Cymraeg
Ancient tree hunt finds over 33 giant oaks, with a girth of over 8m, in Wales alone
The Woodland Trust is encouraging people across Wales to visit and hug their favourite ancient tree this weekend to celebrate the Ancient Tree Hunt reaching its 100,000 tree target.
Launched in 2007, the Ancient Tree Hunt aimed to map and record the location of old trees, as the first step in the protection and care of a vital and irreplaceable part of our national heritage and history. The target was to discover and record at least 100,000 ancient and notable trees across the UK – a target that now been reached.
Over 4,500 of the ancient and notable trees now recorded in the Ancient Tree Hunt database are in Wales. In every corner of the country there are amazing old trees to visit, many of them with fantastic stories attached to them.
Dafydd Ap Gwilym’s yew at Strata Florida Abbey in Ceredigion is believed to mark the spot where one of the greatest of medieval poets of Wales is buried. The site is in the care of Cadw and is open to the public to visit.
In north Wales, Chirk Castle boasts over 20 ancient and veteran trees, mostly oaks but also hornbeam and horse chestnut, with girths of up to a massive 8.3m. Being part of the National Trust’s Chirk estate, these can also be enjoyed by the public.
One person who very much appreciates Wales’ ancient trees is Ynyr Roberts one of the stars of the Welsh band Brigyn – which literally means ‘twig’. He says: “Tree, the landscape and the wildlife of Wales have been a huge influence on our music. We were brought up amid the beauty of Snowdonia and have travelled to every part of Wales since forming the band Brigyn. We still marvel at the natural world as we travel across Wales and truly appreciate the beauty of nature which has survived down the centuries.
“When we launched our second CD – Brigyn2, we were keen to combine a live performance with singing at a truly meaningful location. We did achieved that by singing in a tree! Yes, we performed songs while standing inside an immense ancient tree near Rhandirmwyn in Carmarthenshire. It was a very special event and it was a great experience to sing in such a memorable and unusual location. It’s important to look after our history here in Wales – and that includes wildlife and the landscape.”
Ynyr recently helped the Woodland Trust promote its Great Yews of Wales Tree Tour.
The results of the Heritage Lottery funded Ancient Tree Hunt have highlighted the remarkable wealth of ancient trees that can be found in Wales. Many of the great oaks and yew trees are over a thousand years old, characters in their own right providing the inspiration for legends and writers. As part of the project 33 giant oaks with a girth of over 8m have been located in Wales alone. These are not only important culturally and historically but vital as habitats for some of the UK rarest species.
Sue Holden, Chief Executive of the Woodland Trust, said: "The Ancient Tree Hunt has already achieved so much. It has encouraged thousands of members of the public to get involved in helping track down ancient trees and has generated an awareness of the value and importance of ancient trees.”
The Woodland Trust plans to launch a campaign this autumn to provide proper protection of Wales’ ancient trees. There have been a number of cases of veteran and mature trees being felled in Wales in recent years due to loopholes in the Tree Preservation Order system, which predates devolution.
The Ancient Tree Hunt has created a remarkable snapshot of ancient, veteran and notable trees in the UK at the beginning of the 21st Century. With the help of thousands of members of the public and more than 100 partners it has become one of the most detailed surveys of its kind in Europe.
Members of the public can register ancient and notable trees, or find ancient trees to visit at www.ancienttreehunt.org.uk
The Ancient Tree Hunt
The five year Heritage Lottery Funded project started in 2006 and aims to record at least 100,000 of the UK’s oldest and most notable trees by October 2011. Anyone can get involved. Members of the public have found and recorded ancient, veteran and notable trees on the website, adding details like the size of its girth, photos and stories connected with the tree. The project is backed by a volunteer verifier team whose detailed local knowledge is used to check information coming in from the public is robust. www.ancienttreehunt.org.uk It is led by the Woodland Trust in partnership with the Ancient Tree Forum and the Tree Register of the British Isles. It is funded by the Heritage Lottery Fund, the Esmee Fairbairn Foundation, the Northern Ireland Environment & Heritage Service, the Countryside Council for Wales, the Welsh Council for Voluntary Action, Scottish Natural Heritage and supported by the Forestry Commission Scotland and works with local partners across the UK. Joining the Hunt are the Tree Council, The Caravan Club, The National Trust, English Heritage and Forestry Commission, over 100 regional and local groups, and many landowners.
BRIGYN are brothers Ynyr and Eurig Roberts from Snowdonia, Wales. Since forming the musical movement in 2004, Brigyn have received plentiful airplay and TV appearances within Wales and the UK. Their sound is a mixture of modern folk music, crafted rhythm loops and lush, expansive orchestral samples. The brothers admit to being influenced by various music ranging from Bjork's electronica, through Simon & Garfunkel's folky sound, to 20th century classical composers.
English
Cofnodwyd 100,000 o goed hynafol a nodedig
Yr helfa coed hynafol yn cael hyd i 33 o goed derw mawr, sydd â chylchfesur o dros 8m, yng Nghymru yn unig
Mae Coed Cadw yn annog pobl ledled Cymru i ymweld a chofleidio eu hoff goeden hynafol y penwythnos hwn i ddathlu’r ffaith fod yr Helfa Coed Hynafol wedi gyrraedd ei tharged o gofnodi 100.000 o goed.
Lansiwyd yr Helfa Coed Hynafol yn 2007 gyda’r bwriad o gofnodi lleoliad hen goed, fel y cam cyntaf tuag at eu hamddiffyn a gwarchod y rhan hanfodol ac unigryw hon o'n treftadaeth genedlaethol a hanes. Y targed oedd darganfod a chofnodi o leiaf 100,000 o goed hynafol a nodedig ar draws y DU - targed sydd bellach yn ei gyrraedd.
Mae dros 4,500 o’r coed hynafol a nodedig a gofnodwyd y gronfa ddata yr Helfa Coed Hynafol yng Nghymru. Ym mhob cornel o'r wlad, mae hen goed anhygoel sydd yn werth ymweld â nhw, llawer ohonynt gyda straeon gwych ynghlwm wrthynt.
Credir fod ywen Dafydd Ap Gwilym yn Abaty Ystrad Fflur yng Ngheredigion yn nodi'r fan lle mae un o feirdd mwyaf Cymru wedi ei gladdu. Mae'r safle yng ngofal Cadw ac ar agor i'r cyhoedd i ymweld ag o.
Yn Nghastell y Waun yn y gogledd mae yna dros 20 o goed hynafol anferth, coed derw yn bennaf ond hefyd coed oestrwydd a castanwydd, gyda chylchfesurau o hyd at 8.3m. Gan fod y rhain ar stâd Y Waun, sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, fe all y cyhoedd fynd i’w gweld a’u mwynhau nhw.
Un person sy’n gwerthfawrogi coed hynafol Cymru yw Ynyr Roberts o’r band Brigyn. Mae’n dweud: “Mae coed, tirwedd a natur wyllt Cymru yn ddylanwad mawr ar ein cerddoriaeth. Rydym wedi cael ein magu ym mhrydferthwch Eryri ac wedi teithio i bob rhan o Gymru, ers ffurfio'r band Brigyn. Rydym o hyd yn rhyfeddu ar natur hynafol rydym yn ei weld wrth deithio’r wlad ac yn llawn edmygu'r harddwch natur sydd wedi goroesi dros ganrifoedd.
“Pan oeddem yn lansio ein hail CD - sef yr albwm Brigyn2, roeddem am gyfuno perfformiad byw gyda chanu mewn lleoliad o bwys. Ac fe ddaru ni wneud hyn drwy ganu mewn coeden! Ie, mi ddaru ni berfformio caneuon tra'n sefyll y tu mewn i goeden hynafol enfawr ger Rhandirmwyn. Roedd o'n ddigwyddiad arbennig iawn, a braf oedd cael canu mewn amgylchedd wahanol a chofiadwy. Mae'n bwysig gwarchod ein hanes yma yng Nghymru - a hynny i gynnwys natur a'r tirwedd.”
Mae Ynyr wedi bod yn helpu Coed Cadw i gyhoeddi Llwybr Coed Yw Mawreddog Cymru.
Mae canlyniadau’r prosiect, a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri wedi tynnu sylw at y cyfoeth anhygoel o goed hynafol sydd i'w gweld yng Nghymru. Mae llawer o goed derw ac yw mawr dros fil o flynyddoedd oed. Maen nhw’n gymeriadau ynddynt eu hunain sydd wedi ysbrydoli ar chwedlau ac awduron. Fel rhan o'r prosiect canfuwyd 33 y coed derw anderth sydd â chylchfesur o dros 8m yng Nghymru yn unig. Mae'r rhain nid yn unig bwysig yn ddiwylliannol ac yn hanesyddol. Maent yn hanfodol hefyd fel cynefinoedd ar gyfer rhai o'r rhywogaethau prinnaf y DU.
Dywedodd Sue Holden, Prif Weithredwraig yr Coed Cadw: "Mae’r Helfa Coed Hynafol wedi cyflawni cymaint eisoes. Mae o wedi annog miloedd o bobl i gymryd rhan mewn helpu cofnodi coed hynafol ac wedi creu ymwybyddiaeth o’u gwerth a’u pwysigrwydd . "
Mae Coed Cadw’n bwriadu lansio ymgyrch yn yr hydref i ddiogelu coed hynafol Cymru’n effeithiol. Mae nifer o goed hynafol ac aeddfed wedi cael eu cwympo yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf oherwydd gwendidau yn y drefn Gorchmynion Gwarchod Coed, a gafodd ei greu cyn dyfodiad datganoli.
Mae’r Helfa Coed Hynafol wedi creu llun hynod o coed hynafol ac yn nodedig yn y DU ar ddechrau'r 21ain ganrif. Gyda chymorth miloedd o aelodau o'r cyhoedd a mwy na 100 o bartneriaid y mae o wedi dod yn un o'r arolygon mwyaf manwl o'i fath yn Ewrop.
Fe all y cyhoedd gofrestru coed hynafol neu gael hyd i goed hynafol i ymweld â nhw wrth wefan www.helfacoedhynafol.org.uk
Yr Helfa Coed Hynafol
Prosiect pum mlynedd yw’r Helfa Coed Hynafol a Ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Ddechreuodd yn 2006 ac mae’n anelu at gofnodi o leiaf 100,000 o goed hynaf a mwyaf nodedig y DU erbyn mis Hydref 2011. Gall pawb gymryd rhan. Cofnodwyd coed hynafol a nodedig ar wefan, gan gynnwys manylion fel maint ei chwmpas, lluniau a straeon sy'n gysylltiedig â'r coed. Cefnogir y prosiect gan tîm ddilyswyr gwirfoddolwr sydd â gwybodaeth leol fanwl, sy’n gwirio’r wybodaeth sy’n dod i mewn gan y cyhoedd. www.helfacoedhynafol.org.uk Arweinwyd y prosiect gan Goed Cadw, mewn partneriaeth â Fforwm Coed Hynafol a Chofrestr Coed Ynysoedd Prydain. Mae'n cael ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, Sefydliad Esmee Fairbairn, Gwasanaeth Amgylchedd a Threftadaeth Gogledd Iwerddopn, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Treftadaeth Naturiol yr Alban a Chomisiwn Coedwigaeth a'r Alban yn gweithio gyda phartneriaid lleol ar draws y DU. Yn ymuno â'r prosiect y mae Cyngor Coed, Y Clwb Carafanau, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, English Heritage a'r Comisiwn Coedwigaeth, dros 100 o grwpiau rhanbarthol a lleol, a llawer o dirfeddianwyr.
BRIGYN yw prosiect cerddorol y brodyr Ynyr ac Eurig Roberts o ardal Eryri, Gogledd Cymru. Ers sefydlu Brigyn nol yn 2004, mae eu cerddoriaeth wedi cael ei chwarae yn gyson ar donfeddi radio, a'r teledu yma yng Nghymru ac ym Mhrydain. Mae eu sŵn yn gymysgedd o gerddoriaeth werin fodern, curiadau electronig, a defnydd helaeth o samplau cerddorfaol. Mae rhai o ddylanwadau cerddorol y brodyr yn amrywio o sŵn electronig Bjork, i swn gwerinol Simon & Garfunkel, i gyfansoddwyr clasurol y 20 ganrif.