Become a member
Print this page

Snowdonia wood with its own railway wins Royal Welsh accolade

Woodland Trust is just the ticket in coveted woodland award

 Cymraeg

A beautiful woodland in Snowdonia, which boasts a narrow gauge tourist railway alongside, has scooped the prestigious Gold award at the Royal Welsh Show for the best managed woodland between four and 40 hectares.

In awarding the prize to the Woodland Trust (Coed Cadw), the judges dubbed the wood, Coed Hafod y Llyn in Maentwrog: “The most aesthetically pleasing woodland of all the classes entered in the competition. A wonderful example of majestic, well-thinned conifers ... blending in with broadleaf woodland to produce a most pleasing result.”

The woodland officer responsible for the wood is Rhydian Roberts. Speaking following the award ceremony he said: “Coed Hafod y Llyn is a wonderful wood, an example of what the Woodland Trust does best. It is one of many which we have been restoring to native woodland to increase its value for wildlife, whilst also welcoming the public to come and enjoy this beautiful part of the Snowdonia National Park. I am honoured to win this award and share the limelight with other notable private estates in Wales, especially considering the strength of the competition.”

Coed Hafod y Llyn stands on the shore of Llyn Mair about half a mile to the west of Maentwrog in the Snowdonia National Park. Defined as ancient woodland, it has been wooded for at least 400 years, and probably a great deal longer.  By the mid 19th century it had become a much prized part of the Tan y Bwlch estate, belonging to the Oakeley family who owned slate quarries in nearby Blaenau Ffestiniog. A number of specimen trees were planted, notably Douglas fir, and some of these can still be seen today as venerable ancient trees, which form part of this historic landscape.  Coed Hafod y Llyn still includes an ornamental pond which also dates from this period, which the Woodland Trust maintains.

One unusual feature of Coed Hafod y Llyn is that the historic Ffestiniog Railway snakes along its boundary on its long climb from Porthmadog up to Blaenau Ffestiniog. As a result, some 200,000 visitors a year get a chance to enjoy the area’s picturesque beauty, while some take the opportunity to make use of the railway halts to enjoy a woodland walk while leaving their car elsewhere.

In 1968-69 Coed Hafod y Llyn was extensively planted with conifers, in line with the thinking of the day. This endangered the rich diversity of plant and wildlife in the area.  Since acquiring this wood in 1987, Coed Cadw has made it a priority to restore it to its former broadleaved glory. The conifers have been extensively thinned so as allow space for natural regeneration of native trees such as oak and birch. 

Coed Cadw acquired the 17 hectare (42 acre) Coed Hafod y Llyn in 1987 with support from the Countryside Commission, the Snowdonia National Park Authority and the Michael Marks Trust. Like all Woodland Trust woods it is open for the public to visit at any time, for free and it has its own website at www.wt-woods.org.uk/coedhafodyllyn   There are parking facilities near Llyn Mair on the B4410 at grid reference SH653 413.  

For media enquiries contact:
Rory Francis (Publicity and Public Affairs Officer for Wales) on 08452 935 738 or 07760 171174 Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH  Email roryfrancis@woodland-trust.org.uk

Or the Woodland Trust Press Office email media@woodland-trust.org.uk or Tel 01476 581121

Or Anna Heslop, Campaigns Officer for Wales, on 08452 935 735 or 07824 416 518

Coed Cadw (The Woodland Trust)
The Woodland Trust is the UK’s leading woodland conservation charity. It has 300,000 members and supporters. The Trust has four key aims: i) No further loss of ancient woodland; ii) Restoring and improving the biodiversity of woods; iii) Increasing new native woodland; iv) Increasing people’s awareness and enjoyment of woodland.

Established in 1972, the Woodland Trust now has over 1,000 sites in its care covering approximately 20,000 hectares (50,000 acres). These include over 100 sites in Wales, with a total area of 1,580 hectares (3,900 acres). It offers free public access to nearly all of its sites. Further news can be accessed via www.coed-cadw.org.uk The Trust adopted its Welsh language name in 2000: “Coed Cadw”. This is an old Welsh term, used in medieval laws to describe protected or preserved woodland.

 

English

Coedlan yn Eryri, sydd gyda rheilffordd ei hun, yn ennill bri yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru

Coed Cadw yn cipio gwobr coetir ar gyfer Coed Hafod y Llyn, Maentwrog

Mae coedlan hardd yn Eryri, sydd â thrên bach yn rhedeg wrth ei hochr, wedi ennill gwobr aur yn Sioe Frenhinol Amaethyddol Cymru, fel y goedlan rhwng pedwar a 40 hectar sy’n cael ei reoli orau.

Wrth roi’r wobr i Goed Cadw (the Woodland Trust), mi ddisgrifiodd y beirniaid Goed Hafod y Llyn fel: “Y goedlan sy’n plesio mwyaf o ran golwg o holl ddosbarthiadau’r gystadleuaeth. Enghraifft wych o goed conwydd godidog, wedi’u rheoli’n dda ... yn gweddi gyda choetir brasddeiliog i greu canlyniad dymunol dros ben.”

Y swyddog coedlannau sy’n gyfrifol sy’n gyfrifol am y goedlan yw Rhydian Roberts. Yn siarad ar ôl derbyn y wobr, mi ddywedodd o: “Mae Coed Hafod y Llyn yn goedlan fendigedig ac yn enghraifft o’r hyn y mae Coed Cadw yn ei wneud orau. Mae hon yn un o lawer o goedlannau rydan ni wedi bod yn eu hadfer i goetir brodorol i gynyddu eu gwerth i fyd natur, wrth groesawu’r cyhoedd i fwynhau’r ardal hardd hon o Barc Cenedlaethol Eryri. Dwi wrth fy modd i ennill y wobr ac i rannu’r sylw gyda nifer o ystadau preifat mwyaf nodedig Cymru, yn enwedig o ystyried pa mor ddwys oedd y gystadleuaeth.”

Saif Coed Hafod y Llyn ar lan Llyn Mair tua hanner milltir i’r gorllewin i Faentwrog.  Wedi’u diffinio fel coetir hynafol, maen nhw wedi bod yn goediog ers o leiaf 400 o flynyddoedd, a mwy na thebyg yn hirach o lawer na hyn.  Erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedden nhw wedi dod yn rhan bwysig iawn o stad Tan y Bwlch, oedd yn nwylo teulu Oakeley oedd yn berchen ar chwareli ym Mlaenau Ffestiniog gerllaw.  Plannwyd nifer o goed enghreifftiol, yn enwedig ffynidwydd Douglas, ac mae rhai o’r rhain i’w gweld o hyd heddiw fel coed hynafol urddasol, sy’n ffurfio rhan o’r tirlun hanesyddol hwn.  Mae Coed Hafod y Llyn yn dal i gynnwys pwll dwr addurnol sy’n dyddio o’r un cyfnod, y mae Coed Cadw yn ei gynnal.
 
Un peth nodweddiadol am Goed Hafod y Llyn yw’r ffaith fod Rheilffordd Ffestiniog yn ymdroelli ar ei hyd wrth ddringo i fyny i Flaenau Ffestiniog o Borthmadog.  Fel canlyniad, mae tua 200,000 o ymwelwyr bob blwyddyn yn cael y cyfle i fwynhau harddwch darluniadwy'r ardal, tra bod rhai yn manteisio ar y cyfle i ddefnyddio gorsafoedd y rheilffordd i fwynhau taith yn y coetir tra’n gadael y car yn rhywle arall.
 
Yn rhwng 1968 a 1969 plannwyd Coed Hafod y Llyn gyda choed conwydd, yn unol â syniadau’r oes.  Fe rodd hyn blanhigion a bywyd gwyllt yr ardal o dan fygythiad.  Ers prynu’r goedlan yn 1987, mae hi wedi bod yn flaenoriaeth gan Goed Cadw i adfer y goedlan i’w gogoniant collddail blaenorol.  Mae’r conwydd wedi cael eu teneuo er mwyn gadael lle i goed brodorol megis coed derw a bedw i ail-dyfu. 

Fe brynodd Coed Cadw Goed Hafod y Llyn, sydd yn 17 hectar (42 acer) o faint yn 1987, gyda chefnogaeth y Comisiwn Cefn Gwlad, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac Ymddiriedolaeth Michael Marks.  Mae o ar agor i’r cyhoedd ymweld â fo ar unrhyw adeg, am ddim ac mae ganddo ei wefan ei hun sef:
www.wt-woods.org.uk/coedhafodyllyn  Mae yna gyfleusterau parcio ger Llyn Mair ar y B4410 wrth gyfeirnod grid SH 653 413.

Fe all y cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis (Swyddog Cyfathrebu Cymru) ar 08452 935 860  neu 07760 171174  Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd  LL41 3RH  Email roryfrancis@woodland-trust.org.uk

Swyddfa’r wasg Coed Cadw yn Grantham ar media@woodland-trust.org.uk neu 01476 581121

Neu Anna Heslop, Swyddog Ymgyrchoedd Cymru ar 08452 935 735 neu 07824 416 518


Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 300,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.

Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coedcadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r Oesoedd Canol i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.

 

29/07/2009

Llyn Mair from Coed Hafod y Llyn

Cymraeg

The Woodland Trust is the UK's leading woodland conservation charity.

The Woodland Trust is a charity registered in England and Wales (No. 294344) and in Scotland (No. SC038885).
A non-profit making company limited by guarantee. Registered in England No. 1982873.
Registered office: Kempton Way, Grantham, Lincolnshire, NG31 6LL.
The Woodland Trust logo is a registered trademark.
Contact us | FAQs | E-newsletter | Privacy & cookie policyAccessibility | DDA | Images © protected Woodland Trust

©2012 The Woodland Trust