Become a member
Print this page

Dame Judi Dench asks Wales to recycle this Christmas

Cymraeg

Cinema legend is urging people to recycle their cards with the Woodland Trust

Film legend Dame Judi Dench is urging Welsh people to recycle their Christmas cards with the Woodland Trust and then choose where in their area they would like trees funded by the scheme to be planted.

The Oscar winning actress is asking Welsh people to support the UK’s leading woodland conservation charity by recycling their Christmas cards in special bins at WHSmith (1), TK Maxx  (2) and Marks & Spencer3, throughout January

After recycling your cards, simply log onto www.woodlandtrust.org.uk/cards and choose which UK region you would like the Woodland Trust to plant trees in, with funding provided by the retail partners.

Dame Judi Dench said: “We all enjoy giving and receiving Christmas cards, well thanks to the Woodland Trust there is the chance for a second giving and receiving opportunity this year. I would like to challenge people in Wales to give to the environment, recycle their cards and then receive trees for their environment by going to www.woodlandtrust.org/cards and choosing where the new trees generated by this year’s recycling should be planted!”    

Across the UK since the Woodland Trust started its Christmas Card Recycling Scheme, a total of 659m cards have been recycled - 59m last year alone, which funded the planting of 14,000 trees.

In the 12 years of the project, 13,080 tonnes of cards have been collected, allowing the Trust to plant 155,000 trees

Rory Francis, from the Woodland Trust said: “Each year we value the wonderful support from everyone who recycles their Christmas cards with the Trust, which makes a huge difference to our work! This is why we want to say a big thank you this year by giving people the opportunity to choose where their trees are planted.”

For more information and to register your vote log onto www.woodlandtrust.org.uk/cards

For media enquiries contact:

Rory Francis (Publicity and Public Affairs Officer for Wales) on 08452 935 738 or 07760 171174 Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH  Email roryfrancis@woodland-trust.org.uk

Or Alex Claydon - corporate PR & communications officer, on 08452 935 605/ 07737 597 298/ 01476 581 112. Or  email: alexclaydon@woodlandtrust.org.uk

Or The Woodland Trust Press Office email media@woodland-trust.org.uk or Tel 01476 581121

Or Anna Heslop, Campaigns Officer for Wales, on 08452 935 735 or 07824 416 518

Store exclusions

1. UK mainland WHSmith high street stores only – (excludes all WHSmith Travel stores, Isle of Wight, Belfast and Channel Islands).

2. This includes all HomeSense stores and TK Maxx stores in the UK and Northern Ireland only.

3. All M&S stores including selected M&S Simply Food stores.

Coed Cadw (The Woodland Trust)

The Woodland Trust is the UK’s leading woodland conservation charity. It has 300,000 members and supporters. The Trust has four key aims: i) No further loss of ancient woodland; ii) Restoring and improving the biodiversity of woods; iii) Increasing new native woodland; iv) Increasing people’s awareness and enjoyment of woodland.

Established in 1972, the Woodland Trust now has over 1,000 sites in its care covering approximately 20,000 hectares (50,000 acres). These include over 100 sites in Wales, with a total area of 1,580 hectares (3,900 acres). It offers free public access to nearly all of its sites. Further news can be accessed via www.coed-cadw.org.uk The Trust adopted its Welsh language name in 2000: “Coed Cadw”. This is an old Welsh term, used in medieval laws to describe protected or preserved woodland.

English

Y Foneddiges Judi Dench yn gofyn i Gymru ailgylchu'r Nadolig yma

Seren y sinema yn annog pobl i ailgylchu eu cardiau Nadolig gyda Coed Cadw

Mae’r Foneddiges Judi Dench, seren y sinema, yn annog Cymry i ailgylchu eu cardiau Nadolig gyda Coed Cadw, ac i ddewis lle yn y wlad maen nhw am i’r coed sy’n cael eu hariannu gan y cynllun i gael eu plannu.

Mae’r actores, sydd wedi ennill Oscar, yn gofyn i Gymry gefnogi prif elusen gwarchod coetir y DU a hynny trwy ailgylchu eu cardiau Nadolig mewn biniau arbennig yn siopau WHSmith (1), TK Maxx  (2) a Marks & Spencer (3), trwy gydol mis Ionawr.  

Ar ôl ailgylchu’ch cardiau, ewch at wefan:

www.woodlandtrust.org.uk/cards  a dewiswch ym mha ranbarth o’r DU rydych chi am i Goed Cadw blannu coed, gydag arian a ddarperir gan y siopau sy’n cymryd rhan.

Dywed y Foneddiges Judi Dench: “Rydyn ni i gyd yn mwynhau rhoi a derbyn cardiau Nadolig. Yn awr, diolch i Goed Cadw, mae modd eu rhoi nhw unwaith eto. Dwi eisiau herio pobl Cymru i roi anrheg i’r amgylchedd trwy ailgylchu eu cardiau ac wedyn derbyn coed i’w hamgylchedd lleol trwy fynd at wefan www.woodlandtrust.org/cards a dewis lle, yn eu tyb nhw, y dylid plannu’r coed sy’n cael eu hariannu gan y cynllun ailgylchu eleni!”

Ers lansio Cynllun Ailgylchu Cardiau Nadolig Coed Cadw, ail-gychwyd cyfanswm o 659m o gardiau ar draws Gwledydd Prydain - 59 miliwn y llynedd yn unig! Defnyddiwyd yr arian yma i blannu 14,000 o goed.  

Casglwyd 13,080 o dunelli o gardiau dros y 12 mlynedd ddiwethaf, gan alluogi Coed Cadw i blannu 155,000 o goed.

Dywed Rory Francis o Goed Cadw: “Bob blwyddyn rydan ni’n gwerthfawrogi’r gefnogaeth wych rydan ni’n gael o bawb sy’n ailgylchu eu cardiau Nadolig efo Coed Cadw. Mae hyn yn gwneud gwahaniaeth fawr i’n gwaith ni! Dyna pam rydan ni eisio diolch yn fawr eleni trwy roi cyfle i bobl ddewis lle maen nhw eisio gweld eu coed yn cael eu plannu.”

Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru’ch pleidlais, ewch at: www.woodlandtrust.org.uk/cards

Fe all y cyfryngau gysylltu â:

Rory Francis (Publicity and Public Affairs Officer for Wales) ar 08452 935 738 neu 07760 171174 Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH  e-bost roryfrancis@woodlandtrust.org.uk

Neu Alex Claydon - swyddog cyfathrebu corfforaethol a chysylltiadau cyhoeddus, ar 08452 935 605/ 07737 597 298/ 01476 581 112. Neu e-bost: alexclaydon@woodlandtrust.org.uk

Neu swyddfa’r wasg Coed Cadw yn Grantham sef media@woodlandtrust.org.uk neu 01476 581121

Neu Anna Heslop, Swyddog Ymgyrchoedd, ar 08452 935 735 neu 07824 416 518 neu e-bost annaheslop@woodlandtrust.org.uk

Eithriadau

  1. Mae’r cynllun yn cynnwys siopau WHSmith ar y stryd fawr yn unig. Nid yw’n cynnwys siopau teithio, Ynys Wyth, Belfast neu Ynysoedd y Sianel.
  2. Mae’r cynllun yn cynnwys pob siop HomeSense a TK Maxx yn y DU a Gogledd Iwerddon, ond nid y rhai y tu allan.
  3. Yn cynnwys pob siop M&S gan gynnwys ambell i siop Simply Food hefyd.

Coed Cadw (The Woodland Trust)

Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 300,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.

Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coedcadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r Oesoedd Canol i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.

 

22/12/2009
Dame Judi Dench challenges Welsh people to recycle their Christmas cards
The Woodland Trust is the UK's leading woodland conservation charity.

The Woodland Trust is a charity registered in England and Wales (No. 294344) and in Scotland (No. SC038885).
A non-profit making company limited by guarantee. Registered in England No. 1982873.
Registered office: Kempton Way, Grantham, Lincolnshire, NG31 6LL.
The Woodland Trust logo is a registered trademark.
Contact us | FAQs | E-newsletter | Privacy & cookie policyAccessibility | DDA | Images © protected Woodland Trust

©2012 The Woodland Trust