Become a member
Print this page

Llyn village pulls together in tree planting challenge

Cymraeg

Coed Cadw (the Woodland Trust) and Merched y Wawr team up with the local community to breathe new life into Abersoch woodland

Coed Cadw and Merched y Wawr have teamed up this year with the aim of improving local environments across Wales by planting native trees. The latest result of the partnership could be seen in Abersoch on 12 April when members of the local Merched y Wawr branch along with other members of the community started to restore Coedwig Fach or Coed yr Allt, a community woodland in this pretty seaside village.

Volunteers planted around 100 native trees, provided by Coed Cadw, as the final part of Phase 1 of a programme of work intended to breathe new life into the wood as a result of:  improving access, restoring the footpath down to the River Soch, clearing litter and producing interpretation boards to draw attention to some of the birds and plants that can be seen there as well as benches so that people can relax and soak up the atmosphere of this wonderful woodland.

The programme of work has been developed and supported by a partnership of organisations: Cyngor Cymuned Llanengan, Ysgol Abersoch, Ysgol Sarn Bach, Ysgol Botwnnog (the three local schools); Merched y Wawr and Coed Cadw (Woodland Trust) following financial support by Cyngor Gwynedd Council's Tidy Towns Initiative Scheme and the Llŷn AONB Sustainable Development Fund.

Einir Wyn, who is both Clerk to Cyngor Cymuned Llanengan and National Secretary of Merched y Wawr, says: “Merched y Wawr was keen to team up with Coed Cadw to make a difference by planting native trees in local communities across Wales. It’s great to have the opportunity to plant trees here in Abersoch and it all shows that, when people are willing to work together, things really start happening.”

Rory Francis of Coed Cadw adds: “It’s one of our keys as a charity to support the creation of more native woods and places rich in trees and we’re keen to support anyone who can help achieve that. We’ve just posted out free packs of 30 trees to over 400 schools in Wales that have requested them, and we can also provide free trees, and even funding, to landowners through our MOREwoods grant scheme. Why not contact us? More details are online at: www.woodlandtrust.org.uk/morewoods “

For media enquiries contact:
Rory Francis (Publicity and Public Affairs Officer for Wales) on 08452 935 738 or 07760 171174 Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd.  LL41 3RH  Email roryfrancis@woodland-trust.org.uk

Or The Woodland Trust Press Office email media@woodland-trust.org.uk or Tel 01476 581121

Or Anna Heslop, Campaigns Officer for Wales, on 08452 935 735 or 07824 416 518

Coed Cadw (The Woodland Trust)
The Woodland Trust is the UK’s leading woodland conservation charity. It has 300,000 members and supporters. The Trust has three key aims: i) to enable the creation of more native woods and places rich in trees; ii) to protect native woods, trees and their wildlife for the future and; iii) to inspire everyone to enjoy and value woods and trees.

Established in 1972, the Woodland Trust now has over 1,000 sites in its care covering approximately 20,000 hectares (50,000 acres). These include over 100 sites in Wales, with a total area of 1,580 hectares (3,900 acres). It offers free public access to nearly all of its sites. Further news can be accessed via www.coed-cadw.org.uk The Trust adopted its Welsh language name in 2000: “Coed Cadw”. This is an old Welsh term, used in medieval laws to describe protected or preserved woodland.

English

Cymuned yn Llŷn yn dod at ei gilydd i blannu coed

Coed Cadw (the Woodland Trust) a Merched y Wawr yn cydweithio â’r gymuned leol i ddod â bywyd yn ôl i goedwig fach Abersoch

Mae Coed Cadw a Merched y Wawr wedi dod at ei gilydd eleni gyda’r bwriad o wella’r amgylchedd ar hyd a lled Cymru, a hynny trwy blannu coed brodorol. Roedd canlyniadau diweddaraf y bartneriaeth yma i’w gweld yn Abersoch ar y 12 Ebrill pan ymunodd aelodau cangen Merched y Wawr ag eraill o’r gymuned leol i adfer 'Y Goedwig Fach' neu 'Goed yr Allt', sef coedlan gymunedol y pentref tlws hwn.

Fe blannoedd gwirfoddolwyr oddeutu cant o goed brodorol a roddwyd gan Goed Cadw, i gwblhau cymal cyntaf rhaglen waith sydd â’i bryd ar ddod â bywyd yn ôl i’r goedlan yn dilyn: gwella mynediad, adfer y llwybr i lawr at Afon Soch, clirio sbwriel a darparu hysbysfyrddau i nodi pa goed, planhigion ac adar a welir ynddi, ynghyd â meinciau i'r cyhoedd gael mwynhau'r tawelwch.

Datblygwyd a chefnogwyd y rhaglen waith gan bartneriaeth o fudiadau: Cyngor Cymuned Llanengan, Ysgolion Abersoch, Sarn Bach a Botwnnog, Merched y Wawr a Choed Cadw trwy gefnogaeth ariannol Cynllun Trefi Taclus a Chronfa Ddatblygu Gynaliadwy AHNE Llŷn, Cyngor Gwynedd.

Dywed Einir Wyn, Clerc Cyngor Cymuned Llanengan, sydd hefyd yn Ysgrifennydd Cenedlaethol Merched y Wawr: “Roedd Merched y Wawr yn awyddus i gydweithio â Choed Cadw i wneud gwahaniaeth trwy blannu coed brodorol mewn cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru. Dwi wrth fy modd yn cael gwneud hyn yma yn Abersoch ac mae’n dangos be’ sy’n bosibl pan fydd pobl yn barod i weithio efo'i gilydd.”

Mae Rory Francis o Goed Cadw yn ychwanegu: “Un o’n prif amcanion ni fel elusen ydi cefnogi ymdrechion i greu mwy o goetir brodorol a mannau sy’n frith o goed a dan ni’n awyddus iawn i gefnogi unrhyw un sy’n medru’n helpu cyflawni hyn. Dan ni newydd anfon pecynnau o 30 o lasbrennau am ddim i dros 400 o ysgolion ledled Cymru sydd wedi gofyn amdanyn nhw, ac mi fedrwn ni ddarparu glasbrennau, a hyd yn oed arian i dirfeddianwyr trwy’r cynllun YCHWANEGoed. Beth am gysylltu â ni? Mae mwy o fanylion ar gael ar-lein wrth: www.woodlandtrust.org.uk/morewoods “

Fe all y cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis (Publicity and Public Affairs Officer for Wales) ar 08452 935 738 neu 07760 171174 Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH  e-bost roryfrancis@woodland-trust.org.uk

Neu swyddfa’r wasg Coed Cadw yn Grantham sef media@woodland-trust.org.uk neu 01476 581121

Neu Anna Heslop, Swyddog Ymgyrchoedd, ar 08452 935 735 neu 07824 416 518 neu e-bost annaheslop@woodlandtrust.org.uk

Nodiadau i olygyddion

Coed Cadw (The Woodland Trust)

Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 300,000 o aelodau. Mae gan y mudiad dri amcan allweddol, sef: i) galluogi creu rhagor o goedlannau brodorol a lleoedd sy’n frith o goed, ii) diogelu coedlannau a choed brodorol a’r bywyd gwyllt sy’n gysylltiedig â nhw at y dyfodol a  iii) ysbrydoli pawb i fwynhau a gwerthfawrogi coedlannau a choed.

Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coedcadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r Oesoedd Canol i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.

 

12/04/2010

Members of the local Merched y Wawr branch get planting, with contractor Dylan Jones

 

Einyr Wyn, spade in hand, with Anna Jones

Cymraeg

The Woodland Trust is the UK's leading woodland conservation charity.

The Woodland Trust is a charity registered in England and Wales (No. 294344) and in Scotland (No. SC038885).
A non-profit making company limited by guarantee. Registered in England No. 1982873.
Registered office: Kempton Way, Grantham, Lincolnshire, NG31 6LL.
The Woodland Trust logo is a registered trademark.
Contact us | FAQs | E-newsletter | Privacy & cookie policyAccessibility | DDA | Images © protected Woodland Trust

©2012 The Woodland Trust