Cymaeg
Jane Hutt AM visits Casehill Wood, a Woodland Trust wood in at Dinas Powys, Vale of Glamorgan
Vale of Glamorgan AM Jane Hutt, who has recently been appointed as the Welsh Assembly Minister for Business and Budget, visited Casehill Wood, Dinas Powys last Wednesday, seeing the grove of trees that she and other AMs planted back in 2001 to mark the creation of the Welsh Assembly.
Between 1996 and 2001 the Woodland Trust (Coed Cadw) was able to acquire four adjoining pieces of land, Casehill Wood, Cwm George, Pen y Turnpike Woods and Casehill Meadow, with the support of the local community. Two of these were ancient woodland sites and two of them grassland. They now form a 200 acre interlocking jigsaw of ancient woodland, newly planted woodland and pasture, creating an important wildlife habitat and a superb recreational facility for local people.
In November 2001, 12 members of the Welsh Assembly, including Jane Hutt herself, planted a grove of trees at Casehill Meadow. Today, just eight years later, these trees are now around 10 foot tall, making Casehill Meadow a young woodland rather than a field.
Jane Hutt comments: “It was great to see how the saplings we planted just eight years ago are have now become a young woodland. Native woodland has a huge amount to offer in terms of improving the local environment, providing habitats for wildlife, alleviating flooding and absorbing CO2 from the atmosphere as well as giving local people and visitors the opportunity to enjoy and learn about woodland.
“I am very much aware that the Woodland Trust was only able to purchase these woods because of the generous support of local people, and I commend everyone who supported the local appeals that made this possible.”
Like almost all Coed Cadw woods, Casehill Wood is open to the public to visit at any time, for free and has its own website, containing an interactive map, management plan and lots more at www.wt-woods.org.uk/cwmgeorgeandcasehillwoods
For media enquiries contact:
Rory Francis (Publicity and Public Affairs Officer for Wales) on 08452 935 738 or 07760 171174 Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH Email roryfrancis@woodland-trust.org.uk
Or The Woodland Trust Press Office email media@woodland-trust.org.uk or Tel 01476 581121
Or Anna Heslop, Campaigns Officer for Wales, on 08452 935 735 or 07824 416 518
Coed Cadw (The Woodland Trust)
The Woodland Trust is the UK’s leading woodland conservation charity. It has 300,000 members and supporters. The Trust has four key aims: i) No further loss of ancient woodland; ii) Restoring and improving the biodiversity of woods; iii) Increasing new native woodland; iv) Increasing people’s awareness and enjoyment of woodland.
Established in 1972, the Woodland Trust now has over 1,000 sites in its care covering approximately 20,000 hectares (50,000 acres). These include over 100 sites in Wales, with a total area of 1,580 hectares (3,900 acres). It offers free public access to nearly all of its sites. Further news can be accessed via www.coed-cadw.org.uk The Trust adopted its Welsh language name in 2000: “Coed Cadw”. This is an old Welsh term, used in medieval laws to describe protected or preserved woodland.
English
O gae i goedlan mewn wyth mlynedd yn unig...
Jane Hutt AC yn dod i Casehill Wood, sef coedlan Coed Cadw ym Mro Morgannwg
Fe wnaeth Jane Hutt, Aelod y Cynulliad dros Fro Morgannwg, sydd newydd gael ei phenodi yn weinidog dros Fusnes a’r Gyllideb, ymweld â Casehill Wood, Dinas Powys Dydd Mercher diwethaf, gan weld y coed a blannwyd gan nifer o Aelodau o’r Cynulliad yn 2001, a hithau yn eu plith, i ddathlu creu Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Rhwng 1996 a 2001 fe brynodd Coed Cadw bedwar darn gwahanol o dir, sy’n ffinio ar ei gilydd, sef Casehill Wood, Cwm George Wood, Pen y Turnpike a Casehill Meadow, a hynny gyda chefnogaeth y gymuned leol. Roedd dau o’r rhain yn goedlannau hynafol a dau yn laswelltir. Bellach maen nhw’n ffurfio jig-so o goetir hynafol, coetir brodorol newydd a phorfeydd, gan greu cynefin pwysig i fyd natur a chaffaeliad hamdden gwych o bobl leol.
Ym mis Tachwedd 2001, fe blannodd 12 aelod o’r Cynulliad, gan gynnwys Jane Hutt ei hun, gelli o goed yn Casehill Meadow. Heddiw, wyth mlynedd wedyn, mae’r coed yma rhyw 10 troedfedd o uchder, gan wneud Casehill Meadow yn goedlan newydd yn hytrach na chae.
Dywed Jane Hutt: “Roedd o’n wych i weld sut mae’r glasbrennau a blannon ni wyth mlynedd yn ôl wedi dod yn goedlan ifanc erbyn hyn. Mae gan goetir brodorol gymaint i’w gynnig o ran gwella’r amgylchedd lleol, gan ddarparu cynefin i fyd natur, lleddfu llifogydd ac amsugno C02 o’r awyrgylch, yn ogystal â chynnig cyfle i bobl leol ac ymwelwyr fwynhau a dysgu am goetir.
“Dwi’n ymwybodol iawn fod Coed Cadw wedi llwyddo i brynu’r coetir yma oherwydd cefnogaeth hael pobl leol, a dwi’n canmol pawb a gefnogodd yr ymgyrchoedd a wnaeth hyn yn bosibl.”
Fel bron pob coedlan arall sy’n eiddo i Goed Cadw, mae Casehill Wood ar agor i’r cyhoedd trwy’r amser, ac am ddim. Mae gan y safle ei wefan ei hun, gyda map rhyngweithredol, cynllun rheolaeth a llawer mwy wrth:
www.wt-woods.org.uk/cwmgeorgeandcasehillwoods
Fe all y cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis (Publicity and Public Affairs Officer for Wales) ar 08452 935 738 neu 07760 171174 Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH e-bost roryfrancis@woodlandtrust.org.uk
Neu Anna Heslop, Swyddog Ymgyrchoedd, ar 08452 935 735 neu 07824 416 518 neu e-bost annaheslop@woodlandtrust.org.uk
Neu swyddfa’r wasg Coed Cadw yn Grantham sef media@woodlandtrust.org.uk neu 01476 581121
Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 300,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.
Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coedcadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r Oesoedd Canol i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.