Cymraeg
Carwyn Jones meets the Woodland Trust to discuss how woods and trees can help deliver for Wales
Wales’ First Minister Carwyn Jones has met up with the Woodland Trust (Coed Cadw) to discuss how woods and trees can help deliver the Welsh Government’s ambitious plans to make the Welsh countryside more resilient to climate change and to help soak up CO2 emissions.
The meeting took place at Casehill Wood, near Dinas Powys, the Trust’s most heavily visited wood in Wales, and one at which AMs planted a special grove to celebrate the creation of the Assembly, back in 2001. The trees planted now tower over the heads of adults, demonstrating how quickly new woodland can be created.
Meeting up with Jerry Langford and Angharad Evans of the Trust, the First Minister discussed not just how trees can help improve the quality of environment in Wales’ towns and cities, but also how the Woodland Trust can help deliver a number of the Welsh Government’s objectives.
Jerry Langford, the Trust’s Director in Wales said: “We are delighted that the Welsh Government has recognised how woods and trees can help deliver many of its own priorities. Trees can help us control flood risk, deal with defuse pollution, soak up carbon from the atmosphere and, perhaps most important, improve health and the quality of life in cities, towns and villages. We’re keen to discuss what we as a charity can do to help support this.”
Carwyn Jones, the First Minister said: “I want Wales’ woodlands to provide more social and community benefits, support more local industries and contribute to a better quality of environment and lifestyle throughout Wales. That’s why we’ve set a target of creating 100,000 hectares of new woodland across Wales over the next 20 years. I’m keen to hear ideas from the Woodland Trust as to what they can do to help deliver this.
English
Prif Weinidog Cymru yn ymweld â choedlan Casehill
Carwyn Jones yn cwrdd â Choed Cadw i drafod sut all coedlannau a choed gyfrannu i Gymru
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi cwrdd gyda Choed Cadw er mwyn trafod sut all coed a choedwigoedd gyfrannu at gwrdd â chynllun uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i wneud cefn gwlad Cymru yn fwy gwydn i newid yn yr hinsawdd ac i helpu amsugno allyriad CO2.
Cynhaliwyd y cyfarfod yng Nghoedwig Casehill, ger Dinas Powys, un o safleoedd mwyaf poblogaidd Coed Cadw yng Nghymru. Mae hwn yn safle lle fu Aelodau’r Cynulliad yn plannu coedlan fach eu hunain nol yn 2001 i ddathlu sefydlu’r Cynulliad. Mae’r coed bellach yn uwch o lawer nag oedolion, gan arddangos pa mor gyflym medr coedlan newydd gael ei chreu.
Wrth gwrdd gyda Jerry Langford ac Angharad Evans o Goed Cadw, bu’r Prif Weinidog yn trafod nid yn unig sut fedr y coed helpu gwella safon yr amgylchedd yn nhrefi a dinasoedd Cymru, ond hefyd sut fedr Coed Cadw cynorthwyo’r Llywodraeth i gwrdd â’u hamcanion.
Dywedodd Jerry Langford, Cyfarwyddwr yng Nghymru: “Rydyn ni wrth ein bodd fod Llywodraeth Cymru yn sylweddoli fod coed a choedwigoedd yn medru eu cynorthwyo nhw i gwrdd â llawer o’u hamcanion. Mae coed yn ein helpu ni i reoli perygl llifogydd, ymdrin â llygredd, gwella safon iechyd a safon byw mewn dinasoedd, trefi a phentrefi. Rydyn ni’n awyddus iawn i drafod, beth fedrwn ni, fel elusen wneud i helpu cefnogi hyn.”
Dywedodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru: “Rydw i am i goed yng Nghymru ddarparu fwy o fuddion cymdeithasol a chymunedol, cefnogi diwydiannau lleol yn fwy a chyfrannu at safon uwch yn yr amgylchedd a ffordd o fyw drwy Gymru gyfan. Dyna pam rydyn ni wedi creu targed o greu 100,000 hectar o goedwigoedd newydd ar draws Cymru yn yr 20 mlynedd nesaf. Rwy’n awyddus iawn i glywed am syniadau Coed Cadw a sut fedran nhw ein cynorthwyo ni i ddarparu hyn.”