just 12 years they become beautiful woodland, home to a vast array of wildlife and places where children can play, adults reflect, birds and plant life flourish and communities come together. They lock up carbon, are a natural defence against flooding, provide shelter from the elements and offer a sustainable supply of eco-friendly fuel.”
A public opinion survey commissioned by the Trust and completed this month shows that 72% agree the UK needs more trees.
In March this year, Wales’ Rural Affairs Minister Elin Jones announced a target of creating 100,000 ha of new woodland in Wales over the coming 20 years, as part of wider plans to help mitigate and adapt to climate change.
Wales, alongside the rest of the UK, is one of the least wooded countries in Europe, with just half the European average for tree cover.
The Woodland Trust is today highlighting two Welsh case studies of landowners, one farmer and one local authority, who have planted many thousands of trees, because it meets their own objectives as well as improving the local and wider environment.
Robin Crossley (1), who runs a 400 ha farm at Llangernyw in north Wales has planted 10,000 trees on his farm this spring, most of them native. Most of the native woodland Robin has planted is made up field corners and fairly thin strips. He has created around 4.5 acres (1.8 ha) of mixed woodland this year, and while this will help to keep the farm viable, it means more than just that to him. “I see it as a legacy to the future”, he says. “People who come down the road from Llansannan could see nothing 30 years ago. Now they see a wooded landscape, that changes throughout the year.” Timber also forms part of the farm business.
Robin concludes: “My feeling is that if Welsh farmers are given half decent incentives to create and manage their woodlands, using Glastir money, they’ll respond.”
Wrexham County Borough Council (2) adopted a Strategy for Council Trees in 2008. This commits the Council to planting 100 new standard size trees every 2 years starting in 2009, concentrating on parks, open space, schools and amenity areas. There is also a commitment to: “Increase tree cover on public land within the County Borough through planned tree planting schemes, particularly in built up areas”, and also to “Concentrate our efforts on replacement of felled trees in particular built up areas, if conditions are suitable.” The Council has a proven record of tree planting in the recent past, as it has planted well over 2000 new urban trees during the last 5 years.
In the foreword to the document, Council leader Aled Roberts says: “Trees define our communities, form our landscape, improve the quality of our air and are essential for much of our wildlife... We are committed to improving the quality of the environment of Wrexham and trees form a very important part of this work.”
One person who is supporting the campaign is Nathan Sutcliffe, 16, from Dolgellau, one of six young people selected by the Welsh Assembly Government to be a Climate Change Champion (3).
He has supported the campaign by appearing in a campaign video also featuring Clive Anderson and Sandi Toksvig, now available on You Tube. Nathan rounds off the video, saying: “My personal goal is to plant 150,000 trees across Wales. What’s yours?”
‘More Trees More Good’ offers a range of support to enable individuals and organisations to plant their own trees:
For larger tree planting schemes, there is a team of expert advisers who will make site visits to offer guidance on planting trees and accessing government funding.
For smaller schemes, the Trust works in partnership with landowners by supplying expertise and sharing some of the costs through the MoreWoods programme.
For schools and community groups, the campaign provides free or reduced-price tree packs.
Members of the public and companies can also help with the costs of the campaign. £6.7m is needed over the next 18 months.
A donation of as little as £10 enables us to plant four trees, £50 provides a free tree pack to a school and £150 pays for a tree pack for a whole community to start their own wood.
To find out which tree best suits your character go to www.MoreTreesMoreGood.org.uk and take our fun quiz. You can also download a leaf mask of your chosen tree to wear as a great way to show your support for the campaign.
For media enquiries contact:
Rory Francis (Publicity and Public Affairs Officer for Wales) on 08452 935 738 or 07760 171174 Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH Email roryfrancis@woodland-trust.org.uk
Or The Woodland Trust Press Office email media@woodland-trust.org.uk or Tel 01476 581121
Or Anna Heslop, Campaigns Officer for Wales, on 08452 935 735 or 07824 416 518
Notes for editors
1. There is more about the tree planting Robin Crossley has carried out on this farm here.
2. There is more about what Wrexham Council's Tree Strategy here.
3. The rôle of Climate Change Champions is to spread the word about how everyone in Wales can take simple steps to reduce their carbon footprints. More here.
English
Clive Anderson yn lansio cynllun plannu coed uchelgeisiol sy’n tanlinelli’r manteision go iawn o ran iechyd, bywyd gwyllt, yr economi a’r amgylchedd
Dywed Nathan Sutcliffe, 16 oed o Ddolgellau, un o bencampwyr newid hinsawdd Cymru: “Fy nharged i yw plannu 150,000 o goed ar draws Cymru. Be’ di’ch targed chi?
Mae Coed Cadw (the Woodland Trust) yn galw am gynnydd mawr o ran plannu coed yng Nghymru gydag ymgyrch newydd o’r enw ‘Trwy Wydd Ddaw Budd’, neu yn Saesneg ‘More Trees More Good’. Heddiw, fe amlinellodd Clive Anderson, Llywydd y mudiad, ei amcanion, gan beintio pictiwr uchelgeisiol o’r hyn y mae’r elusen yn gobeithio ei gyflawni dros yr 50 mlynedd nesaf.
Dywedodd Clive: “Mae ymchwil a gasglwyd dros y blynyddoedd diwethaf yn tanlinelli’r manteision lu o bobl, byd natur a’r amgylchedd sy’n dod yn sgil plannu coed a chreu cynefinoedd coetir newydd. “I fanteisio ar y rhain yn llawn, rhaid inni blannu 20 miliwn o goed brodorol bob blwyddyn. Ond ar hyn o bryd dim ond 6 miliwn sy’n cael eu plannu.
“Mae’r weithred syml o blannu coed yn dod â llwyth o fanteision: mewn cyn lleied â 12 mlynedd maen nhw’n datblygu i fod yn goetir hardd, yn gartref i lwyth o fywyd gwyllt ac yn lleoedd i blant chwarae, i oedolion feddwl, i adar a phlanhigion ffynnu ac i gymunedau ddod at ei gilydd. Maen nhw’n cloi carbon i fyny, yn ein hamddiffyn yn erbyn llifogydd, yn cynnig cysgod o’r gwynt a’r glaw ac yn darparu cyflenwad diddiwedd o danwydd sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd.”
Mae pôl piniwn a gomisiynwyd gan Goed Cadw ac a gyflawnwyd yn ystod y mis diwethaf yn dangos fod 72% o bobl Gwledydd Prydain yn cefnogi’r neges y dylid cael mwy o goed.
Ym mis Fawrth eleni, fe gyhoeddodd Elin Jones, y Gweinidog dros Faterion Gwledig, darged i blannu 100,000 o hectarau o goetir newydd yng Nghymru dros yr 20 mlynedd nesaf a hynny fel rhan o gynlluniau ehangach i helpu atal newid yr hinsawdd, ac addasu iddo fo.
Mae Cymru, fel gweddill Gwledydd Prydain, yn un o wledydd lleiaf coediog Ewrop, gyda rhyw hanner cymaint o goetir â’r cyfartaledd Ewropeaidd.
Heddiw mae Coed Cadw yn cyhoeddi dwy enghraifft o dirfeddianwyr Cymreig, un ffermwr ac un awdurdod lleol, sydd wedi plannu miloedd lawer o goed, oherwydd bod hyn yn cwrdd â’u hamcanion nhw yn ogystal â gwella’r amgylchedd lleol a rhyngwladol.
Mae Robin Crossley (1), sy’n rhedeg fferm 400 erw yn Llangernyw, wedi plannu 10,000 o goed y gwanwyn yma, y rhan fwyaf ohonyn nhw’n rhai brodorol. Mae’r rhan fwyaf o’r coetir brodorol y mae Robin wedi’i blannu yn gorneli caeau a lleiniau gweddol denau. Mae o wedi creu rhyw 4.5 erw (1.8 ha) o goetir cymysg eleni, a thra bydd hyn yn helpu i gadw’r fferm yn hyfyw, mae’n golygu mwy na hynny iddo fo. “Dwi’n ei weld fel rhodd i’r dyfodol”, meddai fo. Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, doedd pobl oedd yn dod lawr y ffordd o Lansannan yn gweld dim byd. Rŵan maen nhw’n gweld tirwedd coediog fydd yn gweld trwy’r flwyddyn.” Mae pren yn rhan o fusnes y fferm, fferm.
Mae Robin yn crynhoi: “Yn ‘ym marn i, os bydd ffermwyr Cymru’n cael cynnig ysgogiad go iawn i greu a rheoli eu coedlannau, gan ddefnyddio pres Glastir, mi wnân nhw ymateb.”
Fe fabwysiadodd Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Wrecsam (2)Strategaeth ar gyfer coed sy’n eiddo i’r cyngor yn 2008. Mae hyn yn ymrwymo’r Cyngor i blannu 100 o goed safonol newydd bob dwy flynedd, gan ddechrau yn 2009, gan ganolbwyntio ar barciau, lleoedd agored, ysgolion ac ardaloedd cyhoeddus. Mae yna ymrwymiad i: “Canolbwyntio ein hymdrechion ar gynlluniau mewn ardaloedd trefol”, a hefyd i “Ganolbwyntio ar blannu coed mewn ardaloedd lle cwympwyd coed mewn ardaloedd trefol, os ydi’r amgylchiadau’n ffafriol.” Mae’r cyngor wedi bod yn brysur yn plannu yn y gorffennol, gan blannu ymhell dros 2000 o goed mewn ardaloedd gwledig dros y pum mlynedd ddiwethaf.
Yn rhagair y ddogfen, dywed Aled Roberts, Arweinydd y Cyngor: “Mae coed yn diffinio ein cymunedau, yn ffurfio ein tirlun, yn gwella ansawdd ein hawyr ac yn hanfodol i lawer o'n bywyd gwyllt..... Yr ydym yn ymroddedig i wella ansawdd amgylchedd Wrecsam ac mae coed yn ffurfio rhan bwysig iawn o'r gwaith yma.”
Un person sy’n cefnogi’r ymgyrch yw Nathan Sutcliffe, 16 oed, o Ddolgellau, un o chwech person ifanc a ddewiswyd gan Lywodraeth y Cynulliad i fod yn bencampwyr Newid Hinsawdd(3).
Mae o wedi gwneud hyn trwy ymddangos mewn fideo am yr ymgyrch, sydd hefyd yn cynnwys Clive Anderson a Sandi Toksvig, sydd ar gael ar You Tube bellach. Nathan yw’r siaradwr olaf ar y fideo ac mae’n dweud: “Fy nharged i yw plannu 150,000 o goed ar draws Cymru. Be’ di’ch targed chi?”.
Mae Trwy’r Wydd Ddaw Budd yn cynnig cefnogaeth i alluogi unigolion a mudiadau i blannu coed eu hunain:
Ar gyfer cynlluniau mwy, mae yna dîm o gynghorwyr arbenigol fydd yn mynd allan i gynnig cyngor ar blannu coed a sicrhau arian arian o’r Llywodraeth am wneud.
Ar gyfer cynlluniau llai, mae Coed Cadw yn gweithio gyda thirfeddianwyr trwy gynnig arbenigedd a rhannu rhai o’r costau trwy gynllun YCHWANEGoed.
Ar gyfer ysgolion a grwpiau cymunedol, mae’r ymgyrch yn cynnig pecynnau coed rhad, neu am ddim.
Fe all aelodau unigolion a chwmnïau helpu trwy gyfrannu at gost yr ymgyrch. Mae angen codi £6.7m dros y 18 mis nesaf.
Mae cyfraniad o gyn lleied â £10 yn ein galluogi i blannu pedair coeden. Mae £50 yn darparu pecyn coed am ddim i ysgol ac mae £150 yn talu am becyn coed i gymuned gyfan blannu coedlan eu hunain.
I weld pa goeden sy’n siwtio’ch cymeriad chi, ewch at www.MoreTreesMoreGood.org.uk a gwnewch y cwis, sydd yn lot o hwyl. Mae modd dadlwytho mwgwd o’r goeden a ddewisoch chi, i’w wisgo i ddangos cefnogaeth i’r ymgyrch.
Fe all y cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis (Publicity and Public Affairs Officer for Wales) ar 08452 935 738 neu 07760 171174 Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH e-bost roryfrancis@woodland-trust.org.uk
Neu swyddfa’r wasg Coed Cadw yn Grantham sef media@woodland-trust.org.uk neu 01476 581121
Neu Anna Heslop, Swyddog Ymgyrchoedd, ar 08452 935 735 neu 07824 416 518 neu e-bost annaheslop@woodlandtrust.org.uk416 518
Nodiadau i olygyddion
1. Mae yna fwy am y gwaith plannu mae Robin Crossley wedi'i wneud yma.
2. Mae yna fwy am Strategaeth Coed Cyngor Wrecsam yma. 3. Swyddogaeth Pencampwyr Newid Hinsawdd is lledaenu’r neges y gall pawn yng Ngymru gymryd camau syml i leihau eu hôl traed carbon. Mwy yma.