Cymraeg
TV actor urges Welsh people to recycle Christmas cards to fund tree planting
Casualty star Colin Wells today kicked off the Woodland Trust’s annual Christmas card recycling scheme which generates funds to plant trees throughout the UK. And this year, all those who donate their old cards can vote for where they would like the trees to be planted!
Drop off cards in special bins at WH Smith (1), TK Maxx (2) and Marks & Spencer3 stores throughout January and then pop on line at woodlandtrust.org.uk/cards to vote for one of seven UK regions you’d like to see benefit from tree planting – Wales, South East England, South West England, the Midlands, the North of England, Scotland and Northern Ireland. Funding is provided by the retail partners.
Colin, who plays DI Moreland in the BBC drama, and his actress wife Joanna Macleod are backing the Trust’s 2010 card recycling and native tree planting campaign as a family, with their 12 year old daughter Rachael, son Joseph (six) and even Jimmy the family dog.
He said: “Planting a tree is the beginning of a new cycle, and a wonderful, important and very symbolic thing for anyone to do, especially children. Imagine how many children will be able to plant tiny oaks, ash and hazel trees that will stay there for ever, just from the simple act of us taking time to recycle our cards.”
Wales has long been a great supporter of the charity appeal, now in its 13th year. Last year, the scheme collected 55 tonnes of cards in Wales for recycling, or around 2.8 million cards!
Since the Woodland Trust started its Christmas Card Recycling Scheme, a total of 659m cards have been recycled nationwide - 59m last year alone, which funded the planting of 14,000 trees.
In the 12 years of the project, 13,080 tonnes of cards have been collected, allowing the Trust to plant 155,000 trees
Rory Francis, from the Woodland Trust said: “We have some fantastic woods in Wales owned by the Woodland Trust for us all to visit free of charge 365 days of the year – Wentwood Forest near Newport and Plas Power Woods near Wrexham to name just two. Wouldn’t it be great if we could help fund the creation of more new woods by simply recycling our cards? And this year we can have a say in where the trees are planted. So, I urge everyone to get behind the scheme, recycle those cards and get voting!”
For more information and to register your vote log on to www.woodlandtrust.org.uk/cards
For media enquiries contact:
Rory Francis (Publicity and Public Affairs Officer for Wales) on 08452 935 738 or 07760 171174 Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH Email roryfrancis@woodland-trust.org.uk
Or Anna Heslop, Campaigns Officer for Wales, on 08452 935 735 or 07824 416 518
Or Alex Claydon, PR officer for the Woodland Trust on 08452 935 605 (direct) 01476 581 111 Press Office or 07737 597 298 (Mobile)
Coed Cadw (The Woodland Trust)
The Woodland Trust is the UK’s leading woodland conservation charity. It has 300,000 members and supporters. The Trust has four key aims: i) No further loss of ancient woodland; ii) Restoring and improving the biodiversity of woods; iii) Increasing new native woodland; iv) Increasing people’s awareness and enjoyment of woodland.
Established in 1972, the Woodland Trust now has over 1,000 sites in its care covering approximately 20,000 hectares (50,000 acres). These include over 100 sites in Wales, with a total area of 1,580 hectares (3,900 acres). It offers free public access to nearly all of its sites. Further news can be accessed via www.coed-cadw.org.uk The Trust adopted its Welsh language name in 2000: “Coed Cadw”. This is an old Welsh term, used in medieval laws to describe protected or preserved woodland.
Stores participating
1 - UK mainland WHSmith high street stores only – (excludes all WHSmith Travel stores, Isle of Wight, Belfast and Channel Islands).
2 – This includes all HomeSense stores and TK Maxx stores in the UK and Northern Ireland only.
3 -All M&S stores including selected M&S Simply Food stores.
How the voting works
The Woodland Trust will count the final number of votes and new trees will be planted proportionally throughout the seven regions.
English
Cymru, dan ni angen eich cardiau chi!
Actor teledu yn erfyn ar bobl Cymru i ailgylchu eu cardiau Nadolig i ariannu plannu coed.
Mae seren y ddrama Casualty, Colin Wells, wedi lansio cynllun ailgylchu cardiau Nadolig Coed Cadw, sydd yn codi arian i blannu coed ar hyd a lled Gweledydd Prydain. Trwy gydol y flwyddyn hon, mae pawb sy’n rhoi eu hen gardiau i’r cynllun yn cael pleidleisio i ddweud lle y dylid plannu’r coed yma!
Fe allwch chi adael eich cardiau mewn biniau arbennig yn siopau WH Smith (1), TK Maxx (2) a Marks & Spencer (3) trwy gydol mis Ionawr, ac wedyn mynd at wefan woodlandtrust.org.uk/cards i bleidleisio ar gyfer un o wledydd neu ranbarthau o Wledydd Prydain lle y buasech chi’n hoffi gweld eich coed yn cael eu planau: Cymru, De-ddwyrain Lloegr, De-orllewin Lloegr, Canolbarth Lloegr, Gogledd Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae’r arian yn cael ei gynnig gan y siopau sy’n cymryd rhan.
Mae Colin, sy’n chwarae rhan DI Moreland yn y ddrama gan y BBC, ynghyd â’i wraig Joanna Macleod, sydd hefyd yn actores, yn cefnogi cynlyn ailgylchu cardiau Coed Cadw 2010 a’r ymgyrch plannu coed, a hynny fel teulu, gyda’u merch Rachael sy’n 12 mlwydd oed, eu mab Joseph sy’n chwech a hyd yn oed Jimmy'r ci.
Mae’n dweud: “Mae plannu coeden yn nodi cylch newydd. Mae’n rhywbeth gwych a phwysig i’w wneud, yn arbennig i blant. Dychmygwch faint o blant fydd yn cael y cyfle i blannu glasbrennau derw, ynn a chyll bychain fydd yn aros am byth, jest oherwydd ein bod ni wedi mynd â’n cardiau i gael eu hailgylchu.”
Mae Cymru wedi rhoi cefnogaeth frwd i’r ymgyrch, sydd bellach yn ei 13eg blwyddyn. Y llynedd fe gasglodd y cynllun dros 55 o dunelli o gardiau yng Nghymru i’w hailgylchu, sef tua 2.8 miliwn o gardiau!
Ers i Goed Cadw ddechrau’r cynllun ail-gychu cardiau Nadolig, ailgylchwyd cyfanswm o 659 miliwn o gardiau trwy’r wlad, 59 miliwn y llynedd yn unig, gan dalu i blannu 14,000 o goed.
Yn y 12 mlynedd ddiwethaf, casglwyd 13,080 o dunelli o gardiau, gan alluogi Coed Cadw i blannu 155,000 o goed.
Dywed Rory Francis o Goed Cadw: “Mae gynnon ni lwyth o goedlannau Coed Cadw gwych yng Nghymru sydd ar gael inni ymweld â nhw a hynny am ddim 365 o ddyddiau bob blwyddyn - Coed Gwent ger Casnewydd a choedlan Plas Power ger Wrecsam i enwi dwy yn unig. Oni fuasai’n wych petasen ni’n gallu helpu ariannu creu mwy o goedlannau, dim ond trwy ailgylchu’n cardiau ni? Ac eleni fe allwn ni ddweud lle dan ni eisiau gweld ein coed ni’n cael eu plannu. Felly, dwi’n erfyn ar bawb i gefnogi’r cynllun, ailgylchu’ch cardiau a mynd ati i bleidleisio!”
Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru i bleidleisio ewch at:
www.woodlandtrust.org.uk/cards
Fe all y cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis (Publicity and Public Affairs Officer for Wales) ar 08452 935 738 neu 07760 171174 Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH e-bost roryfrancis@woodlandtrust.org.uk
Neu Anna Heslop, Swyddog Ymgyrchoedd, ar 08452 935 735 neu 07824 416 518 neu e-bost annaheslop@woodlandtrust.org.uk
Neu Alex Claydon, Swyddog y Wasg o Goed Cadw yn Grantham ar 08452 935 605 (uniongyrchol) 01476 581 111 neu swyddfa’r wasg ar 07737 597 298 (ffôn poced)
Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 300,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.
Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coedcadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r Oesoedd Canol i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.
Siopau sy’n cymryd rhan
1 Mae’r cynllun yn cynnwys siopau WHSmith ar y stryd fawr yn unig. Nid yw’n cynnwys siopau teithio, Ynys Wyth, Belfast neu Ynysoedd y Sianel.
2 Mae’r cynllun yn cynnwys pob siop HomeSense a TK Maxx yn y DU a Gogledd Iwerddon, ond nid y rhai y tu allan.
3 Yn cynnwys pob siop M&S gan gynnwys ambell i siop Simply Food hefyd.
Sut mae’r pleidleisio yn gweithio?
Fe fydd Coed Cadw yn cyfri faint o bleidleisiau, a phlannir coed newydd yn y saith rhanbarth neu wlad yn ôl faint o bleidleisiau sy’n cael eu bwrw ar gyfer y gwledydd a rhanbarthoedd.