Cymraeg
Wales’ first Diamond Wood, a project to create 60 woodlands throughout the UK celebrating the Queen’s Diamond Jubilee, is being planted at Bluestone National Park Resort in Pembrokeshire.
Bluestone has started planting 35,000 trees at the resort’s 500 acre estate. The project, which will take 12 months to complete, will join together two parts of the ancient Canaston Woods for the first time in centuries, creating 60 acres of new natural woodland habitat.
Planting will continue throughout next year, involving guests and the local community throughout the project.
It is the first Diamond Woods projects to start planting in Wales and one of the first to be revealed in the UK.
Sixty new Diamond Woods, each around 60 acres in size, plus hundreds of smaller Jubilee Woods are being created across the UK as part of the Woodland Trust(Coed Cadw’s) ambitious Jubilee Woods project. The aim is to plant six million trees and to involve millions of people in the planting.
Bluestone, a luxury all-weather short-break destination, is expected to be one of just three in Wales and is one of the first to be revealed in the UK. “We’re very privileged to have been chosen as a site for a Diamond Wood,” said William McNamara, CEO of Bluestone.
“We’re a guardian of our local environment and the natural habitat here at Bluestone. It is a fundamental part of why many of our guests come to enjoy time with us, taking in and enjoying the stunning natural surroundings, fauna, wildlife, walks and spectacular Pembrokeshire countryside.
“The Canaston Woods form an important part of the local countryside and our planting will bring two parts of the woods together for the first time in many hundreds of years.”
Mr McNamara added: “We’re very pleased to be helping mark the Queen’s Diamond Jubilee in such a way. The environment and sustainability is integral to the Bluestone ethos and I can think of no better way of celebrating the Jubilee. It will allow generations of the future to enjoy a natural habitat rich in wildlife.”
A range of native trees are being planted following consultation with the Woodland Trust, Pembrokeshire Coast National Park Authority, Wildlife Trust, Countryside Council for Wales and the Forestry Commission.
They include Ash, Oak, Rowan, Hazel, Wild Cherry, Guelder Rose, Hawthorn, Crab Apple, Field Maple, Common Alder, Downy Birch, Blackthorn, Alder Buckthorn,Elder, Spindle and Aspen.
The project is being funded by Bluestone with part funding from Forestry Commission Wales through the Rural Development Plan for Wales 2007-2013. The plan is funded through the Welsh Government and European Union.
English
Pentref Gwyliau’r Garreg Las yn plannu’r 'Goedwig Ddeimwnt' gyntaf yng Nghymru
Plannir Coedwig Ddeimwnt gyntaf Cymru, ym mhentref gwyliau’r Garreg Las ym Mharc Cenedlaethol Sir Benfro, fel rhan o brosiect i greu 60 o goedwigoedd ledled y DU i ddathlu Jiwbilî Diemwnt y Frenhines.
Mae’r Garreg Las wedi dechrau plannu 35,000 o goed ar ei ystâd 500 erw. Fe fydd y prosiect, a fydd yn cymryd 12 mis i'w gwblhau, yn cysylltu dwy ran o Goed Canaston, sef coedlan hynafol, am y tro cyntaf ers canrifoedd, gan greu 60 erw o gynefin coetir naturiol newydd.
Fe fydd plannu’n parhau drwy gydol y flwyddyn nesaf, ac fe fydd gwesteion a'r gymuned leol yn cymryd rhan trwy gydol y prosiect.
Dyma'r Goedwig Ddeimwnt gyntaf sy’n cael ei phlannu yng Nghymru ac un o'r cyntaf i gael ei gyhoeddi yn y DU.
Creuir 60 o goedwigoedd deimwnt newydd ar draws y DU, pob un tua 60 erw o ran maint, yn ogystal â channoedd o goedlannau Jiwbilî llai, fel rhan o brosiect uchelgeisiol Coedydd y Jiwbilî, gan Goed Cadw (the Woodland Trust). Y nod yw plannu 6,000,000 coed ac i roi cyfle i filiynau o bobl gymryd rhan.
Y Garreg Las, sef pentref gwyliau moethus pob tywydd ar gyfer gwyliau byr, fydd yn un o ddim ond tair coedwig ddeimwnt yng Nghymru, mwy na thebyg, ac yn un o'r rhai cyntaf i gael eu datgelu yn y DU. "Mae’n fraint i gael ein dewis fel safle ar gyfer Coedwig Ddeimwnt," meddai William McNamara, Prif Swyddog Gweithredol y Garreg Las.
"Rydym yn awyddus i warchod yr amgylchedd lleol a'r cynefin naturiol yma yn y Garreg Las. Mae'n rhan sylfaenol o pam fod llawer o'n gwesteion yn dod i dreulio amser gyda ni, gan fwynhau'r amgylchedd naturiol trawiadol, anifeiliaid, bywyd gwyllt, teithiau cerdded a chefn gwlad trawiadol Sir Benfro.
"Mae Coed Canaston yn rhan bwysig o’r cefn gwlad lleol, a bydd ein gwaith plannu yn cysylltu dwy ran y goedlan â'i gilydd am y tro cyntaf yn gannoedd o flynyddoedd."
Ychwanegodd Mr McNamara: "Rydym yn falch iawn o allu helpu dathlu Jiwbilî Ddeimwnt y Frenhines fel hyn. Mae’r amgylchedd a chynaliadwyedd yn rhan annatod o ethos Garreg Las a dwi’n methu meddwl am ffordd well i ddathlu'r Jiwbilî. Bydd yn caniatáu i genedlaethau a ddêl fwynhau cynefin naturiol gyfoethog mewn bywyd gwyllt. "
Mae amrywiaeth o goed brodorol yn cael eu plannu, gan ddilyn cyngor Coed Cadw, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, yr Ymddiriedolaeth Byd Natur, Y Cyngor Cefn Gwlad Cymru a'r Comisiwn Coedwigaeth.
Maent yn cynnwys coed ynn, derw, cerddin, cyll, ceirios gwyllt, corswig, drain gwynion, afalau surion, masarn, gwern, bedw, drain duon, breuwyd, ysgaw, piswyd ac aethnennau.
Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan Brosiect y Garreg Las gyda chyllid ychwanegol oddi wrth Gomisiwn Coedwigaeth Cymru drwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013. Mae'r cynllun yn cael ei ariannu drwy Lywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd.