Cymraeg
As National Tree Week begins, 100,000 families will soon have received a certificate confirming that a native tree has been planted for their child
Since January 2008 the Welsh Assembly Government has planted a native tree for every child born or adopted in Wales. The project is called Plant! and as we approach National Tree Week, which runs from 25 November to the 5 December, the 100,000th certificate is soon to be posted out.
The project aims to build a stronger connection between people and their environment and to improve native habitats, allowing parents to play their part in nurturing a healthy planet in which their child and their tree is growing. Each child receives a certificate stating where their tree will be planted2. By planting a tree to celebrate the birth or adoption of every child in Wales, Plant! is creating new woodlands for future generations.
The original idea for the scheme came from a Cardiff schoolgirl, Natalie Vaughan, 11 who wrote to her Assembly Member, Sue Essex, suggesting that planting a tree for every child born or adopted would be a good way to make young people think about their environment and the role they have in preserving it. The Welsh Assembly Government decided to run with the idea and it is now being delivered on their behalf by the Forestry Commission Wales and Coed Cadw (the Woodland Trust).
One parent who particularly appreciated the planting of a tree for their child is Wenna Gregory of Cardiff, who teaches biology at Bryntirion School in Bridgend. Her son Mostyn was born 18 months ago. Wenna is someone who recognises the importance of trees. Her school is in the process of planting its own orchard, while the family planted an apple tree in their own garden when Mostyn was born.
She says of the Plant! scheme: “I was so surprised and pleased to hear that a tree had been planted on behalf of my son. Thank you very much to the Welsh Assembly for such a wonderful and forward looking scheme. I feel very proud to be part of a country that values it natural heritage in this way.”
Notes for editors
1. First mounted in 1975 and run by the Tree Council, National Tree Week is UK's largest tree celebration annually launching the start of the winter tree planting season. It runs from 27 November to the 5 December. More background is available online here.
2. The 100,000 trees planted so far are in three new woods, Cefn Ila near Usk and Coed Ysgubor Wen near Tywyn, which are both in the care of the Woodland Trust, and Coed Bryn Oer near Tredegar which is managed by Blaenau Gwent and Caerphilly Councils. All the sites are open to the public at any time, and for free.
3. More details of the Plant! initiative are available online here.
For media enquiries contact:
Or Rory Francis (Publicity and Public Affairs Officer for Wales) on 08452 935 738 or 07760 171174, Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH Email roryfrancis@woodlandtrust.org.uk
Or Angharad Evans, (Campaigns Officer Wales in Cardiff) on 08452 935 735 or 07774 122802
Or The Woodland Trust Press Office email media@woodland-trust.org.uk or Tel 01476 581121
Coed Cadw (The Woodland Trust)
The Woodland Trust is the UK’s leading charity championing native woods and trees. It has 300,000 members and supporters. The Trust has three key aims: i) to enable the creation of more native woods and places rich in trees; ii) to protect native woods, trees and their wildlife for the future and; iii) to inspire everyone to enjoy and value woods and trees.
Established in 1972, the Woodland Trust now has over 1,000 sites in its care covering approximately 20,000 hectares (50,000 acres). These include over 100 sites in Wales, with a total area of 1,580 hectares (3,900 acres). It offers free public access to nearly all of its sites. The Trust’s Welsh language name, “Coed Cadw”, is an old Welsh term, used in medieval laws to describe protected or preserved woodland.
English
Llywodraeth y Cynulliad yn cyfleu neges gyda choed!
Wrth i Wythnos Genedlaethol y Coed ddechrau, fe fydd 100,000 o deuluoedd wedi derbyn tystysgrif cyn bo hir yn cadarnhau fod coeden frodorol wedi cael ei phlannu ar gyfer eu plentyn
Ers mis Ionawr 2008 mae Llywodraeth y Cynulliad wedi plannu coeden frodorol i bob plentyn sy wedi cael ei eni neu ei fabwysiadu yng Nghymru. Enw’r prosiect yw Plant! ac wrth i wythnos genedlaethol y coed ddechrau ar y 25 Tachwedd, fe gaiff y 100,000fed tystysgrif ei phostio allan cyn bo hir.
Bwriad y prosiect yw helpu i gryfhau'r berthynas rhwng pobl Cymru a'u hamgylchedd ac yn gwella cynefinoedd brodorol, gan roi cyfle i rieni wneud eu rhan i feithrin planed iach lle mae eu plentyn a'u coeden yn tyfu. Mae pob plentyn yn derbyn tystysgrif yn nodi ble mae eu coeden hwy wedi cael ei phlannu2. Drwy blannu coeden i nodi genedigaeth neu achlysur mabwysiadu pob plentyn yng Nghymru, bydd Plant! yn creu coetiroedd newydd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Drwy blannu coeden i nodi genedigaeth neu achlysur mabwysiadu pob plentyn yng Nghymru, mae Plant! yn creu coetiroedd newydd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Cafwyd y syniad gwreiddiol ar gyfer y cynllun gan Natalie Vaughan, merch ysgol 11 oed o Gaerdydd, a ysgrifennodd at Sue Essex, ei Haelod Cynulliad, gan awgrymu y byddai plannu coeden ar gyfer pob plentyn a gâi ei eni neu ei fabwysiadu yn ffordd dda o wneud i bobl ifanc feddwl am eu hamgylchedd a'u rôl hwy yn y gwaith o'i ddiogelu. Fe benderfynodd Llywodraeth y Cynulliad gefnogi’r syniad ac mae o bellach yn cael ei wireddu ar eu rhan gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru a Choed Cadw (the Woodland Trust).
Un rhiant a werthfawrogodd hyn yn arbennig oedd Wenna Gregory o Gaerdydd, sy’n dysgu bioleg yn Ysgol Bryntirion ym Mhenybont-ar-owgr. Ganwyd ei mab Mostyn 18 mis yn ôl. Mae Wenna yn rhywun sy’n gwerthfawrogi pwysigrwydd coed. Mae ei hysgol ei wrthi’n awr yn plannu perllan, tra bod y teulu wedi plannu coeden afalau yn eu gardd eu hunain pan gafodd Mostyn ei eni.
Mae’n dweud am gynllun Plant!: “Roedd yn syndod, ac yn bleser mawr i fi glywed fod coeden wedi cael ei phlannu ar gyfer fy mab i. Diolch o galon i Gynulliad Cymru am greu cynllun mor oleuedig, mor wych. Dwi’n teimlo’n falch i fod yn rhan o genedl sy’n gwerthfawrogi ei hetifeddiaeth fel hyn.”
Nodiadau i olygyddion
1. Dechreuwyd Wythnos Genedlaethol y Coed yn 1975, a dyma’r dathliad blynyddol mwyaf o goed, a gynhelir ar ddechrau’r tymor plannu. Mae’n rhedeg o’r 27 Tachwedd tan y 5ed o Ragfyr. Mae rhagor ar gael yma.
2. Mae’r 100,000 o goed a blannwyd hyd yn hyn mewn tair coedlan, Cefn Ila ger Brynbuga a Choed Ysgubor Wen ger Tywyn, ill dau yng ngofal Coed Cadw, a Choed Bryn Oer ger Tredegar sy’n cael ei reoli gan Gyngor Blaenau Gwent a Chaerffili. Mae’r holl safleoedd ar agor i’r cyhoedd ar unrhyw adeg, a hynny am ddim.
3. Mae rhagor o fanylion am gynllun Plant! ar gael yma.
Fe all y cyfryngau gysylltu a:
Rory Francis (Publicity and Public Affairs Officer for Wales) ar 08452 935 738 neu 07760 171174, Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH e-bost roryfrancis@woodland-trust.org.uk
Neu Angharad Evans, (Swyddog Ymgyrchoedd yng Nghaerdydd) ar 08452 935 735 neu 07774 122802
Neu swyddfa’r wasg Coed Cadw yn Grantham sef media@woodland-trust.org.uk neu 01476 581121
Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r brif elusen yn y DU sy’n siarad dros goedlannau a choed. Mae ganddo 300,000 o aelodau. Mae gan y mudiad dri amcan allweddol, sef: i) galluogi creu rhagor o goedlannau brodorol a lleoedd sy’n frith o goed, ii) diogelu coedlannau a choed brodorol a’r bywyd gwyllt sy’n gysylltiedig â nhw at y dyfodol a iii) ysbrydoli pawb i fwynhau a gwerthfawrogi coedlannau a choed.
Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg yn 2000. Hen derm Cymraeg yw enw Cymraeg y mudiad,“coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r Oesoedd Canol i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.